Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 18 Ionawr 2023.
Mae’n bleser mawr gennyf gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Fel yr Aelod dros Breseli Sir Benfro, mae wedi bod yn fraint cymryd rhan flaenllaw yn y trafodaethau ynghylch prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr, ac rwy’n ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw’r prosiectau hyn i ddiwallu ein hanghenion ynni ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â'r manteision economaidd enfawr y gall y datblygiadau hyn eu darparu. Byddaf yn canolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar ynni gwynt arnofiol ar y môr, ond gwn fod cyfleoedd sylweddol ar gael i Gymru gydag ynni’r llanw a ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu her enfawr wrth gyflawni ei tharged sero net a diogelu ffynonellau ynni, sy’n golygu bod yn rhaid i ddatblygu ynni glân yng Nghymru fod yn flaenoriaeth ar unwaith. Mae gan dechnoleg ynni gwynt arnofiol ar y môr, er enghraifft, y gallu i ddarparu ynni glân yn ogystal ag ysgogi datblygiad rhanbarthol a chreu cyfleoedd mewn perthynas â'r gadwyn gyflenwi. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei huchelgais i ddarparu hyd at 50 GW o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030, gan gynnwys hyd at 5 GW o ynni gwynt arnofiol, gan gynyddu ymhellach drwy gydol y 2030au a thu hwnt. Fel y gŵyr yr Aelodau, gan y DU y mae'r fferm ynni gwynt arnofiol fwyaf yn y byd eisoes, yn Kincardine ym môr y gogledd, ac mae hon yn enghraifft wych o fanteision cadarnhaol technoleg ynni gwynt arnofiol ar y môr i’r DU. Wrth gwrs, nawr yn fwy nag erioed, mae'n hanfodol fod Llywodraethau ledled y DU ac ar bob lefel yn cydweithio fel y gall Cymru elwa ar y dechnoleg hon.
Er mwyn i Gymru allu gwireddu manteision technoleg ynni gwynt arnofiol ar y môr yn llawn, fel y dywedodd Delyth Jewell, mae’n hollbwysig sicrhau buddsoddiad sylweddol yn ein porthladdoedd, ac mae FLOWMIS, y cynllun buddsoddi mewn gweithgynhyrchu ynni gwynt arnofiol ar y môr, a fydd yn cael ei lansio gan Lywodraeth y DU y flwyddyn nesaf, yn gam pwysig ymlaen. Mae manylion ynglŷn â'r cyllid hwn yn dal i gael eu datblygu, ac rwy’n mawr obeithio gweld porthladdoedd yn y môr Celtaidd yn cael cymorth i uwchraddio eu seilwaith a’u capasiti gweithgynhyrchu. Hefyd, mae angen inni weld cymorth a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Yn wir, wrth ymateb i’r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi yn seilwaith porthladdoedd Cymru, a chadarnhau bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r gwaith o ddatblygu porthladdoedd drwy ddyrannu cyllid i uwchraddio eu seilwaith presennol.