Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 18 Ionawr 2023.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Weinidog, am fod mor hael gydag ymyriadau. Ac rwy'n cytuno bod peidio ag adeiladu morlyn llanw Abertawe yn gyfle a gollwyd. Rwy'n cytuno. Ond un pwynt pwysig a gododd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, oedd gallu CNC i drwyddedu'r cynlluniau hyn, ac roedd honno'n eitem agenda na chafodd ei hysgrifennu i'w wneud ar ran Llywodraeth Cymru. Ni fyddai CNC yn rhoi'r trwyddedau morol, ac roedd y datblygwyr yn bryderus iawn, hyd yn oed pe baent wedi cael sêl bendith, na fyddent wedi gallu bwrw ymlaen am nad oedd y trwyddedau morol hynny'n dod.