Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 24 Ionawr 2023.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddiwygio'n sylfaenol yr hyn rŷn ni'n ei addysgu a'n ffordd ni o wneud hynny, er mwyn i ni gefnogi cynnydd addysgol ein dysgwyr, eu lles nhw, a'u cyfleoedd bywyd nhw hefyd.
Ond, i wireddu hyn, mae angen i'r diwygiadau gydgysylltu gyda'i gilydd. Rhaid i bob rhan o'n rhaglen ddiwygio fod yn gwbl gyson er mwyn i ni allu sicrhau safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb. Rhaid i'r ffordd rŷn ni'n mynd ati i werthuso a gwella ysgolion newid, sy'n cynnwys newid y system atebolrwydd hefyd. Yn anad dim, rhaid i ni roi ein hysgolion yn y sefyllfa orau bosib i wireddu'r weledigaeth honno ar gyfer addysg i ddysgwyr. Mae hyn yn golygu symud i system atebolrwydd sy'n helpu ysgolion i wella'r hyn maen nhw'n ei gynnig i ddysgwyr, yn lle profi eu hunain i eraill.
Yr haf diwethaf, cyhoeddwyd canllawiau newydd ar wella ysgolion sy'n hoelio sylw ein holl ffordd o feddwl a'n cefnogaeth i ysgolion ar y dysgwr. Byddwn yn ymgyngori ar y canllawiau hyn yn ystod y flwyddyn yma, gyda'r bwriad o'u gwneud nhw'n statudol yn 2024. Mae athrawon ac arweinwyr ledled Cymru'n parhau i weithredu yn ôl eu hymrwymiad i'n dysgwyr ac i gefnogi ein disgyblion i fod y gorau y gallant fod, er gwaethaf y cyfnod anodd hwn. Rhaid i'n dull o wella ysgolion ganolbwyntio ar y dysgwr a'r athro a rhaid i'r dull hwnnw gydnabod mai'r ffordd y mae'r ddau'n rhyngweithio yn yr ystafell ddosbarth yw'r hyn sy'n gwneud y gwahaniaeth i wella ysgolion a chyrhaeddiad ein dysgwyr.
Heddiw, rwyf am siarad drwy ein camau nesaf i gefnogi ysgolion sy'n cynnal proses hunanwerthuso a gwella fel rhan o'u prosesau rheolaidd. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau dull o wella ysgolion sy'n rhoi'r lle canolog, wrth gwrs, i ddysgwyr. I gyflawni hynny, mae'n rhaid i ni wybod pa wybodaeth am ysgolion a dysgwyr sydd ei angen arnom ni i sicrhau bod y system honno'n gweithio. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi adroddiad ar ddatblygu'r 'ecosystem gwybodaeth' newydd hon, ac mae'r derminoleg honno'n cydnabod y cydbwysedd sydd ei angen yn y system a'r ffaith bod gweithgareddau mewn un maes yn cael effaith ar faes arall. Roedd yr ymchwil hon yn cynnwys trafodaethau manwl gydag ysgolion, gydag awdurdodau lleol, partneriaid cyflenwi, rhieni a dysgwyr, oherwydd ein bod ni'n cydnabod bod gan wahanol bartneriaid ofynion gwahanol, bod gwybodaeth yn cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol, a hefyd bod gan ddata rôl glir i'w chwarae wrth fagu hyder y cyhoedd.