9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU

– Senedd Cymru am 5:12 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 5:12, 17 Ionawr 2023

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM8176 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Banc Seilwaith y DU i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:13, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cynnig y cynnig. Mae Banc Seilwaith y DU yn fanc newydd sy'n eiddo i Lywodraeth y DU a lansiwyd ym Mehefin 2021 a fydd yn darparu £22 biliwn o gyllid seilwaith drwy drefniadau partneru gyda'r sectorau preifat a chyhoeddus. Amcanion penodol y banc yw defnyddio'r cronfeydd hyn i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac i sbarduno twf economaidd ar draws y DU. Mae'r banc wedi ei sefydlu yn lle'r Banc Buddsoddi Ewrop. Er bod Llywodraeth Cymru wedi lobïo'n galed am barhau i gael mynediad i Fanc Buddsoddi Ewrop, nid yw'n gweithredu yn y DU mwyach, yn dilyn ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n werth nodi hefyd bod cyfanswm adnoddau'r banc o £22 biliwn, er eu bod yn cael eu croesawu, yn swm cymharol fach i fynd i'r afael â newid hinsawdd a thwf economaidd rhanbarthol ar draws y DU gyfan.

Unig amcanion y banc yw helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd a chefnogi twf economaidd rhanbarthol a lleol. Bydd yn ceisio cyflawni'r amcanion hyn, gan weithio mewn pum sector allweddol, sef ynni glân, trafnidiaeth, digidol, gwastraff a dŵr. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddor o sefydlu'r banc newydd. Gan fod y banc wedi mynd i'r afael â newid hinsawdd fel un o'i amcanion canolog, bydd yn darparu ffynhonnell ychwanegol o gyllid i helpu benthycwyr cyhoeddus a phreifat i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Fel erioed, byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio defnyddio'r math rhataf o gyllid i ariannu buddsoddiad mewn seilwaith cyhoeddus, ond, fel benthycwr cyhoeddus newydd, ni ddylai'r banc gael ei anwybyddu lle mae ganddo'r potensial i gynnig gwerth am arian.

Yn bennaf mae'r Bil yn ceisio rhoi'r banc ar sail statudol. Er y bydd y banc yn gweithredu hyd braich o Lywodraeth y DU, mae'r Bil yn rhagnodi nifer fach o swyddogaethau i Lywodraeth y DU, megis y pŵer i benodi cyfarwyddwyr i'r bwrdd a, lle bo angen, newid nodau ac amcanion y banc.

Pan gyflwynwyd y Bil yn wreiddiol yn Senedd y DU fis Mai diwethaf, nid oedd y Bil, sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd, yn rhoi unrhyw ran i Lywodraeth Cymru na'r Senedd. Achosodd hyn gryn bryder i mi a'r Cwnsler Cyffredinol. Roedd tri chymal penodol yn destun pryder i ni lle'r oedd pwerau wedi eu cadw'n ôl i Lywodraeth y DU ac a fethodd felly â pharchu'r setliad datganoli.

Ar yr adeg yma, hoffwn ddiolch am waith diwyd y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Roedd y tri adroddiad pwyllgor a gynhyrchwyd yn amlygu llawer o'r un pryderon oedd gen i gyda'r Bil, ond hefyd mewn meysydd ychwanegol, a helpodd i lywio ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU.

Rydw i a fy swyddogion wedi cael trafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth y DU drwy gydol taith y Bil drwy'r Senedd, ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi sicrhau consesiynau ym mhob un o'r tri maes yr oeddem yn ymwneud â nhw. Mewn dau o'r cymalau, sef yr amcanion a'r gweithgareddau yng nghymal 2, a hefyd blaenoriaethau a chynlluniau strategol yng nghymal 3, rydym ni wedi sicrhau rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn iddynt arfer pwerau, megis addasu amcanion y banc neu osod blaenoriaethau strategol newydd ar gyfer y banc. Hoffwn sicrhau Aelodau'r Senedd, pryd bynnag y bydd Llywodraeth Cymru'n cael ymgynghoriad gan Drysorlys EM, byddaf yn sicrhau ein bod yn cysylltu â'r Senedd i sicrhau fy mod yn derbyn barn Aelodau cyn ymateb i unrhyw ymgynghoriad o'r fath.

