4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Targedau Ynni Adnewyddadwy

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 24 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:59, 24 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Janet. Gobeithio y bydd eich gwddf yn gwella yn fuan; mae gen i bob cydymdeimlad. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cael problem debyg iawn fy hun, felly mae gen i lawer o gydymdeimlad yn hynny o beth.

Dim ond o ran Ystad y Goron, yn amlwg, rydyn ni o blaid datganoli Ystad y Goron, ac mae manteision hynny yn amlwg iawn. I ddechrau, mae'r refeniw ei hun yn werth ei gael, dim ond i ddweud hynny'n blwmp ac yn blaen. Felly, hyd yn oed os nad oedden ni eisiau gwneud unrhyw beth arall, mae'n amlwg y byddai'r refeniw yn werth ei gael. Ond, mewn gwirionedd, yr hyn sy'n llawer, llawer gwell o ran y datganoli yr hoffem ei weld yw'r hyn y byddem wedyn yn gallu ei wneud gyda sicrhau bod y gadwyn gyflenwi leol a chyflogaeth leol wedi'u cynnwys yn y rownd ocsiwn. Nawr, mae'n ddrwg iawn gen i ddweud nad oedd y rownd ocsiwn ddiwethaf, er ein bod yn falch iawn o'i gweld yn cael ei chaniatáu ac yn mynd rhagddi, heb y mathau o fesurau diogelu y byddem wedi hoffi eu gweld ar gyfer cyflenwad a pherchnogaeth leol. Roedd yn drefniant llwyddo/methu yn unig, ac nid yw'n rhan o amodau'r contract.

Mae'n ddrwg iawn gen i am hynny, oherwydd yr hyn sydd gennym ni yn y fan yna yw ras i'r cynigydd uchaf, ac yna pan ryddheir y cytundebau am rowndiau gwahanol gan y Llywodraeth, bydd hynny'n ras i'r pris isaf. A'r bobl sy'n cael eu gwasgu yng nghanol y ddwy gystadleuaeth wrthwynebus hynny, sy'n cael eu rhedeg gan yr un Llywodraeth, yw'r cyflenwyr, tra bod y prif gwmnïau ynni sydd wedi cael budd yr ocsiwn ar gyfer prydlesi yn gwasgu eu cadwyn gyflenwi er mwyn cael y gost am y contractau am wahaniaeth i lawr cyn belled ag y bo modd. Ac fel y dywedais dim ond yn ddiweddar iawn yn y Senedd mewn datganiad arall, y gwir broblem sydd yna yw sicrhau nad yw'r cwmnïau rhyngwladol mawr sydd wedi ennill, oherwydd y ffordd y cafodd yr ocsiwn ei rhedeg, yn dychwelyd i'w cadwyni cyflenwi eu hunain gartref fel y ffordd gyflymaf a rhwyddaf o gael y pris hwnnw i lawr, ac mae hynny'n broblem wirioneddol i ni.

Pe bai Ystad y Goron wedi'i datganoli, byddem wedi gallu dylanwadu'n uniongyrchol ar hynny, ac mae'n ddrwg iawn gen i nad oeddem yn gallu. Mae'r cyflenwad hwnnw mewn gwirionedd yn werth mwy na'r pris neu'r goblygiad refeniw, ac os edrychwch chi beth sydd wedi digwydd yn yr Alban, dyna'n union maen nhw wedi gallu ei wneud. Felly, rwy'n gresynu nad oedd Ystad y Goron yn gweld yn dda i wneud hynny, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw ar gyfer rowndiau'r dyfodol i wneud yn siŵr y gall cwmnïau llai, consortiwm cwmnïau llai, a chynlluniau cymunedol ac ynni adnewyddadwy sydd dan berchnogaeth leol, fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r ocsiwn, ac nid yn rhan o'r gadwyn gyflenwi. Felly, rwy'n credu bod hynny'n esiampl uniongyrchol iawn i chi o pam y byddai'n bwysig i ni. Rwy'n gwybod nad yw eich plaid yn cytuno â'r peth, ond rwy'n methu'n lân â deall pam, i fod yn onest, oherwydd mae'r manteision mewn gwirionedd, yn amlwg iawn iawn.

O ran effeithlonrwydd ynni, mae gennym ni effeithlonrwydd ynni yn ein cynlluniau. Mae'n rhan o'n cyllideb garbon, ac mae'n rhan o argymhellion y pwyllgor hinsawdd i ni. Rydym yn disgwyl i bawb yng Nghymru chwarae eu rhan. Nid yw'n rhan o'r datganiad penodol hwn, ond rwy'n argymell i chi'r dogfennau cyllideb carbon eu hunain, sy'n nodi'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl o ran effeithlonrwydd ynni. Wrth gwrs mae arnom ni eisiau defnyddio'r ynni sydd ei angen yn unig; wrth gwrs mae arnom ni eisiau'r grid mwyaf effeithlon, ac mae hynny'n rhan o'r un sgwrs yr wyf wedi'i hail adrodd, Dirprwy Lywydd, ar lawr y Siambr hon lawer gwaith. Mae angen i'r grid fod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, mae angen i bobl fod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl yn eu defnydd o ynni, ar lefel busnes a diwydiannol, ac ar lefel leol, ond, rydym yn gwybod, ac fe wnaethoch chi amlinellu hynny eich hun, oherwydd y sefyllfa o ran gwres, ar gyfer cerbydau trydan, ar gyfer ystod eang o bethau eraill, rydym yn gwybod y bydd y defnydd o ynni'n cynyddu ac, fel y dywedais yn fy natganiad, rydym yn ffyddiog y bydd ein cynllun i gael 100 y cant o ynni adnewyddadwy yn cyd-fynd â'r uchelgais honno, oherwydd y cyfle gwirioneddol sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae mor gyffrous gweld hynny.

Popeth roeddech chi'n ei ddweud am berchnogaeth leol rwy'n cytuno â nhw, heblaw am y trethi busnes. Mae problem wirioneddol yn y fan yna, Dirprwy Lywydd, na wna i fanylu arni nawr, oherwydd bydd yn cymryd llawer gormod o amser. Ond mae gwir fater yno ynglŷn â'r lefel gywir o drethu lleol ar gyfer y lefel gywir o elw, y bydd gennym ni, mae'n siŵr, gyfle i'w drafod dro arall.