Seilwaith Gwyrdd Trefol

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:44, 18 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr yng nghwestiynau'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, clywsom lawer o gwestiynau ynghylch gwahanol swyddogaethau a gwasanaethau anstatudol rydym yn eu gwerthfawrogi'n fawr, ac rwy'n credu eich bod newydd roi esiampl dda iawn yno.

Soniais fod gennym sawl cynllun. Mae gennym y cynllun creu lleoedd Trawsnewid Trefi, mae gennym ein prosiectau seilwaith gwyrdd o fewn hwnnw yn eich ardal chi, gyda chyllid sylweddol—tua £0.75 miliwn—yn cael ei ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru i bedwar prosiect seilwaith gwyrdd penodol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i gael y trafodaethau hynny gyda llywodraeth leol, oherwydd, os caf fentro ailadrodd fy hun, nid oes mwy o arian i'w gael. Nid oes unrhyw arian wedi'i guddio yn rhywle. Felly, rwy'n credu bod angen cael y sgyrsiau hynny gydag awdurdodau lleol.