Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch, Llywydd. Mae gan y Llywodraeth dargedau plannu coed uchelgeisiol, sy'n cael eu hadlewyrchu yn y Bil Amaeth newydd. Mae'r Dirprwy Weinidog dros yr amgylchedd wedi bod yn llafar yn sôn am fuddiannau posib economaidd plannu coed i ffermydd a chymunedau Cymru. Ond mae'r gwaith o blannu coed ar ffermydd eisoes yn mynd rhagddo ers blynyddoedd, drwy gynllun creu coetir Glastir. Felly, pa fudd cymdeithasol ac economaidd y mae'r Gweinidog yn ei deimlo y mae'r cynllun creu coetir Glastir wedi ei roi i ffermydd a chymunedau Cymru dros y blynyddoedd?