Fel consesiwn pellach, yng nghymal 7, yn ymwneud â phenodi cyfarwyddwyr, rydym ni wedi sicrhau y penodir o leiaf un cyfarwyddwr gyda chyfrifoldeb am gyswllt ac i sicrhau y caiff buddiannau Llywodraeth Cymru eu cynrychioli ar lefel bwrdd yn y banc. Mae'n werth nodi bod hyn yn llawer mwy o ddylanwad nag a gawsom erioed gyda Banc Buddsoddi Ewrop.

Ar y cyfan, credaf fod drafft presennol y Bil, y cytunwyd arno diolch i ymdrechion adeiladol pob plaid, gan gynnwys Aelodau'r Senedd, ac yn arbennig ein pwyllgorau, yn cynrychioli cyfaddawd ymarferol. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:17, 17 Ionawr 2023

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r pwyllgor, fel rŷch chi'n gwybod, wedi ystyried y tri memoranda ar gyfer y Bil ac wedi cyhoeddi dau adroddiad. Mi osodwyd yr un diweddaraf ddoe, a dwi'n hyderu bod Aelodau wedi cael cyfle, ar fyr rybudd, wrth gwrs, i fwrw golwg ar hwnnw. 

Cyn troi at y darpariaethau sy'n arbennig o berthnasol i gylch gorchwyl y pwyllgor, ac at y mater o gydsyniad, hoffwn i ddweud ychydig o eiriau am y broses graffu. Fydd hyn efallai ddim yn ddiarth i nifer ohonoch chi, oherwydd fydd y pwyntiau dwi eisiau eu codi ddim yn newydd i Aelodau, ond dyw hynny, wrth gwrs, ddim yn golygu eu bod nhw'n llai pwysig mewn unrhyw ffordd.

Mae memorandwm Rhif 1 a Rhif 2, a osodwyd yr haf diwethaf, yn nodi pryderon Llywodraeth Cymru am y Bil—pryderon sy'n cael eu rhannu gan y pwyllgor, wrth gwrs. Ar y pryd, fe roddodd y Gweinidog sicrwydd ei bod yn trafod gwelliannau i fynd i'r afael â nhw, felly fe wnaethom ni ohirio penderfyniad ar y mater o gydsyniad.

Mae memorandwm Rhif 3, a gyfeiriwyd atom ni ychydig cyn toriad y Nadolig, yn rhoi manylion y gwelliannau a drafodwyd rhwng y Llywodraethau ac y cytunwyd arnyn nhw wedi hynny. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gwelliannau hyn, fel clywon ni nawr, yn gyfaddawd rhesymol, felly mae bellach yn gofyn i'r Senedd roi cydsyniad i'r Bil. Mae'r ffaith bod y gwelliannau wedi cael eu gwneud mor hwyr yn ystod hynt y Bil yn golygu dau beth, wrth gwrs: yn gyntaf, bod yr amser a oedd ar gael i ni gyflwyno adroddiad ar y memorandwm yn gyfyngedig, ac, yn ail, bod yr amser a oedd ar gael i'r Aelodau wedyn i ystyried ein canfyddiadau ni yn gyfyngedig cyn gofyn i Aelodau ffurfio barn ar gydsyniad. 

Yn ogystal â hyn, mae'n deg dweud nad oes gobaith y bydd gwelliannau pellach yn cael eu gwneud i'r Bil i fynd i'r afael â'n pryderon ni fel pwyllgor, sydd, ar y cyfan, yn dal i fodoli. Mi wnaf i ddod at y rheini mewn eiliad, ond, unwaith eto, mae hyn yn dangos, onid yw e, annigonolrwydd y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Felly, fe wnaf i symud ymlaen at y darpariaethau sydd o ddiddordeb arbennig i ni fel pwyllgor. Un o ddau amcan statudol y banc yw helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Nawr, rŷn ni’n gwybod, os yw Cymru am ddod yn genedl sero net erbyn 2050, fod angen buddsoddiad seilwaith sylweddol gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae'n bosib y gallai'r banc chwarae rhan bwysig wrth gynyddu a chyflymu y buddsoddiad hwnnw. O ystyried hyn, rŷn ni’n cefnogi creu'r banc mewn egwyddor.

Mae amcanion y banc yn ganmoladwy, ond mae yna ddiffyg amlwg, sef mynd i'r afael â'r argyfwng natur. O ystyried y dirywiad enbyd ym myd natur, a’r ffaith bod yr inc ond newydd sychu ar gytundeb y Cenhedloedd Unedig a ddaeth yn sgil COP15, mae’n siomedig iawn bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi diystyru cynnwys amcan natur yn benodol. Mae'r Gweinidog wedi rhoi sicrwydd y bydd y Bil, fel y'i drafftiwyd, yn galluogi buddsoddi mewn atebion sy'n seiliedig ar natur a bioamrywiaeth. Er bod hyn efallai yn galonogol—wrth gwrs, mae e—ond dyw e ddim yn cyfateb i amcan natur statudol. 

O ran ein pryderon eithriadol eraill ni am y Bil, mewn memoranda cynharach, fe ddywedodd y Gweinidog ei bod yn galw am ddiwygio’r Bil

'er mwyn galluogi’r Senedd a Gweinidogion Cymru i gymryd eu rôl briodol o fewn strwythurau llywodraethiant [y banc] er mwyn sicrhau atebolrwydd democrataidd priodol.'

Fe ddywedodd y byddai’r gwelliannau

'yn darparu rolau i Lywodraeth Cymru ac i’r Senedd sy’n cyfateb i rolau eu cymheiriaid yn y Deyrnas Unedig.'

Nawr, rŷn ni wedi cael blas gan y Gweinidog ar rai o’r gwelliannau roedden ni’n galw amdanyn nhw wrth agor y ddadl, ond, cyn hynny, wrth gwrs, doedd y Gweinidog ddim yn barod i rannu manylion y gwelliannau roedd hi'n galw amdanyn nhw gyda phwyllgorau’r Senedd. Roedd hyn ar y sail bod trafodaethau rhynglywodraethol yn parhau o hyd. Nawr, dyna ni; mae hwn eto, onid yw e, yn gofyn cwestiwn ynglŷn â’n rôl ni fel Senedd yng nghyd-destun y broses yma.

Nawr, wrth gwrs, mae’n rhaid ymgynghori, os dwi’n deall yn iawn, â Gweinidogion Cymru cyn y gall Gweinidogion y Deyrnas Unedig arfer pwerau mewn perthynas ag amcanion a gweithgareddau'r banc, a blaenoriaethau a chynlluniau strategol. Wel, dyw hyn, yn sicr, ddim hyn yn rôl gyfatebol, fel yr hyn roedden ni’n chwilio amdano fe. A beth am rôl y Senedd? Yn syml, dyw’r Bil ddim yn darparu rôl i’r Senedd. Gadewch i ni fod yn glir ynghylch beth mae hynny wedyn yn ei olygu—mae’n golygu bydd Senedd y Deyrnas Unedig, yn hytrach na Senedd Cymru, yn craffu ar sut y mae pwerau mewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu defnyddio, a nhw fydd yn goruchwylio effeithiolrwydd y banc i’r graddau mae'n ymwneud â Chymru.

Felly, ar ôl ystyried y Bil, fel y'i diwygiwyd, mae gennym bryderon o hyd am rôl gyfyngedig Gweinidogion Cymru o ran strwythurau llywodraethiant y banc, a’r ffaith, wrth gwrs, nad oes rôl wedi’i darparu ar gyfer y Senedd. Felly, Dirprwy Lywydd, o ystyried hyn, dyw’r pwyllgor ddim mewn sefyllfa i argymell bod y Senedd yn cydsynio i’r Bil.

Gaf i newid fy het nawr? Oherwydd dwi’n deall bod un cyfle gyda fi i gyfrannu, gaf i siarad fel llefarydd Plaid Cymru mewn brawddeg? Ie. Dim ond i ddweud, wrth gwrs, yn unol â’r arfer, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cydsyniad, ond mae nifer o’r gofidiau sydd ymhlyg yn yr hyn dwi wedi dweud yn y rôl arall sydd gyda fi yn y ddadl yma yn ddilys yn hyn o beth hefyd. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:23, 17 Ionawr 2023

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydym wedi llunio dau adroddiad sy'n cwmpasu'r tri memorandwm cydsyniad sydd wedi'u gosod gan y Gweinidog ar y Bil hwn—cwblhawyd y cyntaf fis Hydref diwethaf, a gosodwyd yr ail brynhawn ddoe. Nid yw'r un o'n hadroddiadau’n cynnwys nifer helaeth o gasgliadau neu argymhellion, felly bydd fy sylwadau yn y ddadl hon yn fyr iawn.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:24, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Llywydd, i'r rhai sy'n cadw cyfrif, ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 3 oedd ein deugeinfed adroddiad ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol yn y chweched Senedd hon.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Felly, gyda'ch gwahoddiad chi, Dirprwy Lywydd, byddaf yn siarad yn y ddwy ddadl arall ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer dau Fil arall y prynhawn yma, rhag diflasu pawb yma yn y Siambr, ond cymaint yw'r graddau y mae Llywodraeth y DU yn cynnig ac yn wir mae Senedd y DU yn pasio deddfwriaeth bellach yn ymwneud â materion datganoledig.

