Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 18 Ionawr 2023.
Ar fater cydraddoldeb, tybed a wnaethoch chi nodi, yn yr adroddiad, yr awgrym gan yr Athro Barry, y dylem efallai gael pobl hŷn, nad ydynt yn talu o gwbl ar hyn o bryd, i dalu £1, a byddai hynny wedyn yn rhoi mwy o arian i ostwng prisiau i bobl eraill efallai, yn enwedig pobl iau o dan 25 oed. Nawr, rwy'n gwybod mai dyma'r greal sanctaidd, ond ychydig iawn o arian ychwanegol sydd yna yn y system, ac efallai y gallwn annog rhai pobl i dalu—