Mesurau Iechyd Ataliol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:11, 18 Ionawr 2023

Diolch am yr ymateb yna, ond yr un bregeth eto gen i, mae gen i ofn. Mae angen gwneud llawer, llawer mwy ar yr ataliol os ydyn ni am wneud Cymru yn genedl fwy iach, a hynny reit ar draws y Llywodraeth. Yn Ynys Môn mae yna bryderon go iawn am ddyfodol y cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, neu NERS, oherwydd diffyg buddsoddiad. Rŵan, £145,530 mae'r cyngor sir wedi'u derbyn eleni i ariannu NERS; yr un swm ag y sydd wedi'i dderbyn ers 2015. Mae'r cyngor sir wedi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd am hyn. Mae ganddyn nhw rhestr aros o bobl ond diffyg adnoddau, ac mae'n rhaid i ni wneud mwy o'r math yma o beth os ydyn ni'n wirioneddol am ffocysu ar fesurau ataliol.

Dwi hefyd wedi bod yn siarad â'r Nifty Sixties yng Nghaergybi, corff sydd eisiau ymestyn ei waith ar draws yr ynys i roi gwell iechyd i bobl hŷn. Mae angen iddyn nhw allu cael pobl wedi'u cyfeirio atyn nhw. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i drafod â'r Gweinidog iechyd sut i gynyddu'r swm yma? Oherwydd oni bai bod y buddsoddiad byrdymor yma, cymharol fach, yn cael ei wneud, yna mi fydd y pwysau'n mynd yn fwy ac yn fwy yn y hirdymor ar y gyllideb gyfan.