Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 18 Ionawr 2023.
Dwi wir yn croesawu’r ddadl hon. Mae’r Deyrnas Gyfunol, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, yn un o arweinwyr y byd o ran potensial yn ein hynni adnewyddadwy ar y môr. Dwi’n meddwl y bydd y gair ‘potensial’ yn caei ei grybwyll nifer o weithiau yn y ddadl. Mae gan Gymru y potensial i fod yn gawr yn y sector yma. Fel mae pethau’n sefyll, mae potensial y sector ond yn cael ei sylweddoli mewn llond llaw o wledydd. Yn 2021, gosodwyd dros 99.5 y cant o’r capasiti gwynt y môr newydd mewn dim ond pump o wledydd, sef Tsieina, Denmarc, Fietnam, y Netherlands a’r Deyrnas Gyfunol.
Mae angen inni gofio, Dirprwy Lywydd, bod y gwledydd sy’n dechrau’n gynnar yn y sector yma, sy’n buddsoddi’n gynnar, yn cael mantais wrth sefydlu cadwyni cyflenwad ac arbenigedd mewn diwydiant fydd, heb os, yn ehangu, yn datblygu. Mae’r Global Wind Energy Council yn rhagweld y bydd cynnydd 57 gwaith mewn capasiti rhyngwladol erbyn y flwyddyn 2050. Mae arbenigwyr yn disgwyl cynnydd yn America, yn Ne Corea a Taiwan, a thrwy datblygu arbenigedd yma yng Nghymru, gallem ni fod yn rhan o’r stori yna. Mae’r potensial yn stratosfferig mewn rhai ffyrdd. Yn y Môr Celtaidd yn unig, mae asesiadau o gapasiti ychwanegol yn sefyll ar tua 20 GW.
Mae angen i bethau newid, Dirprwy Lywydd, cyn ein bod ni’n gallu bachu ar y cyfleoedd amryw sydd yna. Dydy’r isadeiledd angenrheidiol yng Nghymru ddim gennym ni. Mae angen datblygu ein porthladdoedd, er mwyn caniatáu digonedd o wagle, o gapasiti, a dyfnder ar gyfer platfformau FLOW. Mae angen i Lywodraethau Cymru a San Steffan helpu datblygwyr y porthladdoedd ac awdurdodau perthnasol, i roi hyder iddyn nhw, ac i fuddsoddi.
Mae stad cysylltedd grid a storio yng Nghymru hefyd yn broblem—mae’n annigonol. Mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu ein grid. Mae angen eto buddsoddi yma, yn sicr, gan gynnwys mewn hydrogen gwyrdd, a cables mwy effeithiol. Ac wrth gwrs, bydd yr ehangiad yna’n golygu dim i Gymru oni bai ein bod ni’n gallu elwa ohono fe. Mae angen inni gael pwerau Ystad y Goron er mwyn gwireddu’r potensial hwn. Buaswn i’n ailadrodd safbwynt fy mhlaid bod angen i hynny gael ei ddatganoli. Datganolwyd Ystad y Goron i’r Alban yn 2017, ond mae'r Trysorlys yn San Steffan yn dal i ddal y pwerau Cymreig. Wel, nhw yw’r rhai sydd yn dal i elwa ohonynt, ac, wrth gwrs, y teulu brenhinol.
Yn olaf, bydd angen datblygu sgiliau gwyrdd. Rwy’n gwybod bod gwaith pwysig yn mynd yn ei flaen yn y maes hwn; mae Climate Cymru yn cynnal digwyddiad bord gron o’r enw ‘Swyddi Gwyrdd Da i Bawb’ ar 16 Chwefror, gyda cynrychiolwyr o TUC Cymru, Tata Steel, Airbus a Banc Datblygu Cymru, ac amryw eraill. Mae angen meddwl yn agored ac yn uchelgeisiol am hyn i wneud yn siŵr fod y gweithlu yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd cyffrous yma. Mae angen i Gymru fod ar flaen y gad gyda hyn. Rydym ni wedi clywed yn barod gan Janet Finch-Saunders bod angen i ni wneud yn siwr ein bod ni'n edrych ar yr argyfyngau hinsawdd a natur yng nghyd-destun sut rydym ni'n siarad am hyn. Mae’n rhaid inni sicrhau bod datblygiadau ynni ddim yn cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth, wrth gwrs, ac mae angen bod yn rhesymol ac yn sensitif am sut mae'r datblygiadau yma yn digwydd.
Ond, Dirprwy Lywydd, i gloi, mae pobl yn sôn am goldrush gwyrdd sy’n digwydd oddi ar lannau Cymru, ond tan i ni gael y buddsoddiad a'r pwerau angenrheidiol, bydd Cymru’n parhau i fod yn wyliwr yn unig. Mae’n rhaid i adnoddau Cymru helpu pobl Cymru. Mae angen newid pellgyrhaeddol i alluogi hynny i ddigwydd.