1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 18 Ionawr 2023.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda phartneriaid llywodraeth leol am sut y gallant gefnogi trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw? OQ58962
Rwy’n cynnal cyfarfodydd rheolaidd ag arweinwyr awdurdodau lleol ac yn trafod effeithiau’r argyfwng costau byw, gan gynnwys y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i alluogi awdurdodau i barhau â’u cymorth hollbwysig i drigolion.
A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei hateb? Bydd yn ymwybodol fy mod, dros y deufis diwethaf, wedi bod yn codi mater gosod mesuryddion talu ymlaen llaw ac yn galw am waharddiad ar unwaith ar osod y mesuryddion hyn. Golyga'r mesuryddion hyn fod trigolion tlotaf ein cymdeithas yn talu mwy am eu hynni, a Lywydd, rwyf wedi siarad â nifer o elusennau sydd wedi rhoi tystiolaeth i mi fod gorchmynion llys yn cael eu pasio yn eu cannoedd. Nawr, golyga hyn nad oes diwydrwydd dyladwy'n cael ei ddangos, fel mai gosod mesuryddion talu ymlaen llaw yw'r opsiwn priodol i gwsmeriaid. Nid yw hyn yn digwydd. Yr hyn sy'n digwydd yw bod mesuryddion trigolion hynod agored i niwed ein cymdeithas yn cael eu newid yn amhriodol. Weinidog, roeddwn yn falch o weld bod Ed Miliband wedi ymuno â fy ngalwadau yr wythnos hon am waharddiad ar osod mesuryddion talu ymlaen llaw, ond hanfod y pwynt yw na ddylem fod yn newid mesuryddion pobl yng nghanol y gaeaf ac yn ystod argyfwng costau byw. A gaf fi ddiolch i chi am y cymorth rydych yn ei gynnig i'n partneriaid llywodraeth leol, ond a gaf fi ofyn i chi beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi partneriaid llywodraeth leol pan fyddant yn cynghori trigolion y mae eu mesuryddion eisoes wedi cael eu newid i fesuryddion talu ymlaen llaw?
Rwy’n ddiolchgar iawn i Jack Sargeant am godi hyn y prynhawn yma, a hoffwn gydnabod y gwaith anhygoel y mae Jack Sargeant yn ei wneud yn arwain yr ymgyrch ar fesuryddion talu ymlaen llaw. Mae cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi'r ymgyrch honno ar eich rhan. Felly, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cael cyfarfod pellach gyda chyflenwyr ynni ar 23 Ionawr, ac unwaith eto, bydd yn codi’r pryderon hyn ynghylch adroddiadau fod mesuryddion pobl, gan gynnwys cwsmeriaid agored i niwed, yn cael eu newid i fesuryddion talu ymlaen llaw. A gwn ei bod wedi codi'r un pwyntiau mewn cyfarfodydd blaenorol a gafodd gyda chyflenwyr ynni. Ysgrifennodd y Gweinidog hefyd at Grant Shapps ar 23 Rhagfyr, gan amlinellu ein pryderon ynghylch mesuryddion talu ymlaen llaw, ac rydym yn achub ar gyfleoedd, pan fyddant yn codi, gyda Llywodraeth y DU, unwaith eto, i ddadlau'r achosion hynny. Ac mae swyddogion yn parhau i gysylltu ag Ofgem i ddeall a yw cwsmeriaid y mae eu mesuryddion yn cael eu newid i fesuryddion talu ymlaen llaw yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad, oherwydd, hyd yn hyn, nid yw hynny'n eglur i ni.
Fel y dywed Jack Sargeant, mae hwn yn fater sy'n effeithio'n benodol ar yr aelwydydd mwyaf agored i niwed. Mae’n bryder gwirioneddol fod bron i hanner tenantiaid tai cymdeithasol ar fesuryddion talu ymlaen llaw ar hyn o bryd, ac yn amlwg, golyga hynny y bydd llawer o’r rheini’n talu mwy na’r hyn y bydd cwsmeriaid eraill yn ei dalu am eu hynni. Felly, mae'n gwbl briodol ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion yn y maes penodol hwn. Ac yn amlwg, byddaf yn achub ar gyfleoedd yn fy nhrafodaethau rheolaidd â llywodraeth leol i sicrhau eu bod hwy'n cymryd y camau cywir yn hyn o beth.
Weinidog, mae'n sicr mai’r ffordd orau i lywodraeth leol gefnogi eu trigolion yw osgoi codiadau yn y dreth gyngor. Mae costau ynni cynyddol oherwydd rhyfel anghyfreithlon Putin a chostau bwyd cynyddol o ganlyniad i'r pandemig a newid hinsawdd yn taro aelwydydd yn galed. Y peth olaf sydd ei angen arnynt yw rhagor o godiadau treth. Weinidog, a wnewch chi annog cymedroldeb ymhlith eich cymheiriaid yn yr awdurdodau lleol, ac a ydych yn barod i roi cap ar y dreth gyngor yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod?