Nawr, rwy'n gwneud y pwynt hwn oherwydd bod casgliadau 2 a 3 yn ein hadroddiad cyntaf yn amlygu ein pryderon, er gwaethaf gweithio rhynglywodraethol cyn cyflwyno'r Bil, a barodd sawl mis, fe gyflwynwyd y Bil yn wir i Senedd y DU mewn modd a olygai na allai Llywodraeth Cymru, pan gyflwynodd ei memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd, argymell y dylai'r Senedd gydsynio i'r Bil. A nodwyd ein siom bryd hynny bod hyn yn dangos methiannau clir mewn gweithio rhynglywodraethol, ac nid ydym yn beio'r Gweinidog yma am hynny, ond mae'n chwalfa glir yno.

Yn ein hail adroddiad, ynghylch memorandwm Rhif 3, rydym yn cydnabod ei bod yn ymddangos y bu cynnydd o ran cysylltiadau rhynglywodraethol, i'r graddau bod y Gweinidog wedi sicrhau rhai consesiynau ac mae bellach yn argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i'r Bil, felly mae hynny i'w groesawu. Gofynnodd argymhelliad 1 yn ein hadroddiad cyntaf am eglurder pam nad oedd achosion o fethiannau mewn gweithio rhynglywodraethol, fel y dangoswyd yn wreiddiol mewn cysylltiad â'r Bil hwn, wedi eu huwchgyfeirio i lefelau uwch yn y strwythurau rhynglywodraethol, gan gynnwys drwy ddefnyddio'r gweithdrefnau datrys anghydfod ffurfiol diwygiedig.

Nawr, rydym ni wedi nodi ymateb y Gweinidog, yn ei barn hi,

'cafwyd deialog adeiladol â Thrysorlys Ei Fawrhydi' ac, i ddyfynnu,

'ni fu'n rhaid uwchgyfeirio'r materion'.

Fodd bynnag, mae'n parhau'n aneglur i ni beth fyddai angen digwydd, neu yn wir i beidio â digwydd, cyn y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio defnyddio proses ffurfiol o ddatrys anghydfod—nid yn unig o fewn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn a'r Bil hwn, ond mewn rhai eraill—yr oedd yn eu hargymell er mwyn datrys anghytundebau difrifol â Llywodraeth y DU. Nawr, efallai y byddwn ond yn dysgu hyn wrth edrych yn ôl pan fydd y broses o ddatrys anghydfod wedi'i defnyddio mewn dicter, a phan nad yw trafodaethau blaenorol wedi datrys anghytundebau yn gynharach. Ond byddem yn dal i groesawu, pe gallem gael hynny, eglurhad pellach ynghylch pryd yn wir y gellir sbarduno proses datrys anghydfod ffurfiol.

Gofynnodd argymhelliad 2 yn ein hadroddiad cyntaf i'r Gweinidog egluro beth oedd hi'n ei olygu pan ddywedodd hi wrthym ni fod Llywodraeth Cymru'n parhau, ac rwy'n dyfynnu,

'i ddadlau y dylai Senedd a Llywodraeth Cymru, ill dwy, arfer pwerau sy’n gyfwerth â phwerau’r sefydliadau cyfatebol ar lefel y DU.'

Felly, roedden ni ychydig yn siomedig gyda'r ymateb gan y Gweinidog pan ddywedodd hi wrthym ni nad oedd hi'n gallu rhoi manylion penodol am union natur y gwelliannau y gellid eu cyflwyno, ac y bu ei 

'swyddogion wedi mynegi’n glir fod rhaid mynd i’r afael â materion sy’n destun pryder cyfansoddiadol mewn modd sy’n dderbyniol i mi'— y Gweinidog—

'ac, yn y pen draw, i'r Senedd.'

Fodd bynnag, nid yw hyn yn mynd i'r afael yn ddigonol ac yn fanwl â'r cais a wnaed yn ein hargymhelliad. Felly, tybed, Gweinidog, a allwch chi fyfyrio ar y pwynt hwn yn eich sylwadau wrth gloi, gan ehangu ar yr hyn yr oeddech yn ei olygu gan y datganiad hwnnw,

'i ddadlau y dylai Senedd a Llywodraeth Cymru, ill dwy, arfer pwerau sy’n gyfwerth â phwerau’r sefydliadau cyfatebol ar lefel y DU', oherwydd fe wnaethoch chi ennyn ein chwilfrydedd ac yna'n gadael ni'n aros ac yn disgwyl mwy. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:28, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i gyd-Aelodau am eu sylwadau yn y ddadl y prynhawn yma, a dylwn ymateb i rai o argymhellion y pwyllgor ar lawr y Senedd, oherwydd rwy'n gwybod mai dyma oedd argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith sef i mi ymateb i'w hargymhellion 2 a 3 yn ystod y ddadl y prynhawn yma. Felly, rwy'n falch o wneud hynny, ac rwy'n gwybod bod y pwyllgor yn awyddus fy mod yn egluro a allai'r banc weithredu fel benthyciwr i awdurdodau cyhoeddus datganoledig heblaw awdurdodau lleol, yn seiliedig ar y diffiniad newydd o awdurdodau cyhoeddus, a hefyd pa un a allai a sut y gallai gallu awdurdodau cyhoeddus datganoledig i fenthyg gan Fanc Seilwaith y DU effeithio ar drefniadau ariannu ar gyfer y cyrff hynny.

Felly, dim ond i gadarnhau ein bod yn croesawu'r ffaith bod y diffiniad o awdurdodau cyhoeddus wedi'i ehangu i'w gwneud hi'n glir y gall y banc roi benthyg i ystod ehangach o awdurdodau cyhoeddus datganoledig, yn hytrach nag awdurdodau lleol yn unig. Byddai'n rhaid ystyried pa mor briodol fyddai benthyca i awdurdodau cyhoeddus penodol ac unrhyw effaith ar eu trefniadau cyllido fesul achos, ond rwy'n fwy na pharod i roi mwy o fanylion i bwyllgor wrth i ni ddechrau defnyddio'r banc, a chysylltu gydag awdurdodau cyhoeddus i gloriannu eu profiad o ymwneud â'r banc. Ac fe ddywedaf fod ein swyddogion yn Llywodraeth Cymru mewn cyswllt cyson iawn â banc—fel, mewn gwirionedd, y mae Banc Datblygu Cymru—i sefydlu'r perthnasoedd da hynny.

Ac yna, o ran y consesiynau hynny yr oeddem yn ceisio eu negodi, roedden nhw'n ymwneud â'r tri chymal penodol hynny yr wyf wedi'u disgrifio y prynhawn yma. O ran rôl i Weinidogion Cymru pe byddid yn ystyried diwygio cymalau 2 a 3, mae'r rheini'n ymwneud, wrth gwrs, â'r blaenoriaethau a'r cynlluniau strategol, ac amcanion a gweithgareddau'r banc. Ond wedyn, hefyd y pwynt yna am gyfarwyddwyr: felly, yn wreiddiol, rwy'n credu y byddem ni eisiau'r gallu i benodi cyfarwyddwr i'r bwrdd hwnnw ein hunain. Ni wnaethom lwyddo i gyrraedd y pwynt yna gyda Llywodraeth y DU, ond rwy'n credu bod yr hyn y gwnaethon ni ei drafod, sef y byddai aelod penodol o'r bwrdd yn gyfrifol am gyswllt gyda'r swyddogaeth o gynrychioli barn Llywodraeth Cymru ar y bwrdd hwnnw, rwy'n credu, yn gonsesiwn pwysig yr oeddem yn gallu ei gyflawni o ran y pryder penodol hwnnw a oedd gennym ni.

O ran yr amser a gymerodd i'n cael ni i'r pwynt hwn, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod bod oedi cyn cyrraedd sefyllfa o gyfaddawd, ond roedden nhw'n fwy o gynnyrch y newidiadau niferus o ran Gweinidogion y Trysorlys yn San Steffan, yn benodol dros yr haf, yn hytrach nag unrhyw anghytundeb penodol a gawsom ni ar rai o'r materion hyn yr oeddem yn ceisio eu datrys. Felly, rwy'n credu y bydd yr hyn yr ydym ni wedi gallu ei drafod yn sicr yn welliant ar y sefyllfa gychwynnol, ac rwy'n credu ein bod ar bwynt nawr lle rydym yn gallu argymell cydsyniad, oherwydd mae ein pryderon allweddol wedi cael sylw mewn ffordd yr ydym yn credu sy'n bragmataidd ac yn caniatáu i ni heddiw argymell cydsyniad.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:31, 17 Ionawr 2023

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:31, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, ydych chi mewn sefyllfa i barhau ag eitem 8?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Ydw, gyda ymddiheuriadau am y dryswch cynharach.