2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 18 Ionawr 2023.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i frwydro yn erbyn lledaeniad clefydau mewn da byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58965
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i frwydro yn erbyn lledaeniad clefydau mewn da byw—hynny yw, livestock—yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Cyn i'r Gweinidog ateb, does dim angen cyfieithu 'da byw'. Rŷn ni i gyd yn ymwybodol o beth yw'r ystyr. Sticiwch at y cwestiwn fel mae e wedi cael ei gyflwyno. Y Gweinidog i ymateb.
Mae rheoli clefydau endemig ac egsotig mewn da byw yng Nghymru yn ganolog i'n fframwaith iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer 2014 i 2024. Mae gennym oruchwyliaeth gadarn, strategaethau rheoli a rhaglenni a phrosiectau parhaus ar waith ar gyfer dileu clefydau anifeiliaid i reoli ac atal eu lledaeniad, mewn cydweithrediad â cheidwaid anifeiliaid a milfeddygon. Mae bioddiogelwch yn hollbwysig wrth gwrs.
Diolch yn fawr iawn. Fel ŷn ni i gyd yn gwybod, mae'r clafr, sef sheep scab, yn bryder mawr i ffermwyr defaid yng Nghymru, ac mae'r clefyd yn cael effaith sylweddol iawn ar iechyd a lles anifeiliaid. Ar draws y Deyrnas Gyfunol, mae'n cyfrannu at golledion o ryw £8 miliwn yn y sector bob blwyddyn. Fel ŷch chi eisoes wedi esbonio, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gael gwared ar y clafr yng Nghymru, a dwi'n croesawu'n arbennig y cynllun sydd wedi cael ei wneud gyda Choleg Sir Gâr i fynd i'r afael â'r clefyd hwn.
Fodd bynnag, yn debyg iawn i nifer o ffermwyr ledled Cymru, ces i fy nychryn gan y ffioedd arfaethedig sydd wedi cael eu nodi fel rhan o'r ymgynghoriad diweddar gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r swm ar gyfer gwaredu dip defaid yn codi rhyw 10 gwaith mwy na'r swm presennol, i gyfanswm o ryw £3,700. Mae'n debyg bod ychydig iawn o esboniad wedi cael ei roi am pam mae hyn wedi digwydd. Felly, ydy'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder i, a'r sector, y gallai cyflwyno'r math hwn o ffioedd afresymol o uchel yn ystod argyfwng costau byw gael goblygiadau difrifol ar ymdrechion y Llywodraeth i waredu'r clafr yng Nghymru?
Diolch. Fel y nodwyd gennych, mae'r clafr yn glefyd y bu gennym ffocws penodol arno. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, rydym wedi darparu profion crafu croen i ganfod y clafr drwy gydol y flwyddyn drwy ein canolfan ymchwil filfeddygol yng Nghaerfyrddin ar gyfer ein diadelloedd Cymreig, ac rydym newydd gyflwyno contract tair blynedd gwerth £4.5 miliwn ar gyfer rhaglen ddileu'r clafr yng Nghymru.
Rydych yn sôn am ymgynghoriad parhaus Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch eu ffioedd rheoleiddio a thaliadau am y flwyddyn ariannol nesaf. Nod yr adolygiad hwnnw yw sicrhau bod CNC yn gallu adennill eu costau'n llawn, gyda rhai o'r taliadau presennol heb gael eu hadolygu ers nifer o flynyddoedd. Ond rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch, ac mae'n adeg arbennig o heriol i bawb, ac i'n ffermwyr hefyd wrth gwrs. Mae CNC yn disgwyl i gost uwch trwyddedau effeithio ar nifer fach iawn o ffermydd yng Nghymru, oherwydd yn amlwg mae angen cael gwared ar ddip defaid sydd wedi'i ddefnyddio mewn ffordd sy'n hynod o ystyriol o'r amgylchedd oherwydd y cemegau y mae'n eu cynnwys. Mae yna alw—fe wyddoch eich hun—am yr unedau symudol sy'n mynd o gwmpas ffermydd hefyd. Fodd bynnag, gyda rhai o'r ffigyrau a welsom, rwy'n credu y gallaf ddeall yn iawn pam fod hynny wedi creu ofn i rai o'n ffermwyr. Rwyf i fod i gyfarfod â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros CNC wrth gwrs, i drafod hyn. Rwy'n deall bod CNC wedi bod yn siarad â rhanddeiliaid—ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ein ffermwyr—ynglŷn â hyn. Gofynnwyd i mi ai er mwyn i CNC allu gwneud elw y gwneir hyn. Wel, nage wir; mae'n ymwneud ag adennill costau llawn. Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn bwrw ymlaen â'n prosiect i ddileu'r clafr, ac ni fyddwn am i unrhyw beth dynnu sylw oddi ar hynny.
Weinidog, rwy'n rhannu pryderon fy nghyd-Aelod Cefin Campbell ynglŷn â hyn, a'r costau cynyddol am gael gwared ar ddip defaid yn amlwg. Rwy'n cydnabod eich sylwadau am gael gwared ar ddip defaid mewn ffordd ddiogel ac ecogyfeillgar. Mae eich polisi ar gyfer dileu'r clafr yn cynnwys dipio defaid fel ffordd o ddileu'r clafr. Mae wedi profi mai dyma'r ffordd orau o gael gwared ar y clefyd. A ydych chi wedi cael sgyrsiau gyda'r prif swyddog milfeddygol ynglŷn â'r taliadau cynyddol hyn mewn perthynas ag unrhyw effaith bosibl a gaiff hyn ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu'r clafr?
Diolch. Do, rwyf wedi cael sgyrsiau. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym brif swyddog milfeddygol dros dro ar hyn o bryd, ac rwyf wedi cael sawl sgwrs gydag ef ynglŷn â hyn. Mae'n amlwg ei fod wedi cael sgyrsiau, a daeth y ffaith bod CNC, fel y soniais, yn disgwyl i'r costau cynyddol effeithio ar nifer gymharol fach o ffermydd allan o'r trafodaethau hynny. Mae'n iawn mai dyma un o'r ffyrdd yn unig, fel y dywedwch, o gael gwared ar ddip defaid sydd wedi'i ddefnyddio, ond os mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol, byddech yn gobeithio mai dyma fyddai'r un y byddai ffermwyr yn ei defnyddio, oherwydd ei fod yn wenwynig iawn i'n planhigion dyfrol, er enghraifft, ac i anifeiliaid, ac mae'n bwysig iawn eich bod yn cael gwared arno yn y ffordd gywir. Felly, fel y dywedais, byddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, oherwydd yn amlwg bydd CNC yn rhoi eu hargymhellion iddi ar ddiwedd yr ymgynghoriad.