Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch i'r Cadeirydd, aelodau'r pwyllgor a thîm clercio'r pwyllgor newid hinsawdd am lunio adroddiad mor gynhwysfawr. Rwy'n falch o weld y dull ar y cyd a ddefnyddir o ystyried gwasanaethau bysiau a threnau gyda'i gilydd. Yn y Senedd ddiwethaf, roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, ac fe fwynheais gymryd rhan yn ein hymchwiliadau i fysiau a'r rheilffyrdd ar wahân ar y pryd, ond pwynt a wneuthum sawl tro yr adeg honno, i ardaloedd fel fy rhai i yng Nghwm Cynon, oedd mai bysiau yw'r elfen hanfodol ar gyfer cysylltu cymunedau sy'n gallu bod yn anghysbell â'r rhwydwaith trenau. Ni allwn eu gweld ar wahân, felly rwy'n croesawu dull y pwyllgor o fynd ati. Rwy'n falch hefyd fod y meddylfryd cydgysylltiedig hwn wedi'i wreiddio yng nghynlluniau metro de Cymru, ac mae'n gadarnhaol nodi'r cynnydd tuag at gyflawni hyn, rhywbeth y gallaf ei weld â'm llygaid fy hun yn fy etholaeth. Hoffwn gofnodi fy niolch i dîm Trafnidiaeth Cymru am roi gwybod i mi am ddatblygiadau lleol yn hyn o beth, yn bennaf er mwyn imi allu rhoi gwybod i fy etholwyr yn eu tro.
I droi at yr argymhellion yn yr adroddiad, rwyf am gyffwrdd ar ambell bwynt allweddol. Rwy'n credu bod argymhelliad 6 ynghylch deall patrymau teithio yn y dyfodol yn allweddol i'r hyn y mae pawb ohonom am ei gyflawni o ran rhoi rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus drawsnewidiol ar waith sy'n addas i'r diben. Rhaid i'r rhwydwaith hwnnw alluogi dinasyddion Cymru i deithio ar gyfer gwaith ac addysg, hamdden a phleser. Edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Cymru'n rhyddhau gwybodaeth am ei harolwg trafnidiaeth cenedlaethol arfaethedig maes o law. Edrychaf ymlaen hefyd at glywed pa fecanweithiau a gaiff eu rhoi ar waith fel ei fod yn cyfleu barn a phrofiadau pob rhan o'r gymdeithas yng Nghymru.
Mae argymhelliad 7 hefyd yn hanfodol bwysig. Rydym eisiau sicrhau bod pobl yn mynd yn ôl ar y bysiau. Rwy'n cymeradwyo'r arian y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i gefnogi gwasanaethau bysiau yn ystod y pandemig, ond rwy'n bryderus hefyd na fydd cynlluniau sydd ar y gweill i ddeddfu ar fysiau'n cyflawni popeth y gallent ei wneud oni bai, er enghraifft, fod cynghorau'n cael digon o gyllid i redeg gwasanaethau. Er enghraifft, rwy'n ymdrin ag achosion yn fy etholaeth lle nad oes gwasanaeth bws i Gwmdâr neu Gwm-bach ar ôl 5.30 p.m., ac nid llefydd gwledig anghysbell yw'r rhain ond pentrefi ychydig y tu allan i'r dref ei hun, gan adael etholwyr—gyda llawer ohonynt yn hŷn a heb drafnidiaeth breifat—wedi'u hynysu i bob pwrpas. Ni all hynny fod yn rhywbeth y gallwn ganiatáu iddo barhau. Os yw'r gwasanaethau hyn, fel y dywedir wrthyf, yn anghynaladwy i ddarparwyr preifat, sut y bydd hyn yn wahanol i'r awdurdod lleol? Sut mae modd hwyluso hyn yn ystod yr hinsawdd economaidd sydd ohoni? Heb gael hyn yn iawn, y cyfan y gallwn ei gyflawni yw symud y bai am wasanaethau bws gwael i awdurdodau lleol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at unrhyw sicrwydd y gall y Dirprwy Weinidog ei roi ar y pwynt hwn.
Mae argymhelliad 8 hefyd yn hanfodol bwysig. Ni fydd y rhwydwaith bysiau arfaethedig gorau yn y byd yn llwyddo os nad oes gennym yrwyr i sicrhau ei fod yn gallu gweithredu. Rwyf wedi cynorthwyo fy nghanghennau undebau llafur yn lleol i ddatrys problemau lleol wrth iddynt godi, ac rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan ein hundebau llafur ran i'w chwarae yn y trafodaethau hyn hefyd. Mae'n rhaid inni gydnabod bod cyflogau teilwng ym mhob ardal, nid dyfarniadau cyflog lleol, ac mae sicrhau amodau gwaith da yn allweddol er mwyn cadw'r gweithlu.
Yn olaf, argymhelliad 9. Mae angen inni ei gwneud yn fforddiadwy i bobl allu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, ond rwy'n pryderu'n fawr y gallai realiti prisiau tocynnau arwain at atal pobl rhag ei defnyddio, yn enwedig wrth ystyried amgylchiadau eraill, fel gwasanaethau'n cael eu canslo ar fyr rybudd. Er enghraifft, ystyriwch os yw rhiant o Ben-y-Waun, un o rannau lleiaf cefnog fy etholaeth, yn mynd â'u dau blentyn sydd yn eu harddegau, er enghraifft, i'w meddygfa agosaf yn Nhrecynon. Byddai'r daith honno ychydig dros 1.5 milltir, ond mae pris tri thocyn yr un faint â chost taith tacsi a fyddai'n mynd â chi o ddrws i ddrws. Mae'n destun pryder fod un darparwr bysiau lleol wedi cyhoeddi y bydd prisiau tocynnau yn codi bron i 10 y cant o ddiwedd y mis hwn, a bydd tocynnau dwyffordd i oedolion hefyd yn cael eu dileu. Rwy'n sylwi ar y gwahanol ffrydiau gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i geisio cael datrysiad, ac unwaith eto, rwyf hefyd yn cydnabod y pwysau ariannol real iawn sydd ar Weinidogion, ond mae'n rhaid inni gael hyn yn iawn i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis synhwyrol, cynaliadwy, realistig a fforddiadwy. Diolch.