Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch. Mae'r cyni Torïaidd bellach yn ei arddegau; mae bron yn 13 mlwydd oed, ac mae'n parhau i ddinistrio cyllidebau llywodraeth leol—a hynny er gwaethaf ymdrechion arwrol Llywodraeth Cymru. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili newydd ddatgelu ei gynigion cyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24, ynghyd â manylion sut mae'n bwriadu llenwi'r bwlch o £48 miliwn a ragwelir mewn cyllid dros y ddwy flynedd ganlynol. Yn Islwyn, mae seilwaith gwyrdd trefol, megis parc prydferth Waunfawr, yn rhan ganolog o fywyd cymunedol y Cross Keys. Mae'r parc yn ymestyn dros 22 erw o dir ac yn cynnwys maes chwarae i blant, caeau rygbi, pêl-droed a chriced, ac mae hefyd yn cynnwys lawnt fowlio a chyrtiau tenis. Pan fo'n rhaid i lywodraeth leol ariannu gwasanaethau statudol, pa gefnogaeth a sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi i gymunedau Islwyn y gellir gwarchod seilwaith trefol gwyrdd rhag ymosodiadau cyllidol Torïaidd?