Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 18 Ionawr 2023.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, yn ogystal â’r holl banelwyr a staff a’n cefnogodd yn ein gwaith ar yr adroddiad hwn. Nawr, rhwng y pandemig, y streic a’r argyfwng costau byw, mae trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a ledled y DU yn wynebu amrywiaeth eang o heriau. Golyga hyn ei bod yn bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun cynaliadwy cydgysylltiedig ar gyfer cwmnïau bysiau a threnau. Mae hefyd yn bwysig edrych ymlaen at y dyfodol. Mae argymhelliad 6 yn yr adroddiad yn nodi
'Dylai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae’n ei wneud gyda phartneriaid eraill i ddeall patrymau teithio yn y dyfodol…a’u heffaith'.
Gwn y bydd gan fy nghyd-Aelod Natasha Asghar fwy i’w ddweud am y gwaith craffu ar Trafnidiaeth Cymru, ond fel Gweinidog newid hinsawdd yr wrthblaid, hoffwn ailadrodd pa mor bwysig yw trafnidiaeth gyhoeddus ar drenau a bysiau i gyflawni ein targedau amgylcheddol. Os yw Llywodraeth Cymru am fodloni rhwymedigaethau sero net Cymru, mae angen i bobl gael mynediad at drafnidiaeth sy'n ddibynadwy ac yn fforddiadwy. Y bore yma, roeddem yn sôn am y cynllun ffyrdd a ataliwyd gan y Dirprwy Weinidog. Mae hynny'n iawn os oes gennych seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar waith, ond yn anffodus, nid oes gennym hynny yng Nghymru.
Mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig teithio ar fysiau, yn hanfodol i fynd i’r afael â symudedd ac amddifadedd cymdeithasol. Canfu ymchwil Prifysgol De Cymru mai’r ardaloedd mwyaf difreintiedig sydd wedi wynebu'r gostyngiad mwyaf mewn mynediad at wasanaethau oherwydd y pandemig. Mae tystiolaeth gan Trafnidiaeth Cymru yn dangos nad oes gan 13 y cant o gartrefi Cymru fynediad at gar hyd yn oed, ac mae gan 25 y cant o ddefnyddwyr bysiau anabledd neu salwch hirdymor. Felly, Weinidog a Ddirprwy Weinidog, mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried beth y gellir ei wneud i helpu ein pobl fwyaf agored i niwed, sy’n aml yn byw mewn ardaloedd sy'n eithaf ynysig yn gymdeithasol. Ni all yr argyfwng costau byw presennol arwain at wneud i'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd golli eu mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae argymhelliad 15 yn nodi
'Dylai Llywodraeth Cymru nodi pa asesiad y mae wedi’i wneud o effaith costau ynni a’r argyfwng costau byw ar ei thargedau newid moddol.'
Fel y dywedasom yn yr adroddiad, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cymryd camau i gapio pris tocynnau bws y tu allan i Lundain ar £2. Cadarnhaodd Silviya Barrett fod gwasanaethau bysiau yng Nghymru wedi gostwng 45 y cant yn y 10 mlynedd rhwng 2011-12 a 2020-21, ond yn y flwyddyn ddiwethaf honno, rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021, sef blwyddyn gyntaf y pandemig, roedd y toriadau'n 36 y cant. Yn ôl Joe Rossiter, mae’r gostyngiad mewn gwasanaethau rheilffordd a bws wedi cael effaith sylweddol ar ein cymunedau gwledig a—dyma graidd y mater—nid yw’r lleihad yn y gwasanaethau'n effeithio’n gyfartal ar bawb. Bydd pobl mewn cymunedau anghysbell a gwledig yn teimlo effeithiau lleihad yn y gwasanaethau yn anghymesur. Ac fel y nodwn yn yr adroddiad, mae risgiau y gallai’r system fasnachfreinio arfaethedig a amlinellir yn y Bil diwygio bysiau gau'r drws ar weithredwyr llai. Mae’r gweithredwyr hyn, yn enwedig yn y Gymru wledig, mewn sefyllfa dda i ddeall anghenion eu cymunedau lleol ac i ymateb i newidiadau yn y galw. Yn sicr, yn fy etholaeth i, mae gennym Llew Jones, gweithredwr bysiau bach, ac mae'n gweithio'n agos gyda'r gymuned a'r teithwyr. Mae gwasanaeth bws Fflecsi wedi'i gyflwyno bellach hefyd, ac mae hwnnw'n gynllun gwerth chweil.
Rydym yn cytuno â’r awgrym y dylai’r Bil gynnwys darpariaeth i sicrhau y gall cwmnïau llai gymryd rhan yn y broses fasnachfreinio. Rydym yn falch fod y Papur Gwyn yn cydnabod hyn ac yn cynnwys cynigion ar gyfer mynd i'r afael â'r mater. Fodd bynnag, mae angen inni bwysleisio y dylid llunio'r broses mewn ffordd sy'n lleihau cost cyflwyno cynigion ar gyfer y gweithredwyr llai hynny. Er fy mod yn deall y cyfyngiadau ariannol, mae mwy y gellid ei wneud gyda’r sefydliadau sydd eisoes yn eu lle. Yn benodol, rydym wedi gweld tystiolaeth glir o ddiffyg cydgysylltu ar ddarparu trafnidiaeth rhwng gwahanol awdurdodau lleol. Credai Josh Miles fod ‘Bws Cymru’ yn cynnwys llawer o’r meysydd cywir, ond ei brif bryder oedd nad oedd rhai o elfennau sylfaenol y strategaeth yn cael eu cyflawni. Dywedodd fod angen canolbwyntio ar gyflawni, ac
'nid oes gan awdurdodau lleol lawer o staff nac adnoddau i'w rhoi yn y broses ar hyn o bryd…. Felly, mae llawer o bethau'n digwydd ac nid oes gennym gydlyniad na buddsoddiad i gyflawni pethau eto'.
Mae sylwadau fel y rhain a wnaed gan ein tystion yn amlygu y gall diffyg meddwl cydgysylltiedig effeithio ar bolisi trafnidiaeth. Mae’n rhywbeth y mae’r adroddiad eisoes wedi’i nodi ac mae angen inni geisio mynd i’r afael ag ef. Rwy'n derbyn bod rhai o’r safbwyntiau hyn dan ystyriaeth. Mae angen gwell enw da, cysondeb a dibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus—