Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 18 Ionawr 2023.
Weinidog, mae RWE Renewables wedi rhybuddio eu bod yn bwriadu gwneud cais i Lywodraeth Cymru am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol. Maent eisiau adeiladu a gweithredu fferm wynt, system storio ynni batri a seilwaith cysylltiedig ar dir comin—esgusodwch fy ynganiad—ym Mhen March, Gelligaer. Mae fy etholwyr hefyd wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn pryderu am y datblygiad. Os caiff ei gymeradwyo, maent yn teimlo y bydd yn niweidio gwlyptiroedd bach sy'n gartref i blanhigion prin, yn ogystal ag adar ac ystlumod. Hefyd, rydym eisoes yn gwybod—ac rwyf wedi siarad am bwysigrwydd gwlyptiroedd droeon yma yn y Siambr, gan eu bod yn bwysig ar gyfer storio carbon. Gwlyptiroedd, mewn gwirionedd, yw rhai o'r dalfeydd carbon mwyaf effeithiol ar y blaned—yn fwy felly na choedwigoedd glaw neu forwellt arfordirol.
Felly, Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen, yn cydbwyso'r manteision amgylcheddol o gynhyrchu ynni drwy ynni gwynt a'r difrod posibl i'r amgylchedd a achosir gan y datblygiad hwn ar dir comin? Diolch.