Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu agor y ddadl yma y prynhawn yma. Liciwn i ddechrau drwy ddiolch i’r holl randdeiliaid a’r holl aelodau o’r cyhoedd hefyd sydd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor. Dwi'n falch hefyd, wrth gwrs, fod y Gweinidog wedi derbyn ein holl argymhellion ac eithrio un, ond efallai y down ni at hynny nes ymlaen.
Mae dwy ran i'r adroddiad yma. Mae rhan 1 yn ymdrin â sesiwn graffu flynyddol y pwyllgor gyda Thrafnidiaeth Cymru, ac mae rhan 2 yn ymdrin â materion ehangach yn ymwneud ag adfer gwasanaethau bysiau a threnau yng Nghymru ar ôl pandemig COVID-19. Mae e, felly, yn adroddiad eang ei gwmpas, a bydd dim amser i wneud mwy na chyffwrdd â rhai o’r materion mwyaf pwysig wrth i fi agor y drafodaeth yma heddiw.
Yn gyntaf, felly, hoffwn i sôn am ein gwaith craffu ni yng nghyd-destun gwaith Trafnidiaeth Cymru. Roedd y pwyllgor yn pryderu am nifer o agweddau ar drefniadau llywodraethu Trafnidiaeth Cymru. Roedd hyn yn ymwneud yn bennaf â chyhoeddi cynlluniau busnes ac ariannol ac, o ganlyniad, yn ymwneud â thryloywder y sefydliad. I fod yn deg, roedd cyfnod y pandemig yn gyfnod anodd i Drafnidiaeth Cymru. Fe glywson ni fod cyllideb y sefydliad yn ystod y cyfnod hwnnw yn amrywio’n arw a bron iawn yn newid o un wythnos i'r llall. Mae i’w gweld braidd yn annheg inni feirniadu’r sefydliad am beidio â chyhoeddi cynlluniau busnes a chynlluniau ariannol yn y cyd-destun hwn efallai. Ond wedi dweud hynny, maen nhw’n arfau hanfodol ar gyfer asesu i ba raddau mae Trafnidiaeth Cymru yn llwyddo i fodloni gofynion ei gylch gwaith ac a yw’n sicrhau gwerth am arian. Un o’n hargymhellion ni, felly, oedd y dylai Trafnidiaeth Cymru gael trefn ar ei gynlluniau. O eleni ymlaen, dylai gyhoeddi cynlluniau busnes a chynlluniau ariannol cyn dechrau pob blwyddyn ariannol.
Mae yna broblemau hanesyddol yn ymwneud â chyflwyno dyraniadau cyllideb Trafnidiaeth Cymru sy’n ei gwneud hi bron yn amhosibl craffu ar faint o arian sy’n cael ei ddyrannu ac at ba ddiben. Unwaith eto, roedd gennym ni rywfaint o gydymdeimlad â Thrafnidiaeth Cymru. Fe ddywedodd y prif weithredwr y gallai’r broses o bennu’r gyllideb olygu cynifer â 25 o sgyrsiau dwyochrog gyda gwahanol ddeiliaid cyllideb Llywodraeth Cymru. Nawr, mae hyn i’w weld yn ofnadwy o fiwrocrataidd i ni fel pwyllgor. Dylai bod yn agored ac yn dryloyw fod yn egwyddorion sylfaenol i sefydliad cyhoeddus fel Trafnidiaeth Cymru, a byddai symleiddio’r broses hon yn ein barn ni yn helpu yn hynny o beth.
Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn rhan 1 yr adroddiad, a bod Trafnidiaeth Cymru felly am eu rhoi ar waith. Ers cyhoeddi’r adroddiad, fe welwyd cynnydd da eisoes ym maes llywodraethu a thryloywder. Mi fyddwn ni'n cynnal ein sesiwn graffu flynyddol gyda Thrafnidiaeth Cymru yn ddiweddarach eleni, a byddwn ni, wrth gwrs, yn ailedrych ar y materion yma i weld a yw’r sefyllfa wedi gwella bryd hynny.