Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ym mis Medi 2021, fe gyhoeddoch chi y byddai'r cynllun taliad sylfaenol a chyllid Glastir ar gyfer Glastir uwch, tir comin a ffermio organig yn parhau tan fis Rhagfyr eleni, 2023. Yn gwbl briodol, rydych wedi pwysleisio o'r cychwyn na fydd ffermwyr Cymru'n wynebu dibyn ariannol cyn y cynllun ffermio cynaliadwy newydd yn 2025. Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru dros 5,500 o gontractau tir sy'n seiliedig ar Glastir, gyda'r rhan fwyaf ohonynt wedi bod yn rhan o'r trefniant cymhorthdal hwn ers nifer o flynyddoedd, gyda'u modelau busnes yn adlewyrchu'r trefniant hwnnw. Felly, o ystyried eich bod eisoes wedi ymestyn rhaglen Glastir unwaith, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i'w ymestyn unwaith yn rhagor fel bod modd i ffermwyr gael sicrwydd cyn pontio i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025?