5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwella Ysgolion a’r Sylfaen Wybodaeth

– Senedd Cymru am 4:24 pm ar 24 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:24, 24 Ionawr 2023

Fe wnawn ni symud ymlaen i eitem 5, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar wella ysgolion a'r sylfaen wybodaeth. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddiwygio'n sylfaenol yr hyn rŷn ni'n ei addysgu a'n ffordd ni o wneud hynny, er mwyn i ni gefnogi cynnydd addysgol ein dysgwyr, eu lles nhw, a'u cyfleoedd bywyd nhw hefyd. 

Ond, i wireddu hyn, mae angen i'r diwygiadau gydgysylltu gyda'i gilydd. Rhaid i bob rhan o'n rhaglen ddiwygio fod yn gwbl gyson er mwyn i ni allu sicrhau safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb. Rhaid i'r ffordd rŷn ni'n mynd ati i werthuso a gwella ysgolion newid, sy'n cynnwys newid y system atebolrwydd hefyd. Yn anad dim, rhaid i ni roi ein hysgolion yn y sefyllfa orau bosib i wireddu'r weledigaeth honno ar gyfer addysg i ddysgwyr. Mae hyn yn golygu symud i system atebolrwydd sy'n helpu ysgolion i wella'r hyn maen nhw'n ei gynnig i ddysgwyr, yn lle profi eu hunain i eraill.

Yr haf diwethaf, cyhoeddwyd canllawiau newydd ar wella ysgolion sy'n hoelio sylw ein holl ffordd o feddwl a'n cefnogaeth i ysgolion ar y dysgwr. Byddwn yn ymgyngori ar y canllawiau hyn yn ystod y flwyddyn yma, gyda'r bwriad o'u gwneud nhw'n statudol yn 2024. Mae athrawon ac arweinwyr ledled Cymru'n parhau i weithredu yn ôl eu hymrwymiad i'n dysgwyr ac i gefnogi ein disgyblion i fod y gorau y gallant fod, er gwaethaf y cyfnod anodd hwn. Rhaid i'n dull o wella ysgolion ganolbwyntio ar y dysgwr a'r athro a rhaid i'r dull hwnnw gydnabod mai'r ffordd y mae'r ddau'n rhyngweithio yn yr ystafell ddosbarth yw'r hyn sy'n gwneud y gwahaniaeth i wella ysgolion a chyrhaeddiad ein dysgwyr.

Heddiw, rwyf am siarad drwy ein camau nesaf i gefnogi ysgolion sy'n cynnal proses hunanwerthuso a gwella fel rhan o'u prosesau rheolaidd. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau dull o wella ysgolion sy'n rhoi'r lle canolog, wrth gwrs, i ddysgwyr. I gyflawni hynny, mae'n rhaid i ni wybod pa wybodaeth am ysgolion a dysgwyr sydd ei angen arnom ni i sicrhau bod y system honno'n gweithio. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi adroddiad ar ddatblygu'r 'ecosystem gwybodaeth' newydd hon, ac mae'r derminoleg honno'n cydnabod y cydbwysedd sydd ei angen yn y system a'r ffaith bod gweithgareddau mewn un maes yn cael effaith ar faes arall. Roedd yr ymchwil hon yn cynnwys trafodaethau manwl gydag ysgolion, gydag awdurdodau lleol, partneriaid cyflenwi, rhieni a dysgwyr, oherwydd ein bod ni'n cydnabod bod gan wahanol bartneriaid ofynion gwahanol, bod gwybodaeth yn cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol, a hefyd bod gan ddata rôl glir i'w chwarae wrth fagu hyder y cyhoedd. 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:28, 24 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'n gwbl glir i mi, Dirprwy Lywydd, bod defnyddio ystod eang o wybodaeth yn hanfodol i gefnogi gwerthuso a gwella. Ni ddylid defnyddio darnau ynysig o ddata, neu ddarnau allan o gyd-destun, i farnu perfformiad na chymharu ysgolion. Rwy'n croesawu ymateb Estyn i fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, gan gadarnhau na fyddant hwythau chwaith yn defnyddio darnau o wybodaeth ynysig i asesu gwelliant ysgolion nac ar gyfer atebolrwydd.

Yn yr un modd, dylai unrhyw ofynion ar ysgolion i ddarparu gwybodaeth fod â diben clir. Y diben hwnnw, wrth ei wraidd, yw helpu athrawon i gefnogi dysgu. Dylai gwybodaeth am sut mae dysgwyr yn dod yn eu blaen, a dilyniant gwahanol garfannau mewn cyd-destunau gwahanol, helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i werthuso eu hunain a gwella eu cynnig eu hunain, gyda chefnogaeth gwasanaethau gwella ysgolion. Er hynny, rhaid i ni beidio ag anghofio pwysigrwydd hanfodol rhieni a'r angen am dryloywder gwybodaeth i'w galluogi i wneud penderfyniadau ar addysg eu plentyn ac ymgysylltu ag ysgol eu plentyn.

