Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr iawn. Fel ŷn ni i gyd yn gwybod, mae'r clafr, sef sheep scab, yn bryder mawr i ffermwyr defaid yng Nghymru, ac mae'r clefyd yn cael effaith sylweddol iawn ar iechyd a lles anifeiliaid. Ar draws y Deyrnas Gyfunol, mae'n cyfrannu at golledion o ryw £8 miliwn yn y sector bob blwyddyn. Fel ŷch chi eisoes wedi esbonio, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gael gwared ar y clafr yng Nghymru, a dwi'n croesawu'n arbennig y cynllun sydd wedi cael ei wneud gyda Choleg Sir Gâr i fynd i'r afael â'r clefyd hwn.
Fodd bynnag, yn debyg iawn i nifer o ffermwyr ledled Cymru, ces i fy nychryn gan y ffioedd arfaethedig sydd wedi cael eu nodi fel rhan o'r ymgynghoriad diweddar gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r swm ar gyfer gwaredu dip defaid yn codi rhyw 10 gwaith mwy na'r swm presennol, i gyfanswm o ryw £3,700. Mae'n debyg bod ychydig iawn o esboniad wedi cael ei roi am pam mae hyn wedi digwydd. Felly, ydy'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder i, a'r sector, y gallai cyflwyno'r math hwn o ffioedd afresymol o uchel yn ystod argyfwng costau byw gael goblygiadau difrifol ar ymdrechion y Llywodraeth i waredu'r clafr yng Nghymru?