Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 18 Ionawr 2023.
Mae ail ran ein hadroddiad ni yn ymdrin â’r mater ehangach, fel roeddwn ni’n dweud, o adfer gwasanaethau bysiau a threnau ar ôl pandemig COVID. Hoffwn ddiolch yn arbennig ar ran y pwyllgor i’r aelodau o’r cyhoedd a gyfrannodd at ein gwaith drwy gymryd rhan yn y grwpiau ffocws a’r cyfweliadau amrywiol a gynhaliwyd gennym ni ar hyd a lled Cymru ar y mater yma. Fe gafodd y pandemig effaith enfawr ar y nifer a oedd yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Roedd gan nifer o bobl ofn mynd ar y bws neu’r trên. Roedd llawer llai o wasanaethau, a phobl yn yr ardaloedd tlotaf, gyda llaw, a gafodd eu taro galetaf yn hynny o beth. Ond roedd llawer o’r newidiadau sylfaenol a welon ni yn digwydd yn ystod y pandemig, pethau fel siopa ar-lein ac efallai’r tueddiad fwyfwy i weithio o gartref, mi oedd y rheini yn dod yn fwyfwy cyffredin yn ein cymdeithas ni cyn y pandemig. Ond wrth gwrs mae wedi dod llawer mwy arferol nawr i bobl, fel dwi’n dweud, i weithio gartref, ac yn y blaen.
Mae bysiau a threnau’n hanfodol nid yn unig er mwyn ein helpu ni i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd yma yng Nghymru, ond hefyd i greu cymdeithas lle mae’n hawdd i bobl gael at y gwasanaethau, i gael at yr addysg a’r gwaith sydd eu hangen arnyn nhw i fyw bywyd llawn. Felly, y cwestiwn i ni fel pwyllgor, wrth gwrs, oedd: beth mae angen ei wneud i annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? Ac mae ein hadroddiad ni, fel y byddech chi’n disgwyl, yn ystyried nifer o’r materion hyn.
Mae’n rhaid i newid moddol, modal shift, fod yn ganolog i’r gwaith hwn. Yn gyntaf, mae angen i ni ddeall sut fath o drafnidiaeth gyhoeddus y mae pobl am ei chael a sut maen nhw am ei defnyddio. Pa mor barhaol yw’r newidiadau a welon ni yn ystod y pandemig, ac ers hynny, a beth fydd y patrwm yn y dyfodol? Dwi’n falch bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn ein holl argymhellion ni yn y maes hwn. Roeddwn yn falch hefyd o weld bod y Dirprwy Weinidog wedi cyfeirio at arolwg teithio cenedlaethol i Gymru yn ei ymateb. Mi fyddwn i’n ddiolchgar pe gallai fe ddweud mwy wrthyn ni, efallai, am yr arolwg a sut y bydd hwnnw yn cael ei ddefnyddio i ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch polisi a’r gyllideb yn y dyfodol, pan fydd e’n ymateb i’r ddadl.
Yn ail, mae angen seilio polisïau ar dargedau priodol. Mae strategaeth drafnidiaeth a chynllun sero net Llywodraeth Cymru yn gosod targedau ar gyfer newid moddol. Er enghraifft, dylai 7 y cant o deithiau gael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030, a dylai hynny godi i 13 y cant erbyn 2040. Mae’r rhain yn dargedau uchelgeisiol ac, yn sicr, dwi ddim yn mynd i feirniadu’r Dirprwy Weinidog am ddangos uchelgais yn hynny o beth, ond roedd gormod o’n rhanddeiliaid ni yn amau a yw’r math o drafnidiaeth gyhoeddus sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd yn ddigon da i’n rhoi ni ar y trywydd iawn i gyrraedd targed 2030.
Mae angen i ni ei gwneud hi'n hawdd ac yn haws i bobl adael y car gartref a theithio ar y bws neu'r trên. Rŷn ni’n gwybod o'n gwaith gyda rhanddeiliaid mai cost, hwylustod a mynediad at wasanaethau yw'r tri maes pwysicaf i ddefnyddwyr. Gallwn ni drafod cymhlethdodau newid ymddygiad gymaint ag y mynnwn ni, ond byddai ymdrin â’r tri phwynt yna yn sicr yn fan cychwyn da.