Wel, hoffwn ddechrau drwy ddweud nad ydym yn diystyru'r her y mae ein cymheiriaid mewn llywodraeth leol yn ei hwynebu oherwydd y pwysau chwyddiant sydd arnynt ar hyn o bryd. Oherwydd, wrth gwrs, yn union fel y mae gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru wedi ei erydu, mae gwerth cyllideb llywodraeth leol hefyd wedi ei erydu. Ond serch hynny, rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ar wasanaethau cyhoeddus, a dyna pam, y flwyddyn nesaf, y byddwn yn darparu cyllid refeniw heb ei neilltuo o dros £5.5 biliwn, a thros £1 biliwn o grantiau penodol i gefnogi awdurdodau lleol yn eu gwasanaethau statudol ac anstatudol. Golyga hynny fod cyllid craidd i lywodraeth leol ar gyfer 2023-24 wedi cynyddu 7.9 y cant, neu £403 miliwn ar sail debyg am debyg o gymharu â’r flwyddyn ariannol hon. Felly, rydym yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod awdurdodau lleol yn y sefyllfa orau bosibl, ond wrth gwrs, gwyddom nad yw'r cyllid ychwanegol y gallwn ei ddarparu yn llenwi'r bwlch a achosir yn bennaf gan chwyddiant, ac o ganlyniad, bydd angen i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd.
Nawr, mae'n wir, wrth gwrs, fod awdurdodau lleol yn gosod eu lefelau treth gyngor eu hunain. Gwn fod nifer yn ymgynghori ar hyn o bryd. Mae gan Lywodraeth Cymru rym i'w capio, fel y dywedwch, ond ni chredaf ein bod wedi cyrraedd y pwynt eto lle gallem wneud penderfyniad ar hynny, ac mae’n sicr yn rhywbeth na fyddem yn ei wneud ar chwarae bach; mae'n rhywbeth y byddem yn ei wneud mewn achosion lle mae'r codiadau hynny'n amlwg yn ormodol. Felly, er eglurder, rydym yn credu'n wirioneddol mai mater i awdurdodau lleol yw pennu lefelau eu treth gyngor; mae'n rhan bwysig o ddemocratiaeth leol.
Gwyddom fod y problemau economaidd sy’n ein hwynebu yn deillio o Stryd Downing—[Torri ar draws.]—a bod y rheoli economaidd di-glem yn Llundain, ynghyd â Brexit, wedi arwain at un o’r argyfyngau costau byw mwyaf a welwyd erioed i lawer ohonom. Nawr, mae hyn yn gwneud i'r Blaid Geidwadol chwerthin, wrth gwrs, oherwydd pan fydd pobl yn llwglyd, pan fydd pobl yn oer, nid ydynt yn malio dim am yr hyn sy'n digwydd i'r bobl hynny, ond ar yr ochr hon i'r Siambr, wrth gwrs, rydym yn malio. A’r hyn yr hoffwn i chi ei wneud, Weinidog, yw defnyddio eich grym fel catalydd i ddod â phobl ynghyd. Mae’r ddau argyfwng sy’n wynebu pobl yng Nghymru, yr argyfwng newyn a'r argyfwng gwresogi, fel y dywedais, yn argyfyngau nad ydynt yn cael eu datrys gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw camu i’r adwy i ddod â phobl ynghyd, fel y gallwn rannu arferion gorau a rhannu adnoddau i fynd i’r afael â’r argyfwng gwirioneddol sy’n wynebu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed ym Mlaenau Gwent, yng Ngŵyr, ac ar draws y wlad.
Byddwn yn cytuno’n llwyr mai un o’r pethau pwysicaf y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud yw dod â'r rheini sydd â gyfrifoldebau am wasanaethu ein dinasyddion ynghyd i sicrhau bod ein hymdrechion yn cael eu cyfuno a’n bod oll yn canolbwyntio ar y pethau mwyaf pwysig i bobl, a dyna un o'r rhesymau pam y cawsom gyfarfodydd bob pythefnos gyda'n cymheiriaid mewn llywodraeth leol dros yr hydref. Un o'r eitemau sefydlog yn y cyfarfodydd pythefnosol hynny oedd yr argyfwng costau byw, ochr yn ochr ag eitem sefydlog arall, sef Wcráin. Rydym wedi newid y cyfarfodydd hynny bellach i fod yn rhai misol, gan fod y sefyllfa, ar y dechrau, yn golygu bod angen inni lunio ymyriadau newydd, ond mae’r ymyriadau newydd hynny bellach ar waith. Ond wrth gwrs, mae hefyd yn eitem sefydlog bellach i gyngor partneriaeth Cymru, a fydd yn cyfarfod nesaf ar 2 Mawrth, ac wrth gwrs, mae hwnnw'n fforwm gwasanaethau cyhoeddus llawer ehangach, i sicrhau bod holl gyrff y sector cyhoeddus a gwirfoddol yn gweithio i'r un cyfeiriad, fod pob un ohonynt yn cyfrannu at yr ymdrech i gefnogi ein dinasyddion drwy'r argyfwng costau byw. A hoffwn sôn hefyd am is-bwyllgor y Cabinet ar gostau byw, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog. Nawr, rydym yn gwahodd partneriaid o'r tu allan i'r Cabinet i bob yn ail o gyfarfodydd y pwyllgor hwnnw. Felly, mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach, er enghraifft, a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi ymuno â ni, ac rydym wedi cael cynrychiolwyr o'r sector gwirfoddol, i sicrhau bod ein holl ymdrechion yno gyda’i gilydd i gefnogi ein trigolion drwy’r argyfwng costau byw.