4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Targedau Ynni Adnewyddadwy

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 24 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:03, 24 Ionawr 2023

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Roeddwn i'n falch iawn i glywed beth roeddech chi'n ei ddweud am Ystad y Goron. Os ydyn ni'n mynd i gael obsesiwn, buaswn i'n dweud bod cael obsesiwn am sicrhau dyfodol gwell a mwy llewyrchus i Gymru yn lle eithaf da i ddechrau, i fod yn onest. Felly, buaswn i'n 'associate-io' fy hunan gyda nifer o'r pethau roeddech chi'n eu dweud am hwnna, achos mae gennym ni yng Nghymru gymaint o adnoddau—wel, mae cymaint o botensial o ran adnoddau adnewyddadwy, ond mae hefyd nifer o rwystrau hirsefydlog sydd angen eu cydnabod cyn i Gymru wireddu'r potensial yna, ac rŷn ni wedi clywed yn barod am un ohonyn nhw.

Dros ddegawd yn ôl, addawodd y Llywodraeth y bydden nhw—wel, y byddech chi—yn gweithredu. Dŷn ni'n dal i ddisgwyl gweld ffrwyth rhai o'r addewidion. Mae lot o bethau i'w clodfori, ond mae yna rwystredigaeth am yr oedi hefyd. Mae gan Lywodraeth Cymru darged i weld Cymru yn ateb 70 y cant o'i galw trydanol o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Ond yn ôl adroddiad blynyddol 'Energy Generation in Wales' y Llywodraeth y llynedd, mae maint y trydan rŷn ni'n ei ddefnyddio wedi cynyddu'n gyflymach na'r trydan adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru. Mae canran y trydan sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru sy'n cael ei greu drwy ffynonellau adnewyddadwy wedi gostwng o 56 y cant yn 2020 i 55 y cant yn 2021. Pan dŷn ni'n edrych i'r flwyddyn ganlynol, 2022, o ystyried y ffaith ein bod ni wedi wynebu sgil-effeithiau'r pandemig, yn ogystal â'r creisis costau byw ac effeithiau'r creisis rhyngwladol yn Wcráin, pa effaith ydych chi'n meddwl y bydd y newidiadau mawr hyn yn eu cael ar ein defnydd ni o drydan? Pa effaith fydd hyn yn ei gael ar ein gallu i gyflawni ein targedau ni?

Rŷn ni, fel plaid, wedi beirniadu’r Llywodraeth yn y gorffennol am yr arafwch, yr oedi gyda'r cynnydd sydd wedi bod yn y maes hwn. Pryd ydych chi’n meddwl y bydd y trend yma yn newid neu'n troi o gwmpas? Buaswn yn hoffi pe gallech chi, Weinidog, osod mas ychydig o gerrig milltir y byddech chi'n rhagweld y byddwn ni'n gallu eu pasio ar y siwrne yna tuag at y targedau hynny, os gwelwch yn dda.

Efallai’r rhwystr mwyaf oll sydd gennym ni ydy ein grid ynni. Rydych chi wedi sôn am hyn yn barod: y rhwydwaith o beilonau, llinellau pŵer a chysylltiadau sy’n gwasanaethu’r system ynni Brydeinig. Wythnos diwethaf, awgrymodd y Prif Weinidog y byddai’n hoffi gweld y grid cenedlaethol yn dod o dan reolaeth gyhoeddus. Fe soniodd am yr arian anferth sy’n mynd i gyfranddalwyr a'r backlog o bron i 700 o brosiectau ynni adnewyddadwy sy'n dal i aros i’r grid ffeindio capasiti iddyn nhw. Ydy Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud yr achos am reolaeth gyhoeddus o’r grid cenedlaethol? Ydych chi neu'ch swyddogion wedi cynnal trafodaethau â Llywodraeth San Steffan am genedlaetholi’r grid? Pa effaith, yn olaf, ydych chi’n meddwl y byddai hynny'n ei gael ar ein gallu i gyflawni'r targedau ynni adnewyddadwy? Diolch.