Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 18 Ionawr 2023.
Weinidog, mae'n sicr mai’r ffordd orau i lywodraeth leol gefnogi eu trigolion yw osgoi codiadau yn y dreth gyngor. Mae costau ynni cynyddol oherwydd rhyfel anghyfreithlon Putin a chostau bwyd cynyddol o ganlyniad i'r pandemig a newid hinsawdd yn taro aelwydydd yn galed. Y peth olaf sydd ei angen arnynt yw rhagor o godiadau treth. Weinidog, a wnewch chi annog cymedroldeb ymhlith eich cymheiriaid yn yr awdurdodau lleol, ac a ydych yn barod i roi cap ar y dreth gyngor yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod?