2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 18 Ionawr 2023.
Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ym mis Medi 2021, fe gyhoeddoch chi y byddai'r cynllun taliad sylfaenol a chyllid Glastir ar gyfer Glastir uwch, tir comin a ffermio organig yn parhau tan fis Rhagfyr eleni, 2023. Yn gwbl briodol, rydych wedi pwysleisio o'r cychwyn na fydd ffermwyr Cymru'n wynebu dibyn ariannol cyn y cynllun ffermio cynaliadwy newydd yn 2025. Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru dros 5,500 o gontractau tir sy'n seiliedig ar Glastir, gyda'r rhan fwyaf ohonynt wedi bod yn rhan o'r trefniant cymhorthdal hwn ers nifer o flynyddoedd, gyda'u modelau busnes yn adlewyrchu'r trefniant hwnnw. Felly, o ystyried eich bod eisoes wedi ymestyn rhaglen Glastir unwaith, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i'w ymestyn unwaith yn rhagor fel bod modd i ffermwyr gael sicrwydd cyn pontio i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025?
Mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno dros y mis neu ddau nesaf, oherwydd, fel y dywedwch, rwyf wedi cyhoeddi ei fod wedi'i ymestyn tan fis Rhagfyr 2023, ac yna yn amlwg bydd gennym 2024, ac rwy'n gobeithio wedyn y gallwn bontio i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025.
Diolch. Rwy'n gwybod y bydd yna ffermwyr yng Nghymru sydd wedi cofrestru ar gynllun Glastir yn croesawu'r alwad honno.
Yn ystod y cyfyngiadau symud, gwelsom gynnydd y ffermwr ddylanwadwr ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Gyda chyfres newydd ITV Wales, Born to Farm, a phresenoldeb seren TikTok Farmer Will—rwy'n siŵr eich bod i gyd yn ei adnabod—yn fila Love Island, mae ffermio a ffermwyr yn cael eu gweld mewn golau newydd a mwy cadarnhaol, gan ddenu cynulleidfa newydd a newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant hyd yn oed. Os yw ffermio yng Nghymru'n mynd i oroesi, bydd angen y newydd-ddyfodiaid hyn, ac un o'r llwybrau gorau i fyd ffermio yw drwy'r clwb ffermwyr ifanc. Rwy'n gwybod hynny'n bersonol fel cyn-aelod. Mae yna sawl cyn-aelod yn y Siambr. Drwy'r grant i'r Gymraeg yn unig y mae CFfI Cymru yn derbyn arian gan y Llywodraeth erbyn hyn, ar ôl colli cyllid grant cenedlaethol mudiadau ieuenctid gwirfoddol Llywodraeth Cymru. O ystyried y rôl y mae'r mudiad ffermwyr ifanc yn ei chwarae yn addysgu pobl ifanc am y diwydiant amaethyddol a'r amgylchedd, heb sôn am lu o sgiliau eraill a ddysgir, a wnaiff y Gweinidog edrych ar ffyrdd eraill y gall ei hadran gefnogi CFfI Cymru yn ariannol, fel y gall yr elusen barhau â'i gwaith da yng Nghymru?
Byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Rwy'n credu bod y ffermwyr ifanc yn sefydliad gwych iawn. O edrych o amgylch y Siambr yn unig, mae'n amlwg iawn fod y sgiliau y maent yn eu dysgu i'w haelodau yn sgiliau bywyd trosglwyddadwy, os mynnwch. Felly, rwy'n sicr yn hapus iawn i edrych arno, ond daw hynny gyda rhybudd am mai ychydig iawn o arian dros ben sydd i'w gael. Ond yn sicr rwy'n hapus iawn i edrych ar unrhyw geisiadau a ddaw ger bron.
Gwych. Byddaf yn anfon yr wybodaeth honno at brif weithredwr newydd CFfI Cymru, sy'n dechrau'n fuan iawn.
Ond os ydym am ddenu newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant, Weinidog, mae'n rhaid inni sicrhau bod diogelwch a lles wedi'i ymgorffori yng ngwaith y sector. Mae ystadegau gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dangos mai amaeth, ynghyd â choedwigaeth a physgota, sydd â'r gyfradd uchaf o anafiadau hunangofnodedig nad ydynt yn angheuol yn y gweithle, gyda 92 y cant o ffermwyr dan 40 oed yn awgrymu mai iechyd meddwl gwael yw'r broblem gudd fwyaf sy'n wynebu ffermwyr heddiw. Yn anffodus, nid anafiadau'n unig sy'n digwydd; cafodd cymuned Carreg-lefn ar Ynys Môn ei hysgwyd gan farwolaeth Macauley Owen, 26 oed, yn dilyn digwyddiad ar fferm ym mis Ionawr eleni. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid, yn ogystal â ffermwyr ar lawr gwlad sy'n bwydo'r genedl, i wella iechyd a diogelwch yn y diwydiant hwn?
Diolch. Rwy'n credu, yn anffodus, ein bod ni wedi gweld gormod o farwolaethau ffermwyr dros y misoedd diwethaf. Ac nid yw'n ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant yn unig, mae'n ymwneud â diogelwch ar y fferm hefyd. Ac roeddwn yn falch iawn o lansio taflen benodol sydd wedi'i hanelu at ysgolion yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, yn ôl ym mis Tachwedd. Ond mewn perthynas â'ch cwestiwn ynghylch iechyd meddwl a llesiant yn benodol, mae gwella iechyd meddwl a llesiant, ar draws y Llywodraeth, yn flaenoriaeth i ni—i mi, i'n ffermwyr, yn sicr. Oherwydd rwy'n gwybod eu bod yn wynebu llawer iawn o ansicrwydd, ac mae hynny'n gallu ychwanegu at y problemau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, lles, a llesiant hefyd yn amlwg. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn cefnogi nifer o weithgareddau pwysig i helpu iechyd meddwl yn ein cymunedau gwledig. Mae gennym y grŵp cymorth ffermio. Rwy'n cyfarfod â'r elusennau ffermio'n rheolaidd, a bob tro rwy'n eu cyfarfod, mae nifer y bobl sydd wedi cysylltu â hwy'n cynyddu.
Yn sicr, gwelsom hyn ar ei waethaf yn ystod COVID, ac yn anffodus, nid yw wedi gostwng dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Rwy'n credu bod gwaith yr elusennau ffermio'n bwysicach nag erioed yn y cyfnod ansicr hwn—mae'n wirioneddol hanfodol. Ac rwy'n credu ei fod yn beth da eich bod wedi codi hyn yn y Siambr, oherwydd mae'n hanfodol iawn fod pobl yn gwybod lle gallant fynd i gael cymorth. Fe fyddwch yn gwybod am FarmWell Cymru, sydd ar gael i ffermwyr ledled Cymru. Mae'r hyb gwybodaeth hwn yno ar gyfer cwestiynau busnes, ac ar gyfer eu cwestiynau personol eu hunain hefyd, i weld pa wytnwch y gellir ei feithrin, yn eu busnes a'u llesiant eu hunain hefyd. Ac rwy'n credu, hyd yma, ein bod wedi anfon copi caled o gyfeiriadur FarmWell Cymru i tua 16,500—felly, y rhan fwyaf mae'n debyg—o fusnesau fferm yng Nghymru. Ac mae'n sicr yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'n ffermwyr.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Llywydd. Mae gan y Llywodraeth dargedau plannu coed uchelgeisiol, sy'n cael eu hadlewyrchu yn y Bil Amaeth newydd. Mae'r Dirprwy Weinidog dros yr amgylchedd wedi bod yn llafar yn sôn am fuddiannau posib economaidd plannu coed i ffermydd a chymunedau Cymru. Ond mae'r gwaith o blannu coed ar ffermydd eisoes yn mynd rhagddo ers blynyddoedd, drwy gynllun creu coetir Glastir. Felly, pa fudd cymdeithasol ac economaidd y mae'r Gweinidog yn ei deimlo y mae'r cynllun creu coetir Glastir wedi ei roi i ffermydd a chymunedau Cymru dros y blynyddoedd?
Diolch. Wel, rwy'n credu ei fod wedi cyflwyno llawer iawn o fanteision. Gofynnodd Sam Kurtz yn ei gwestiwn cyntaf ynglŷn â chontractau Glastir a'n cynlluniau ar gyfer hynny, felly roeddwn yn falch iawn o allu cyhoeddi'r estyniad hwnnw. A dweud y gwir rwyf newydd gyfarfod gydag Undeb Amaethwyr Cenedlaethol Cymru y bore yma i drafod hynny. Rwy'n gwybod bod ein ffermwyr yn chwarae rhan fawr yn Glastir—mae contractau cynllun Glastir wedi bod gan rai ohonynt ers iddynt ddechrau gyntaf, ers blynyddoedd lawer. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud hynny. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â phlannu coed, ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r targedau plannu coed sydd gennym fel Llywodraeth.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb. Felly, yn ôl y Gweinidog, mae yna lawer o fudd wedi bod i gymunedau Cymru, ac mi rydych chi am barhau efo hyn. Sut felly y mae'r Gweinidog yn esbonio bod bron i hanner y ceisiadau llwyddiannus o dan gynllun creu coetir yn ffenestr ymgeisio rhif 10 wedi mynd i ymgeiswyr a chyfeiriadau y tu allan i Gymru? Yn ôl ateb gefais i i gwestiwn ysgrifenedig yn ddiweddar, o'r 385 hectar o dir a dderbyniwyd ar gyfer y cynllun yn ffenestr 10, aeth 45 y cant i gwmnïau wedi eu cofrestru y tu allan i Gymru. Ydy'r Gweinidog yn credu bod hyn yn iawn, bod cwmnïau mawr o'r tu allan i Gymru yn manteisio ar raglenni Llywodraeth a phres trethdalwyr Cymru er mwyn 'offset-o' eu carbon ar draul ein cymunedau ni yma? Ac a ydyw'n gydnaws ag amcanion y Llywodraeth, fel dŷn ni wedi'i glywed, i ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru?
Wel, yn amlwg, byddai'n well gennyf pe bai'r holl arian yn mynd i ffermwyr Cymru, ond yn amlwg, y meini prawf yw bod yn rhaid plannu coed yma yng Nghymru. Felly, mae arnaf ofn, ar hyn o bryd, gyda'r meini prawf hynny, os yw'r cyfeiriad y tu allan i Gymru, gallant ymgeisio am yr arian hwnnw.
Rwy'n credu bod problem cwmnïau mawr yn prynu tir fferm—sef yr hyn rydych yn amlwg yn tynnu sylw ato—yn rhywbeth sy'n digwydd ar raddfa fawr yn ôl yr hyn a glywaf. Nid wyf wedi ei weld fy hun yn bersonol; gwn fod yna bocedi. Ac rwy'n gwybod hefyd fod yna gwmnïau wedi bod yn ffonio ein ffermwyr i weld a allant werthu eu fferm iddynt. Nid fy lle i yw dweud wrth ffermwyr i bwy y dylent werthu eu tir, ond yn sicr nid yw'n rhywbeth rwyf eisiau ei annog.