Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 24 Ionawr 2023.
Mae'n gwbl glir i mi, Dirprwy Lywydd, bod defnyddio ystod eang o wybodaeth yn hanfodol i gefnogi gwerthuso a gwella. Ni ddylid defnyddio darnau ynysig o ddata, neu ddarnau allan o gyd-destun, i farnu perfformiad na chymharu ysgolion. Rwy'n croesawu ymateb Estyn i fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, gan gadarnhau na fyddant hwythau chwaith yn defnyddio darnau o wybodaeth ynysig i asesu gwelliant ysgolion nac ar gyfer atebolrwydd.
Yn yr un modd, dylai unrhyw ofynion ar ysgolion i ddarparu gwybodaeth fod â diben clir. Y diben hwnnw, wrth ei wraidd, yw helpu athrawon i gefnogi dysgu. Dylai gwybodaeth am sut mae dysgwyr yn dod yn eu blaen, a dilyniant gwahanol garfannau mewn cyd-destunau gwahanol, helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i werthuso eu hunain a gwella eu cynnig eu hunain, gyda chefnogaeth gwasanaethau gwella ysgolion. Er hynny, rhaid i ni beidio ag anghofio pwysigrwydd hanfodol rhieni a'r angen am dryloywder gwybodaeth i'w galluogi i wneud penderfyniadau ar addysg eu plentyn ac ymgysylltu ag ysgol eu plentyn.
Bydd yr adroddiad yn ein helpu i ddatblygu ein dull diwygiedig o ymdrin â gwybodaeth i gefnogi gwelliant ysgolion. Er mwyn sicrhau ein bod ni’n amlwg yn rhoi dysgwyr ac athrawon wrth wraidd hyn, bydd fy swyddogion yn cynnull grŵp ymarferwyr i ddechrau datblygu'r dirwedd wybodaeth newydd yng nghyd-destun argymhellion yr adroddiad. Er y gallai gwahanol rannau o Gymru fod ag anghenion gwahanol, mae yna faterion sylfaenol a ddylai fod yn ganolbwynt i bawb. Mae'r wyth ffactor sy'n cefnogi gwireddu'r cwricwlwm, a nodir yn y canllawiau gwella ysgolion, yn ymgorffori'r blaenoriaethau cenedlaethol craidd hyn.
Ni fydd yn syndod i'r Siambr fy mod i’n gwbl glir bod rhaid canolbwyntio'n benodol ar wella hynt ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Yn ogystal â dysgwyr ac athrawon, byddaf yn gwrando ar leisiau rhieni, er mwyn sicrhau bod y wybodaeth maen nhw’n ei chael yn eu helpu yn y ffordd orau i ddeall profiad addysgol eu plant. Byddwn ni'n ceisio symleiddio a hyrwyddo cysondeb mewn dulliau gwybodaeth ar draws ysgolion ac ar draws Cymru. Bydd dull mwy cydlynol a symlach yn gofyn i ni i gyd weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth. Bydd angen cyfaddawdu, ac weithiau, penderfyniadau anodd i roi'r gorau i ofyn am rywfaint o wybodaeth lle nad yw'n cefnogi dysgwyr ac athrawon. Ond rhaid i ni fachu ar y cyfle yma.
O ran deall sut mae dysgwyr yn cyflawni'n genedlaethol, mae p'un a ydym ni’n cyflawni ein hamcan o godi safonau ledled Cymru yn rhan allweddol o'r dirwedd wybodaeth hon, sy'n hanfodol i lywio ein cefnogaeth i ysgolion ac i dryloywder a hyder yn y system. I gefnogi hyn, rwyf wedi gwneud y penderfyniad y byddwn ni’n cyflwyno rhaglen uchelgeisiol o fonitro cenedlaethol i asesu gwybodaeth a sgiliau ar draws ehangder y Cwricwlwm i Gymru. Nid yw hyn yn ymwneud â phrofi pob dysgwr. Yn hytrach, byddwn yn defnyddio samplu i ddeall a monitro cyrhaeddiad dysgwyr a chynnydd dros amser ar lefel system. Bydd y dull hwn yn lleihau baich ar ysgolion a'r system addysg yn ei chyfanrwydd, yn helpu i ddarparu'r wybodaeth rydym ni ei hangen i ddeall ein cynnydd fel cenedl yn well ac yn ein helpu i ddeall effaith tlodi ar gyflawniad dysgwyr yn well a chefnogi ein dulliau o fynd i'r afael â hyn. Rydym ni’n bwriadu dechrau cyflwyno'r asesiadau sampl hyn ar sail treialu yn y flwyddyn academaidd 2025-26.
Dirprwy Lywydd, yn olaf, mae cyflawni cymwysterau yn parhau i fod yn hanfodol bwysig i ddysgwyr a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Yn 2019, fe wnaethom gyflwyno mesurau pontio dros dro newydd ar gyfer ysgolion uwchradd oedd yn sicrhau bod mwy o bwyslais ar godi ein dyheadau ar gyfer pob dysgwr gyda dangosyddion oedd yn dal cyflawniad ein holl ddysgwyr yng nghyfnod allweddol 4 yn well. Cafodd y mesurau hyn, fel y bydd Aelodau yn ymwybodol, eu hoedi yn ystod y pandemig. Am gyfnod dros dro, byddwn ni'n ailgychwyn adrodd canlyniadau cyfnod allweddol 4 ar lefel ysgol, gan gynnwys y polisi o gyfrif dyfarnu cymwysterau cyntaf yn unig. Mae hyn yn rhywbeth dros dro, wrth i ni symud tuag at system fwy cyfannol sy'n hyrwyddo dysgu ac yn rhoi dysgwyr, athrawon a rhieni wrth ei gwraidd. Ni fydd yn berthnasol i ddysgwyr nawr sy'n dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru.
Rydw i wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion i ddatblygu tirwedd wybodaeth newydd, gan gynnwys gwybodaeth am gymwysterau, yn barod ar gyfer y TGAU newydd o 2025, ac rwy'n bwriadu darparu diweddariadau pellach i'r Siambr wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.