2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 18 Ionawr 2023.
3. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i helpu i reoli tir comin yn Nwyrain De Cymru? OQ58943
Diolch. Rydym wedi darparu cyllid i wella'r gwaith o reoli tir comin drwy ein cynlluniau cymorth, ac rydym yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i sicrhau bod tiroedd comin yn rhan annatod o gymorth yn y dyfodol. Yn rhanbarth Dwyrain De Cymru, mae ein cynllun rheoli cynaliadwy wedi ariannu tri phrosiect ar dir comin â chyfanswm o dros £1 miliwn.
Diolch am yr ateb yna.
Rwy'n codi'r mater hwn gan fod problemau wedi bod ar dir comin yn fy rhanbarth. Mae'r model llac presennol o berchnogaeth ac atebolrwydd yn golygu mai dim ond un tirfeddiannwr twyllodrus sydd ei angen i ddatgelu'r diffygion cynhenid yn y system.
Heb fynd i ormod o fanylion am achos lleol sy'n dod i'r meddwl, mae yna enghraifft amlwg yn fy rhanbarth o sut y gall tirfeddiannwr lwyddo i gyflawni troseddau yn erbyn yr amgylchedd heb fawr o gosb gan yr awdurdodau. Fe gyfarfûm â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ddiweddar, ac fe ddywedasant wrthyf eu bod yn teimlo'n rhwystredig ynglŷn â'r trefniadau presennol. Mae angen llinellau atebolrwydd clir, a chamau gorfodi cyflym lle bo angen, os ydym am ddiogelu a chadw ein tir comin gwerthfawr er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau. A wnaiff y Llywodraeth hon ddarparu cyfeiriad ac arweiniad clir, fel bod modd cael gwared ar arferion drwg a'u hatal rhag digwydd eto? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu cyfarwyddyd, arweiniad a chymorth hefyd ar gyfer unrhyw gamau unioni a ddylai ddigwydd?
Diolch. Mae'n debyg fy mod yn ymwybodol iawn o'r achos rydych yn cyfeirio ato; mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn amlwg iawn. Mae Hefin David a minnau wedi cyfarfod ychydig o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf i drafod materion mewn perthynas â thir comin.
Fel y nodwyd gennych, mae tir comin yn cael ei reoli gan amrywiaeth o sefydliadau drwy ddull cydweithredol. Fe sonioch chi am awdurdodau lleol. Yn amlwg, caiff cymorth gorfodi a chymorth strategol ei ddarparu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r heddlu wrth gwrs. Ac yn anffodus, weithiau, nid wyf yn credu ei fod mor gydweithredol ag y dylai fod, ond yn sicr, fel Llywodraeth, rydym yn gweithio'n agos i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau sy'n ymwneud â rheoli tir comin. Fel y dywedaf, rydym yn darparu cymorth strategol i'r sefydliadau sy'n gyfrifol am reoli ein tir comin o ddydd i ddydd.
Rydym wedi darparu cyllid sylweddol i wella'r gwaith o reoli tir comin. Mae llawer iawn o dir yng Nghymru yn dir comin mewn gwirionedd, a soniais yn fy sylwadau agoriadol i chi fod y cynllun rheoli cynaliadwy wedi rhoi dros £1 miliwn i dri phrosiect. Wrth inni gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy, mae gennym weithgor penodol sy'n edrych ar dir comin, oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhan mor bwysig o'n tir yma yng Nghymru. Ac mae gennym nifer o randdeiliaid ar y gweithgor hwnnw. A'r rheswm am hynny yw er mwyn sicrhau y bydd ffermwyr tir comin yn gallu cael mynediad at y cymorth y maent ei angen yn y dyfodol.
Weinidog, mae RWE Renewables wedi rhybuddio eu bod yn bwriadu gwneud cais i Lywodraeth Cymru am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol. Maent eisiau adeiladu a gweithredu fferm wynt, system storio ynni batri a seilwaith cysylltiedig ar dir comin—esgusodwch fy ynganiad—ym Mhen March, Gelligaer. Mae fy etholwyr hefyd wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn pryderu am y datblygiad. Os caiff ei gymeradwyo, maent yn teimlo y bydd yn niweidio gwlyptiroedd bach sy'n gartref i blanhigion prin, yn ogystal ag adar ac ystlumod. Hefyd, rydym eisoes yn gwybod—ac rwyf wedi siarad am bwysigrwydd gwlyptiroedd droeon yma yn y Siambr, gan eu bod yn bwysig ar gyfer storio carbon. Gwlyptiroedd, mewn gwirionedd, yw rhai o'r dalfeydd carbon mwyaf effeithiol ar y blaned—yn fwy felly na choedwigoedd glaw neu forwellt arfordirol.
Felly, Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen, yn cydbwyso'r manteision amgylcheddol o gynhyrchu ynni drwy ynni gwynt a'r difrod posibl i'r amgylchedd a achosir gan y datblygiad hwn ar dir comin? Diolch.
Diolch. Wel, rwy'n ymwybodol o fferm wynt arfaethedig Pen March ar dir comin Merthyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn datgan, nawr, fod y cais yn dal i fod yn y camau cychwynnol, ac yn amlwg bydd angen ei asesu'n llawn cyn penderfynu ar ei effaith bosibl.