Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 18 Ionawr 2023.
Rwy'n codi'r mater hwn gan fod problemau wedi bod ar dir comin yn fy rhanbarth. Mae'r model llac presennol o berchnogaeth ac atebolrwydd yn golygu mai dim ond un tirfeddiannwr twyllodrus sydd ei angen i ddatgelu'r diffygion cynhenid yn y system.
Heb fynd i ormod o fanylion am achos lleol sy'n dod i'r meddwl, mae yna enghraifft amlwg yn fy rhanbarth o sut y gall tirfeddiannwr lwyddo i gyflawni troseddau yn erbyn yr amgylchedd heb fawr o gosb gan yr awdurdodau. Fe gyfarfûm â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ddiweddar, ac fe ddywedasant wrthyf eu bod yn teimlo'n rhwystredig ynglŷn â'r trefniadau presennol. Mae angen llinellau atebolrwydd clir, a chamau gorfodi cyflym lle bo angen, os ydym am ddiogelu a chadw ein tir comin gwerthfawr er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau. A wnaiff y Llywodraeth hon ddarparu cyfeiriad ac arweiniad clir, fel bod modd cael gwared ar arferion drwg a'u hatal rhag digwydd eto? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu cyfarwyddyd, arweiniad a chymorth hefyd ar gyfer unrhyw gamau unioni a ddylai ddigwydd?