Gwella Effeithlonrwydd Ynni yn Arfon

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:58, 18 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn am y rôl y gall ein sector amaethyddiaeth a'n ffermwyr ei chwarae mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni. Cyfarfûm â Chyngor Gwlân Prydain—18 mis yn ôl bellach, mae'n debyg—ac fe wnaethom drafod y defnydd o wlân Cymreig, yn amlwg, yn enwedig o'm safbwynt i, mewn perthynas ag insiwleiddio, er enghraifft. Maent yn credu bod yna ddefnydd mwy—mae'n debyg nad 'gwerth chweil' yw'r term cywir—mwy effeithlon i wlân Prydain nag insiwleiddio yn unig, ond rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni edrych arno yw'r holl dechnoleg sydd ar gael, yr holl arloesedd sydd ar gael i'n helpu gydag effeithlonrwydd ynni. Soniais ein bod newydd agor y cynllun effeithlonrwydd grantiau bach. Rwy'n awyddus iawn i'r cynllun hwnnw allu cynnig cymorth uniongyrchol i'n ffermwyr fel y gallant fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd i wella perfformiad technegol ac ariannol ac amgylcheddol eu busnes.