Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr iawn am hwnna, a dŷch chi'n rhoi'r cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol, wrth gwrs, ond chi sy'n gwneud y toriadau. Pa gyngor, felly, sydd gennych chi i awdurdodau sydd rŵan yn gorfod penderfynu rhwng cau canolfannau dydd i'r henoed, torri gwasanaethau datblygu'r economi, cau canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, lleihau trafnidiaeth gyhoeddus, gwneud llai i ddelio â'r argyfwng hinsawdd, peidio â gwario ar hybu'r iaith Gymraeg a llu o bethau eraill hanfodol mae llywodraeth leol yn eu gwneud ar ran pobl Cymru? Sut mae cynghorau i fod i ddewis rhwng y pethau annerbyniol yma, a pha gyngor sydd gan y Gweinidog i bobl Cymru fydd ddim yn derbyn y gwasanaethau hanfodol yma o hyn allan?