Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch. Do, rwyf wedi cael sgyrsiau. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym brif swyddog milfeddygol dros dro ar hyn o bryd, ac rwyf wedi cael sawl sgwrs gydag ef ynglŷn â hyn. Mae'n amlwg ei fod wedi cael sgyrsiau, a daeth y ffaith bod CNC, fel y soniais, yn disgwyl i'r costau cynyddol effeithio ar nifer gymharol fach o ffermydd allan o'r trafodaethau hynny. Mae'n iawn mai dyma un o'r ffyrdd yn unig, fel y dywedwch, o gael gwared ar ddip defaid sydd wedi'i ddefnyddio, ond os mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol, byddech yn gobeithio mai dyma fyddai'r un y byddai ffermwyr yn ei defnyddio, oherwydd ei fod yn wenwynig iawn i'n planhigion dyfrol, er enghraifft, ac i anifeiliaid, ac mae'n bwysig iawn eich bod yn cael gwared arno yn y ffordd gywir. Felly, fel y dywedais, byddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, oherwydd yn amlwg bydd CNC yn rhoi eu hargymhellion iddi ar ddiwedd yr ymgynghoriad.