1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2023.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys? OQ59013
Diolch i Jane Dodds, Llywydd, am y cwestiwn yna. Mae'r lefelau uchaf erioed o alw wedi rhoi pwysau gwirioneddol ar amseroedd ymateb ambiwlansys, gydag oediadau hir i rai cleifion. Serch hynny, ym mis Rhagfyr—y mis anoddaf—ymatebodd y gwasanaeth i'r nifer uchaf erioed o alwadau coch o fewn y targed o wyth munud.
Diolch am yr ateb.
Mae'n 13:30. Os yw rhywun yn ffonio 999 nawr oherwydd bod ganddo boenau yn ei frest, pryd fyddech chi'n disgwyl i ambiwlans gyrraedd? Rwy'n siŵr y gwnewch chi adnabod y cwestiwn hwnnw gan arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, Keir Starmer, i Brif Weinidog y DU. Gwrthododd y Prif Weinidog ateb yn blaen, felly rwy'n gobeithio y gallwn ni gael ateb plaen gennych chi y prynhawn yma. Ond, o ystadegau GIG Cymru, rydyn ni'n gwybod, i'r sawl sydd newydd alw 999 gyda'r poenau hynny yn y frest—nad yw'n alwad goch, sy'n syndod, ond yn alwad oren—bydd yn debygol o aros dros awr i ambiwlans gyrraedd. Pe bai'r sawl oedd newydd alw 999 mewn sefyllfa sy'n bygwth ei fywyd—galwad goch—gallai aros cyhyd â 15 munud ym Mhowys. Wyth munud yw'r targed, fel y gwyddoch, ar gyfer y galwadau coch hynny, a Gorffennaf 2020 oedd y tro diwethaf y bodlonwyd y targedau hynny, ac mae'r ffigurau wedi gostwng yn gyflym ers hynny. Mae ein staff ambiwlans yn gweithio'n hynod o galed o dan amgylchiadau anodd iawn. Diolch iddyn nhw i gyd. Felly, a allech chi ddweud wrthyf i pryd rydych chi'n disgwyl i'r targedau hyn gael eu bodloni? A fydd hi'n ddwy flynedd a hanner arall cyn gallu bodloni'r targedau galwadau coch? Diolch.
Wel, Llywydd, gadewch i mi, yn gyntaf oll, ateb y cwestiwn penodol a ofynnodd Jane Dodds wrth gyflwyno ei chwestiwn atodol. Mae'r wybodaeth reoli a ddarperir yn GIG Cymru yn awgrymu, yr wythnos ddiwethaf, yr wythnos a ddechreuodd ar 16 Ionawr, pe bai wedi bod yn alwad goch, mai saith munud, 43 eiliad oedd yr amser aros safonol—yr amser aros canolrifol—o'r funud y caiff galwad ei hanfon i gyrraedd gyda chlaf. Mae hynny'n golygu, o ystyried yr amser y mae cwestiwn cyntaf ar ddydd Mawrth yn ei gymryd fel rheol, erbyn i'r cwestiwn ddod i ben, byddai'r ambiwlans wedi gadael a chyrraedd. Ac os oedd yn alwad oren, fel yr awgrymodd Jane Dodds, yna 38 munud, 52 eiliad oedd yr amser ymateb cyfartalog yr wythnos diwethaf—yr amser ymateb safonol.
Ar y pwynt ehangach, pan fodlonodd y gwasanaeth ambiwlans y targed yr ydym wedi ei osod ar ei gyfer ddiwethaf, roedd wedi gwneud hynny am 48 mis yn olynol. A'r hyn a ddigwyddodd oedd, ym mis Gorffennaf 2020, fe wnaeth effaith y pandemig ddadwneud y pedair blynedd hynny o fodloni'r targedau a osodwyd yn gwbl gyson. Mae'n adferiad araf o hynny i gyd. Ond, Llywydd, fel y dywedais, nid yw o reidrwydd oherwydd bod cyflenwad y gwasanaeth wedi lleihau; mae oherwydd bod y galw am y gwasanaeth wedi cynyddu. Ym mis Rhagfyr, atebwyd mwy o alwadau nag ar unrhyw adeg arall—mwy nag unrhyw fis yn y cyfnod hwnnw o 48 mis—atebwyd mwy o alwadau o fewn yr amser targed. Y ffaith syml yw bod nifer y galwadau yn llawer uwch nag unrhyw beth a ddigwyddodd yn unrhyw un o'r misoedd hynny, ac er gwaethaf, fel y dywedodd Jane Dodds yn deg iawn, ymdrechion enfawr staff ambiwlans, pan fydd gennych chi gynnydd i alw o'r math hwnnw, ni ellir cynnal canran y galwadau sy'n cael eu hateb o fewn yr amser targed. Y cyfuniad o fuddsoddiad ychwanegol ac, yn benodol, staff ychwanegol, yw'r ffordd y byddwn yn llwyddo i ddychwelyd yr ambiwlans i lefel y cyflawniad y byddai ef ei hun yn dymuno ei weld i'w gleifion.
