Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 18 Ionawr 2023.
Yn ddiweddar, mi ges i gyfle i ymweld â chanolfan newydd sbon ar safle hen ffatri yn nyffryn Nantlle yn fy etholaeth i. Canolfan neu hwb datgarboneiddio ydy Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, sy'n dod â nifer o bartneriaid ynghyd efo'r nod ganolog o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl nid yn unig yn Arfon, ond ar draws y gogledd a thu hwnt. Un agwedd bwysig o'r gwaith yma fydd arloesi efo dulliau newydd o wella'r stoc tai, ac mae Prifysgol Bangor yn rhan o'r gwaith yma. Dwi'n credu bod gan y gymuned amaethyddol gyfraniad pwysig i'w wneud i'r agenda yma, ac un enghraifft ydy defnyddio gwlân i inswleiddio cartrefi. Felly, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i harneisio potensial arloesol y gymuned amaethol ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni yng Nghymru?