Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch. Mae effaith newid hinsawdd yn gwbl amlwg, ac mae Cymru ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â heriau datgarboneiddio cynhyrchiant ynni, gyda pholisïau a chefnogaeth i ynni adnewyddadwy. Mae cynlluniau ar gyfer datblygwr ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth gyhoeddus yn sicrhau y bydd yr elw a wneir yng Nghymru yn arwain at fwy o fudd i drigolion, gydag elw’n cael ei ailfuddsoddi er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yng Nghymru a chreu swyddi ynni glân o ansawdd da yng Nghymru, mewn cyferbyniad llwyr â Llywodraeth y DU, a fydd yn parhau i ganolbwyntio ar echdynnu tanwydd ffosil gan fethu mynd i'r afael ag effaith costau ynni cynyddol ar gyllidebau aelwydydd. Dylai pleidiau gwleidyddol y DU fod yn dangos i'r byd sut i adeiladu system ynni sero net ddiogel, saff a gwydn, gan ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy cynhenid, yn hytrach na chamarwain ei phoblogaeth i gredu bod angen ynni niwclear i ddarparu'r cyflenwad sylfaen o ynni neu bydd y goleuadau'n diffodd.
Mae adnoddau ynni gwynt ar y môr y DU ynddynt eu hunain yn ddigon i ragori ar sero net a galw'r DU am ynni hyd y gellir ei ragweld, a gallem edrych ar hydrogen gwyrdd fel ateb o ran storio ynni. Mae buddsoddiad yn y ganolfan ragoriaeth peirianneg gwerth £12 miliwn ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl yn dystiolaeth bellach o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r sector ynni adnewyddadwy. Bydd y ganolfan honno'n dod yn hyb ar gyfer darparu addysg a hyfforddiant o safon fyd-eang mewn peirianneg, gyda’r offer arbenigol diweddaraf, a bydd yn sefydliad newydd ar gyfer technoleg ynni adnewyddadwy, mewn partneriaeth â chwmni RWE Renewables. Un o brif nodweddion hyn fydd neuadd dri llawr o uchder ar gyfer gwasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt ar raddfa ddiwydiannol, sy'n wych. Mae'n wych fod gennym y cyfleuster hwn i roi'r sgiliau perthnasol i bobl leol yng ngogledd Cymru ar gyfer gweithio ar brosiectau ynni adnewyddadwy yn y gogledd a thu hwnt.
Fel y nododd y Prif Weinidog ddoe, mae angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi yn y grid cenedlaethol, a ddylai gael ei ailwladoli. Nid yw'n addas i'r diben ar hyn o bryd, gyda gwerth biliynau o elw yn mynd i'r cyfranddalwyr bob blwyddyn. Dylid ailfuddsoddi’r arian hwnnw yn y grid i wella capasiti, er mwyn caniatáu i’r cannoedd o brosiectau adnewyddadwy sydd wedi’u gohirio ar hyn o bryd fynd yn eu blaenau. Ond beth sy'n digwydd pan nad yw'r gwyntoedd yn chwythu, a'r galw am ynni'n parhau i fod yn uchel? Roedd dau gyfnod yn 2021 pan gwympodd y cyflenwad o ynni gwynt am 10 diwrnod, gan orfodi’r grid cenedlaethol i brynu trydan o Wlad Belg, am y pris uchaf y mae Prydain erioed wedi’i dalu i gadw'r pŵer yn llifo. Dylai môr-lynnoedd llanw, megis morlyn llanw gogledd Cymru, a morlyn Abertawe, fod yn rhan o’r cymysgedd ynni i fynd i’r afael â’r problemau hyn. Mae'r llanw'n gwbl ddibynadwy, fel y mae'r trydan y bydd yn ei gynhyrchu.
Gallai’r un prosiect hwn yng ngogledd Cymru gynhyrchu digon o bŵer ar gyfer bron bob cartref yng Nghymru, yn sail i gyflenwadau ysbeidiol o ynni gwynt ac ynni'r haul, ac yn wahanol i orsaf ynni niwclear, nid oes llawer o dechnoleg na chost ynghlwm wrth fôr-lynnoedd llanw. Gyda buddsoddiad a chymorth, gallai morlyn llanw gogledd Cymru fod yn weithredol ymhen 10 mlynedd—flynyddoedd lawer cyn gorsaf niwclear—gydag oes weithredol o dros 120 mlynedd, heb unrhyw weddillion datgomisiynu heriol. Bydd yr amddiffyniad arfordirol a gynigir gan y morlyn yn diogelu miliynau o adeiladau a seilwaith, ac o fudd i genedlaethau i ddod, gan liniaru’r angen am waith amddiffyn arfordirol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, sydd eisoes wedi gorfod buddsoddi biliynau o bunnoedd i amddiffyn yr arfordir. Gallai roi hwb enfawr i economi'r gogledd a’i gallu i ymdopi â heriau newid hinsawdd, a chreu miloedd o swyddi.
Byddai’r buddsoddiad cychwynnol mewn morlyn llanw, ar yr olwg gyntaf, i'w weld yn uchel. Fodd bynnag, o gofio y byddai gan yr ased oes weithredol hir iawn—ddwywaith cymaint â gorsaf niwclear, a phedair gwaith cymaint â fferm wynt—mae unrhyw fuddsoddiad sydd ei angen yn sicr yn darparu gwerth ac enillion cyfalaf rhagorol o gymharu â phrosiectau ynni eraill. Hoffwn nodi, fodd bynnag, y gallai gwaith ehangu disgwyliedig i ffermydd gwynt ar y môr ac ynni’r llanw ledled y byd gael effeithiau amgylcheddol sylweddol, ac mae angen deall a monitro’r rheini’n ofalus. Bûm mewn digwyddiad gan yr RSPB lle dangoswyd adar y môr yn gorfod ymdopi â chroniad o dyrbinau gwynt, cychod, ac adeileddau eraill ar y môr, felly mae angen cynllun gofodol morol cydgysylltiedig arnom. Hyderaf fod Llywodraeth Cymru yn deall y risgiau hyn, ac y bydd o ddifrif ynglŷn â'r argyfwng natur sy’n ein hwynebu wrth benderfynu ar ddyfodol ein cynhyrchiant ynni adnewyddadwy. Diolch.