Pryfed Peillio

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:21, 18 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydych yn llygad eich lle; mae iechyd gwenyn yn gwbl hanfodol i'n bodolaeth. Mae'n dda iawn clywed am y gwaith a wnewch. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi coeden am ddim i bawb ledled Cymru, felly dyna un ffordd rydym yn annog pobl i blannu mwy o goed. Yn sicr, rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â phlannu blodau gwyllt ar ymylon ffyrdd a chylchfannau; gwelais enghreifftiau da iawn o hynny yng ngogledd Cymru. Ond os gall pawb ohonom wneud ychydig bach, rwy'n credu  y bydd hynny'n helpu yn y dyfodol.