Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 18 Ionawr 2023.
O ran rhestri aros yn gyffredinol, roedd yna ostyngiad yng nghyfanswm y bobl sy'n disgwyl triniaeth yn Hydref, ac mae hyn yn duedd dwi'n gobeithio fydd yn parhau yn ystod y misoedd nesaf. Mae'n ddiddorol nodi bod cyfanswm y llwybrau agored yn Lloegr wedi cynyddu 21 y cant dros y 12 mis diwethaf o fis Hydref, tra bod y nifer yng Nghymru wedi cynyddu dim ond 10 y cant yn ystod yr un cyfnod.