Prif Weinidog, ym mis Rhagfyr, derbyniodd llai na 40 y cant o alwadau lle'r oedd bygythiad i fywyd amser ymateb ambiwlans o fewn targed wyth munud eich Llywodraeth—y lefel isaf erioed. Ac os nad yw hynny'n argyfwng, yna tybed beth yw argyfwng. Ond, o ystyried y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans, ac yr wyf i'n deall y rhesymau amdanyn nhw, mae gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru, wrth gwrs, yn fwy hanfodol fyth i etholwyr fel fy rhai i yn y canolbarth. Felly, o ystyried cyflwr y gwasanaeth ambiwlans cyffredinol yng Nghymru, a gaf i ofyn a fydd y lefelau gwasanaeth presennol yn cael eu cymryd i ystyriaeth yn adolygiad ambiwlans awyr Cymru, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac, os na fyddant, a ydych chi'n credu y dylen nhw? Fel y gwyddoch, ceir parch a chefnogaeth fawr i ambiwlans awyr Cymru, ac mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan bobl y canolbarth. Ceir pryder ar hyn o bryd ymhlith pobl sy'n aros am ambiwlans, a'u teuluoedd hefyd, ond mae hyd yn oed mwy o bryder yn y canolbarth, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi ddeall sut mae'r cynigion presennol yn achosi pryder sylweddol ar draws fy etholaeth.
Llywydd, fel y gwn y bydd Russell George yn ymwybodol, mae prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans yn arwain adolygiad ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys. Mae'r adolygiad hwnnw bellach yn y cyfnod ymgysylltu ffurfiol; nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ar y canlyniad. A bydd y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, ac yn gwneud yn rymus ar ran ei etholwyr, yn cael eu clywed yn yr adolygiad hwnnw wrth gwrs, ochr yn ochr â'r holl dystiolaeth arall. Nod gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru, sy'n sicr yn wasanaeth uchel iawn ei barch ac effeithiol iawn, yw defnyddio'r adnoddau sydd ganddo mewn ffordd sy'n cyrraedd y nifer fwyaf o gleifion ac yn darparu'r gwasanaeth effeithiol hwnnw iddyn nhw. Dyna fydd sail yr adolygiad.
Mae yna gymaint o bethau, wrth gwrs, yn cyfrannu at y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans, y math o bwysau a orfododd etholwraig i fi i aros 24 awr am ambiwlans a hithau wedi torri ei chlun. Rŵan, mae'r cynllun pum pwynt ar gyfer y gwasanaethau iechyd a gofal, a gafodd ei gyhoeddi gan Blaid Cymru heddiw mewn partneriaeth efo nifer o gyrff iechyd, yn cyffwrdd â rhai o'r elfennau a allai helpu yn y tymor byr a'r tymor hir i ymateb i'r pwysau yna: yr angen i setlo'r anghydfod cyflog, i gefnogi'r gweithlu, i wella llif cleifion drwy'r system, a gweithredu mewn ffordd fwy ataliol er mwyn lleihau pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans a gwasanaethau eraill. Mae'r cyfan yn plethu at ei gilydd. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi mai beth rydyn ni'n ei weld yn y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans ydy'r enghraifft orau, o bosib, o'r system iechyd anghynialadwy sydd gennym ni, a system iechyd mewn creisis, a bod yn rhaid cydnabod hynny er mwyn gallu dechrau rhoi atebion mewn lle?
