Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 18 Ionawr 2023.
Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor ac i dîm clercio'r pwyllgor am gynhyrchu'r adroddiad hwn. Wrth gwrs, y prawf y byddaf yn ei sefydlu ar gyfer polisi'r Llywodraeth yw sut mae'n effeithio ar bobl Blaenau Gwent, oherwydd yr hyn a fwynheais leiaf—nid wyf yn gwybod a oedd hynny'n wir am unrhyw un arall—yn y ddadl gyda Jenny Rathbone yn gynharach oedd y gwahaniaeth ym mhrofiad pobl yng nghanol Caerdydd a'r bobl sy'n byw ym mlaenau'r Cymoedd. Ac rwy'n credu ei fod yn wahaniaeth pwysig, oherwydd yr hyn a safai allan i mi yn yr adroddiad oedd y pwyslais ar newid ymddygiad, ac fe bwysleisiodd y Cadeirydd hynny yn ei gyflwyniad. A bydd newid ymddygiad ond yn digwydd os oes dewisiadau amgen hyfyw i ddefnyddio'r car. Ac yn rhy aml o lawer yn achos fy etholaeth i—y bobl rwy'n eu cynrychioli—nid yw'r dewisiadau amgen hynny'n bodoli.
Ddirprwy Weinidog, dyma lle mae'r prawf i'r Llywodraeth, oherwydd efallai fy mod wedi treulio gormod o amser yn y Siambr hon yn gwrando ar areithiau gweinidogol, ac a bod yn onest mae rhai o'r areithiau hynny wedi fy siomi. Oherwydd clywais y cyfraniadau—y bydd y Dirprwy Weinidog yn eu gwneud y prynhawn yma, mae'n siŵr—ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru eisiau inni symud o'r car i'r bws neu'r rheilffordd neu beth bynnag. Ac yna, wrth gwrs, rwy'n eu gweld yn adeiladu ysbyty mawr—ac rwy'n gefnogol iawn i adeiladu Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân—roedd gennym fws bob awr i Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni; dim bws o gwbl i ysbyty'r Faenor. Ac am bum mlynedd fe addawodd Gweinidogion yn y lle hwn y byddai'r gwasanaethau hynny'n bodoli. Mae'r Gweinidog presennol wedi addo y bydd yn ymchwilio iddo, ond heddiw, nid yw'r gwasanaethau hynny'n bodoli. Felly, nid yw'n ddigon da i'r Llywodraeth ddweud ei bod am i'r bobl wneud hyn i gyd ac yna ei gwneud hi'n anos i bobl ddefnyddio'r gwasanaethau mewn gwirionedd. Ac yn rhy aml, nid yw'r gwasanaethau hynny'n bodoli, ac nid yw hynny'n deg ac nid yw'n iawn.
Wyddoch chi, un o fy ngofidiau mawr yn y lle hwn—. Efallai na fydd yr Aelodau'n credu hyn, ond roeddwn i'n ddistaw pan ddigwyddodd, a dylwn fod wedi agor fy ngheg. Pan ddiddymwyd gweithrediaeth trafnidiaeth y de-ddwyrain—ni allaf gofio'r enw cywir—gan Weinidog blaenorol, diddymodd holl allu llywodraeth leol ac eraill i gydlynu ac i gynllunio trafnidiaeth. Nawr, rwy'n deall, wrth gwrs, fod hyn yn cael ei ailgyflwyno drwy gyd-bwyllgorau corfforedig—ac rydym yn deall nawr fod y Ceidwadwyr yn sydyn iawn yn cefnogi'r pethau hyn, ac rwy'n croesawu eu tröedigaeth—ond mae angen y lefel hon o gydlynu oherwydd—. Cyfarfûm ag etholwr mewn cymhorthfa yng Nghwm y llynedd, ac roedd yn egluro i mi y byddai'n rhaid iddo fynd drwy Fryn-mawr i gyrraedd ysbyty'r Faenor. Nawr, mae unrhyw un sy'n gwybod am ddaearyddiaeth Cymoedd de Cymru yn gwybod nad ydych chi'n tueddu i deithio i'r de drwy deithio i'r gogledd. Ac mae'n annheg rhoi pobl fregus yn y sefyllfa hon. Fe wyddom—ac rydym wedi archwilio hyn ar sawl achlysur yn y lle hwn—mai diwygiadau Thatcher a ddinistriodd y diwydiant bysiau. Rydym yn deall hynny. Ond hefyd, rydym wedi bod â chyfrifoldeb yn y lle hwn ers dros 20 mlynedd, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn dangos bod hynny'n golygu rhywbeth mewn gwirionedd. Ac rwyf am i'r Dirprwy Weinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, egluro sut mae newid ymddygiad yn digwydd ochr yn ochr â chydraddoldeb, fel bod fy etholwyr yn cael yr un cyfle â'r etholwyr y mae Jenny Rathbone yn eu cynrychioli. Ac fe ildiaf.