Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 18 Ionawr 2023.
Rydych yn codi pwynt pwysig iawn. Mae'n bwysig sicrhau bod integreiddio'n digwydd yng nghanol y dref neu mewn ardal benodol gyda buddsoddiadau eraill yng nghanol y dref benodol honno neu'r ardal benodol honno. Rwy'n credu mai dyna'r unig ffordd o sicrhau canlyniadau gwell. Rydym yn darparu llawer iawn o gefnogaeth i ddatblygiadau sy'n rhan o gynlluniau creu lleoedd ehangach a phrosiectau seilwaith gwyrdd, felly bydd y sgyrsiau hynny'n mynd rhagddynt. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol—yn ddiweddar y daeth hyn yn ôl i fy mhortffolio—gydag awdurdodau lleol, ond rwy'n gwybod bod fy swyddogion yn gweithio'n agos i sicrhau bod effaith gronnol, os mynnwch, amrywiaeth o gynlluniau yn dangos integreiddio da.