Llywydd, diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn. Dwi wedi cael cyfle byr i gael golwg dros y cynllun y mae Plaid Cymru wedi ei gyhoeddi heddiw. Beth mae'r pwysau yn y maes ambiwlans yn ei olygu yw'r ffaith bod y galw am wasanaethau iechyd dros y gaeaf wedi bod yn un mawr iawn—yn fwy nag ar unrhyw amser erioed yn hanes y gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Mae cynllun gyda ni'n barod. Wrth gwrs, rŷn ni'n fodlon ystyried y pwyntiau sydd yn plan Plaid Cymru i weld a oes mwy rŷn ni'n gallu ei wneud. Ond drwy'r buddsoddiadau rŷn ni'n eu gwneud—ariannol, ond hefyd, fel y dywedais i yn yr ateb i Jane Dodds, mewn mwy o bobl i weithio yn y maes—dyna'r ffordd i drio'n helpu ni i wneud yn well yn y dyfodol.
Prif Weinidog, mae'n bwysig bod pob un ohonom ni yma yn Senedd Cymru yn onest am yr heriau go iawn sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd gwladol annwyl ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Yn Lloegr, ym mis Rhagfyr, cafwyd amser ymateb ambiwlans o 10 munud a 57 eiliad i alwadau gan bobl â salwch neu anafiadau a oedd yn bygwth eu bywydau. Yng Nghymru, ym mis Rhagfyr, 10 munud oedd yr amser ymateb cyfartalog, gyda'r ymateb cyfartalog yn flaenorol, dros y pedair blynedd hyd at y mis hwnnw, yn chwe munud. Felly, dwy wlad gyfagos ag amseroedd ymateb ambiwlans bron yr un fath ym mis Rhagfyr ar gyfer y galwadau mwyaf brys. Ac eto, mae un gwahaniaeth sylfaenol rhwng Cymru a Lloegr: mae Cymru'n cael ei harwain gan y Blaid Lafur, a greodd y gwasanaeth iechyd gwladol ac a fydd yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau am byth ei fod yn parhau i fod am ddim ar bwynt gofal i'r rhai sy'n galw ar ei wasanaethau, ond yn Lloegr, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU a chyn-ysgrifennydd iechyd Lloegr, Sajid Javid, yn damcaniaethu'n agored am gyflwyno newidiadau a thaliadau i hyd yn oed weld meddyg teulu—preifateiddio drwy'r drws ffrynt. Prif Weinidog, pa sicrwydd, felly, allwch chi ei roi i bobl Islwyn a Chymru y bydd ein GIG yn cael blaenoriaeth yng Nghymru fel gwasanaeth iechyd cyhoeddus gwirioneddol genedlaethol, am ddim sy'n gweithredu yn unol â'i etifeddiaeth ddisglair, yn addas i'r diben ac yn cynnig tawelwch meddwl, pan fydd 999 yn cael ei ddeialu, y bydd ambiwlans yn cyrraedd yn brydlon?
Wel, Llywydd, mae'r ambiwlans galwad brys a gafodd ei anfon pan ofynnodd Jane Dodds ei chwestiwn i mi bellach wedi bod yn y fan a'r lle am y tri munud diwethaf. Rwy'n dweud hynny dim ond i roi rhywfaint o synnwyr o'r gwasanaeth sy'n parhau i gael ei ddarparu ym mhob rhan o Gymru i gyd-Aelodau yma. Rhoddaf sicrwydd i Rhianon Passmore, wrth gwrs, nad oes cynlluniau yma yng Nghymru i ddefnyddio'r pwysau sy'n cael eu hwynebu gan y gwasanaeth iechyd gwladol fel esgus i gael gwared ar y gwasanaeth hwnnw. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl, nac oes, bod elfennau yn y Blaid Geidwadol yn genedlaethol sy'n credu bod y pwysau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yn esgus i ddadwneud y gwaith y mae'r gwasanaeth hwnnw yn ei ddarparu ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Wnawn ni fyth wneud hynny yma yng Nghymru, lle mae'r Gweinidog iechyd a'r Prif Weinidog, sy'n gyfrifol am y gwasanaethau yma yng Nghymru, yn gallu rhoi'r union sicrwydd i Rhianon Passmore yr oedd hi'n gofyn amdano.