Mi ges i'r pleser yn gynharach heddiw o siarad mewn digwyddiad i lansio adroddiad newydd gan Gydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr Cymru ynghylch annog pobl i deithio ar fws neu ar goets, ar coach, yn lle defnyddio’u ceir. Mae’n werth nodi, gyda llaw, fod materion tebyg iawn yn cael eu codi yn ein hadroddiad ni a’r adroddiad a oedd yn cael ei gyhoeddi’r prynhawn yma.
O ran cost trafnidiaeth gyhoeddus, mi oedd tlodi trafnidiaeth yn peri pryder arbennig i ni fel pwyllgor. Mae tlodi trafnidiaeth yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau demograffig yn fwy na’i gilydd, yn cynnwys grwpiau megis pobl anabl, pobl hŷn a menywod. Un o’n hargymhellion ni oedd y dylai Llywodraeth Cymru gynnig cymhorthdal i ostwng pris tocynnau a mathau eraill o gymorth ariannol. Hoffwn i glywed mwy gan y Dirprwy Weinidog am y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r cynigion hyn.
Fydd hi ddim yn hawdd datblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig y bydd yn hawdd i bobl ei ddefnyddio pan fydd ei angen ac sy’n fforddiadwy. I ddechrau, rŷn ni’n gwybod i wneud hynny y bydd angen buddsoddiad sylweddol. Mi fydd yr Aelodau i gyd yn gwybod nad yw’r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru wedi’i ariannu’n ddigonol yn hanesyddol. Sut allwn ni ddatblygu system drafnidiaeth integredig heb fuddsoddiad priodol yn y seilwaith rheilffyrdd? Dwi’n falch bod y Dirprwy Weinidog yn cydnabod y ddadl dros ddatganoli’r cyfrifoldebau dros reilffyrdd yn llawn, a dros sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dyrannu cyllid teg. Yn wyneb penderfyniadau tebyg i’r rhai a wnaed yng nghyd-destun HS2 a’r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i bob golwg, wedi gwrthod hyd yn oed ystyried dyrannu cyllid priodol i Gymru, mae’n anodd anghytuno â’r ddadl dros ddatganoli.
O ran cyllid ar gyfer bysiau, polisi presennol Llywodraeth Cymru yw i 50 y cant o’r bysiau gwasanaeth sy’n llygru fwyaf gael eu disodli gan fysiau heb allyriadau pibellau mwg erbyn 2028, ac i bob tacsi a cherbyd hurio preifat hefyd beidio bod yn cynhyrchu unrhyw allyriadau erbyn 2028—yr un flwyddyn. Nawr, mi fydd y gost o ddatgarboneiddio’r sector bysiau yn uchel, ac mi fydd angen cymorth ariannol ar y sector i gyflawni hynny. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi dweud bod cynlluniau cyflawni’n cael eu paratoi i gyrraedd y targedau a nodir yn Sero Net Cymru, ac mi fyddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai o’n dweud mwy wrthym ni am hynny yn ei ymateb.
Dirprwy Lywydd, fel y dywedais i ar y dechrau, mae hwn yn adroddiad eang ei gwmpas, a dwi ddim wedi gallu mynd ar ôl pob sgwarnog ac ymdrin â phob dim yn fy nghyfraniad i. Mae'n bosibl y bydd Aelodau eraill, yn amlwg, yn cael cyfle i dynnu sylw at rai ohonyn nhw. Ond hoffwn i gloi drwy ddweud y bydd y blynyddoedd nesaf yn rhai cyffrous iawn i fysiau a threnau. Mae’r Bil diwygio bysiau, wrth gwrs, yn gyfle da i wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru ac, yn bwysicaf oll, i sicrhau eu bod nhw'n canolbwyntio mwy ar y cwsmer. Mae cynnydd i’w weld hefyd o ran cynlluniau’r metro, ac mae yna ddarn mawr o waith i ni fel pwyllgor yn cadw llygad ar y datblygiadau yn y maes yna. Ond er ein bod ni yn gweld cynnydd, mae angen gofyn yr un hen gwestiwn: a yw’r cynnydd yma yn digwydd yn ddigon cyflym? Ydy, mae'r sefyllfa ariannol ehangach wedi'i gwneud hi'n anoddach fyth i gyrraedd targedau trafnidiaeth sero net Llywodraeth Cymru, ond y cyfan ddywedaf i wrth gloi'r cyfraniad cyntaf i'r ddadl yma yw, fel pwyllgor, mi fyddwn ni'n sicr yn parhau i asesu cynnydd ac yn parhau, yn sgil hynny, i adrodd yn ôl i’r Senedd yma. Diolch.