Pryfed Peillio

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:20, 18 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Heb wenyn a phryfed peillio eraill, byddem yn llwgu. Ac os ydym am osgoi tynged ffermwyr yn yr Unol Daleithiau, sy'n gorfod dibynnu ar wenyn a gaiff eu cludo gan lorïau dros bellteroedd mawr, rhaid inni sicrhau coridorau i ddenu gwenyn ledled Cymru gyfan. Yr wythnos nesaf byddaf yn plannu coeden sy'n blodeuo fel rhan o brosiect coed sy'n blodeuo yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Weinidog, a wnewch chi annog ffermwyr i blannu coed sy'n blodeuo, ac a wnewch chi annog garddwyr ar draws y wlad i blannu coed sy'n blodeuo a blodau gwyllt i ddarparu coridorau ar gyfer ein pryfed peillio hanfodol? Diolch.