Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch i'r Cadeirydd ac i'r tîm clercio am eu gwaith pwysig yn y maes yma. Mae e'n gwbl amlwg—ac mae'n dod yn amlwg wrth i ni glywed y ddadl yma'n barod—bod trafnidiaeth bws a thrên yn chwarae rhan hanfodol wrth i ni geisio cyrraedd ein targedau newid hinsawdd, a chreu cymdeithas lle mae pawb yn gallu cyrraedd y gwasanaethau maen nhw eu hangen, boed hynny yn y maes gofal, hamdden, gwaith, addysg neu unrhyw beth sy'n bwysig i fywydau pobl. Ond, ar hyn o bryd, dydy hynna ddim yn bosibl i bawb. Yn rhy aml o lawer, dydy trafnidiaeth gyhoeddus ddim yn fforddiadwy, dyw e ddim yn arferol, dyw trenau a bysys ddim yn mynd lle mae pobl angen iddyn nhw fynd.
Rwy'n croesawu nod Llywodraeth Cymru i weld 45 y cant o siwrneiau yn digwydd mewn ffordd gynaliadwy erbyn y flwyddyn 2040. Buaswn i yn gofyn hefyd a ydy hynna yn ddigon uchelgeisiol. Hynny yw, efallai dydy'r cynnydd o ryw 1 y cant y flwyddyn rŷn ni wedi sôn amdano yn ystod argyfwng hinsawdd ddim wir yn adlewyrchu'r uchelgais rŷn ni ei angen. Beth yn union mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ac yn ei gynllunio, er mwyn ceisio hwyluso pobl i allu gwneud hyn? Dyna ydy gwraidd y broblem, rwy'n meddwl. Mae gennym system reilffordd sy'n aml yn parlysu yn ystod glaw trwm neu wres eithafol, neu os mae'n bwrw eira, neu unrhyw fath o dywydd sydd ddim jest yn arferol, ac mae hyn ond am ddigwydd yn amlach o nawr ymlaen. Mae beth sy'n arferol yn mynd i newid, yn anffodus. Mae trenau yn aml yn hwyr, neu'n cael eu canslo, mae ticedi llawer rhy ddrud ac mae amodau gweithio'r staff yn dirywio, wrth i'r hinsawdd economaidd daro. Mae'n rhyw fath o perfect storm.
Mae'n bwysig bod yn onest mewn gwleidyddiaeth, felly rwy eisiau nodi nad bai Llywodraeth Cymru yw hyn i gyd o bell ffordd. Gwraidd y broblem, a dŷn ni wedi clywed hyn yn barod, yw'r Llywodraeth yn San Steffan, sydd ddim yn malio taten am bobl Cymru—Llywodraeth sydd yn tanariannu ein rheilffyrdd yn fwriadol, drwy ein hamddifadu o £5 biliwn o arian HS2, er enghraifft, arian byddai Llywodraeth Cymru yn gallu ei ddefnyddio i drawsnewid ein rheilffyrdd. Fel dywedodd Jenny, am benderfyniad gobbledegook, beth bynnag ydy hynny yn Gymraeg. Mae datgarboneiddio rheilffyrdd yn her arall i Lywodraeth Cymru. Bydd angen gwella isadeiledd y rheilffyrdd, gwella storfeydd grid, cysylltedd a chapasiti. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer cludiant hefyd. Hoffwn glywed mwy, pan dŷn ni yn clywed yr ymateb i'r ddadl gan y Dirprwy Weinidog, am gynnydd yn y maes hwn, yn ogystal â’r camau nesaf o ran datgarboneiddio gan y Llywodraeth.
Gan droi yn olaf at hygyrchedd, fe wnes i holi’r Gweinidog am ddiogelwch menywod ar ein rheilffyrdd yr wythnos diwethaf. Ers hynny rwyf wedi dysgu bod rhai cynghorau, er enghraifft yng Nghasnewydd, yn bwriadu troi goleuadau stryd i ffwrdd yn y nos er mwyn arbed arian. Beth ydy goblygiadau hynny o ran diogelwch menywod sydd eisiau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gyda'r nos? Beth mae'r Llywodraeth yn meddwl am hynny?
Wrth symud ymlaen, yn olaf, mae gwella gallu pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol ar gyfer mynd i’r afael ag annhegwch cymdeithasol a gallu pobl i deithio. Eto mae hyn wedi cael ei godi yn barod. Wrth ystyried nad oes gan 13 y cant o gartrefi yng Nghymru gar, a bod gan 25 y cant o’r bobl sy’n defnyddio bysys anabledd neu salwch hirdymor, a’r ffaith mai’r lleiaf breintiedig a welodd y dirywiad mwyaf o ran gallu pobl i gyrraedd a defnyddio gwasanaethau, mae’n bwysig bod gweithredu yn digwydd nawr. Yr hyn sy’n glir yw bod angen llwybr tuag at ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim yn y dyfodol, gan ddechrau gyda’r bobl sydd angen hynny fwyaf: pobl ifanc, pobl mewn cymunedau gwledig a phobl ar incwm isel. Yn y cyfamser—ac mi wnaf orffen gyda hyn, Dirprwy Lywydd—a wnaiff Llywodraeth Cymru ddod â chynlluniau ymlaen i fynd i’r afael â thlodi trafnidiaeth?