Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch i'r Aelod am ofyn y cwestiwn. Fe'i hatgoffaf fod llywodraeth leol wedi'i datganoli i Gymru ers 23 o flynyddoedd. Ond wrth gwrs, mae seilwaith gwyrdd yn arf pwysig i helpu cymunedau i liniaru effeithiau newid hinsawdd, yn ogystal â'n helpu i gyflawni ein hymrwymiadau newid hinsawdd. Mae mynediad at fannau gwyrdd hefyd yn amlwg o fudd i lesiant pobl. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn ychwanegu at y seilwaith gwyrdd trefol presennol yn ogystal â gwella ei hygyrchedd a'i ansawdd. O'r herwydd, Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd gennych chi a'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet i annog awdurdodau lleol i fapio mannau gwyrdd presennol yn well ac i asesu a oes gan gymunedau fynediad at ddigon o'r mathau cywir o seilwaith gwyrdd yn y mannau cywir? Gan ddefnyddio data o'r fath, sut rydych yn gweithio gyda chynghorau i nodi darnau addas o dir ar gyfer prosiectau seilwaith gwyrdd newydd ac yn darparu cymorth ac arweiniad ariannol ychwanegol wedyn i'w helpu i roi'r prosiectau hyn ar waith? Diolch.