Bydd yr adroddiad yn ein helpu i ddatblygu ein dull diwygiedig o ymdrin â gwybodaeth i gefnogi gwelliant ysgolion. Er mwyn sicrhau ein bod ni’n amlwg yn rhoi dysgwyr ac athrawon wrth wraidd hyn, bydd fy swyddogion yn cynnull grŵp ymarferwyr i ddechrau datblygu'r dirwedd wybodaeth newydd yng nghyd-destun argymhellion yr adroddiad. Er y gallai gwahanol rannau o Gymru fod ag anghenion gwahanol, mae yna faterion sylfaenol a ddylai fod yn ganolbwynt i bawb. Mae'r wyth ffactor sy'n cefnogi gwireddu'r cwricwlwm, a nodir yn y canllawiau gwella ysgolion, yn ymgorffori'r blaenoriaethau cenedlaethol craidd hyn.

Ni fydd yn syndod i'r Siambr fy mod i’n gwbl glir bod rhaid canolbwyntio'n benodol ar wella hynt ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Yn ogystal â dysgwyr ac athrawon, byddaf yn gwrando ar leisiau rhieni, er mwyn sicrhau bod y wybodaeth maen nhw’n ei chael yn eu helpu yn y ffordd orau i ddeall profiad addysgol eu plant. Byddwn ni'n ceisio symleiddio a hyrwyddo cysondeb mewn dulliau gwybodaeth ar draws ysgolion ac ar draws Cymru. Bydd dull mwy cydlynol a symlach yn gofyn i ni i gyd weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth. Bydd angen cyfaddawdu, ac weithiau, penderfyniadau anodd i roi'r gorau i ofyn am rywfaint o wybodaeth lle nad yw'n cefnogi dysgwyr ac athrawon. Ond rhaid i ni fachu ar y cyfle yma.

O ran deall sut mae dysgwyr yn cyflawni'n genedlaethol, mae p'un a ydym ni’n cyflawni ein hamcan o godi safonau ledled Cymru yn rhan allweddol o'r dirwedd wybodaeth hon, sy'n hanfodol i lywio ein cefnogaeth i ysgolion ac i dryloywder a hyder yn y system. I gefnogi hyn, rwyf wedi gwneud y penderfyniad y byddwn ni’n cyflwyno rhaglen uchelgeisiol o fonitro cenedlaethol i asesu gwybodaeth a sgiliau ar draws ehangder y Cwricwlwm i Gymru. Nid yw hyn yn ymwneud â phrofi pob dysgwr. Yn hytrach, byddwn yn defnyddio samplu i ddeall a monitro cyrhaeddiad dysgwyr a chynnydd dros amser ar lefel system. Bydd y dull hwn yn lleihau baich ar ysgolion a'r system addysg yn ei chyfanrwydd, yn helpu i ddarparu'r wybodaeth rydym ni ei hangen i ddeall ein cynnydd fel cenedl yn well ac yn ein helpu i ddeall effaith tlodi ar gyflawniad dysgwyr yn well a chefnogi ein dulliau o fynd i'r afael â hyn. Rydym ni’n bwriadu dechrau cyflwyno'r asesiadau sampl hyn ar sail treialu yn y flwyddyn academaidd 2025-26.

Dirprwy Lywydd, yn olaf, mae cyflawni cymwysterau yn parhau i fod yn hanfodol bwysig i ddysgwyr a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Yn 2019, fe wnaethom gyflwyno mesurau pontio dros dro newydd ar gyfer ysgolion uwchradd oedd yn sicrhau bod mwy o bwyslais ar godi ein dyheadau ar gyfer pob dysgwr gyda dangosyddion oedd yn dal cyflawniad ein holl ddysgwyr yng nghyfnod allweddol 4 yn well. Cafodd y mesurau hyn, fel y bydd Aelodau yn ymwybodol, eu hoedi yn ystod y pandemig. Am gyfnod dros dro, byddwn ni'n ailgychwyn adrodd canlyniadau cyfnod allweddol 4 ar lefel ysgol, gan gynnwys y polisi o gyfrif dyfarnu cymwysterau cyntaf yn unig. Mae hyn yn rhywbeth dros dro, wrth i ni symud tuag at system fwy cyfannol sy'n hyrwyddo dysgu ac yn rhoi dysgwyr, athrawon a rhieni wrth ei gwraidd. Ni fydd yn berthnasol i ddysgwyr nawr sy'n dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru.

Rydw i wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion i ddatblygu tirwedd wybodaeth newydd, gan gynnwys gwybodaeth am gymwysterau, yn barod ar gyfer y TGAU newydd o 2025, ac rwy'n bwriadu darparu diweddariadau pellach i'r Siambr wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 4:33, 24 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Er eich bod chi wedi ceisio rhoi rhywfaint o eglurder ar y mater, sy'n cael ei werthfawrogi, mae gen i rai pryderon o hyd sy'n cael eu hategu gan rieni ac ymarferwyr fel ei gilydd. Mae eich datganiad yn amlinellu na ddylid defnyddio data ar wahân i farnu perfformiad neu gymharu ysgolion. Yn draddodiadol, wrth gwrs, defnyddir gwybodaeth am berfformiad ysgolion yng Nghymru a gweddill y DU i feirniadu perfformiad a chymharu ysgolion. Ar ben hynny, mae data cymharol ond yn gwasanaethu i godi safonau ymarfer a chaniatáu i ysgolion weithio ar y cyd ar feysydd priodol o gryfderau a gwendidau. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau na fydd colli'r data tryloyw hwnnw'n arwain at ostwng safonau o fewn y proffesiwn? A sut mae'r system fonitro genedlaethol newydd hon yn mynd i helpu anghenion hynod amrywiol ysgolion ledled Cymru?

A, Gweinidog, yn eich datganiad yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi ddweud,

'Byddwn yn datblygu syniadau pellach i gyd-fynd â chyflwyno cymwysterau newydd o 2025 wrth inni ddatblygu ein tirwedd wybodaeth newydd.'

Mae ansicrwydd eisoes ynghylch arholiadau a chymwysterau, sy'n cael ei ddangos drwy'r thema gyson drwy adroddiad Estyn 2021-22. Mae'r rhan fwyaf o leoliadau'n wynebu pryderon difrifol am yr ansicrwydd ynglŷn â'r cymwysterau newydd, fydd yn asesu'r Cwricwlwm i Gymru. O'r herwydd, ni wnaeth llawer o flwyddyn 11 symud ymlaen yn ôl y disgwyl. Er mwyn dwysáu hyn, mewn ysgolion pob oed, roedd y rhai rhwng blynyddoedd 6 a 7 yn gweld fod pontio addysgol wedi'i ddifrodi gan y diffyg sicrwydd hwn. Felly, mae'r fframwaith yn anghyflawn, ochr yn ochr â'r set anghyflawn o gymwysterau sy'n cael eu hisosod o fewn cwricwlwm nad yw'n cael ei weithredu'n llawn. Felly, Gweinidog, sut yn union mae ysgolion i fod i baratoi ac addasu, gyda marciau cwestiwn o'r fath yn dal i fod yn weddill, a phryd byddan nhw'n cael rhywfaint o sicrwydd?

Ac yn olaf, Gweinidog, ein pryder olaf yw pwyslais hunan-werthuso'r fframwaith newydd hwn. Wrth adolygu adroddiadau Estyn eleni, mae'n ymddangos bod yna anhafaledd llwyr rhwng y derminoleg newydd a osodwyd yn nulliau'r gorffennol. Wrth edrych yn fanwl ar yr adroddiadau, mae nodweddion penodol o wahaniaethau unigol rhwng arolygwyr, yn seiliedig ar ddiddordebau, ideolegau a ffyrdd o fynegi eu hargymhellion, a fydd, heb os, yn cael eu hadlewyrchu mewn unrhyw ysgol neu hunan-werthusiad ALl. Roedd arolygwyr yn gofyn i ysgolion rannu rhywfaint o ddata asesu fel rhan o'r broses arolygu gyda nhw. Fodd bynnag, os yw pob ysgol yn asesu ei chwricwlwm ei hun, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, ac mae gan bob ysgol ei chwricwlwm lleol unigryw ei hun, mae hynny hefyd yn golygu y bydd eu data asesu hefyd yn unigryw. O ystyried nad oes graddfa na dull o gymharu, dim fframwaith llac i fesur gwelliant, sut mae ysgolion ac ALl yn gallu dangos i arolygwyr bod disgyblion yn gwneud cynnydd yn eu sgiliau llythrennedd, rhifedd, digidol a Chymraeg, er enghraifft, heb fudd y safon genedlaethol honno ar gyfer llefaredd, ysgrifennu, sgiliau digidol na Chymraeg? Diolch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:36, 24 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mi wnaf i geisio ateb cymaint ohonyn nhw ag y galla i. Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol yw bod gwahaniaeth rhwng data am atebolrwydd ar y naill law a data ar gyfer asesu a hunan-wella ar y llaw arall. Mae'n bwysig iawn ein bod ni’n sicrhau bod y ddau beth hynny'n cael eu cadw ar wahân, oherwydd eu bod yn gwasanaethu dibenion gwahanol iawn, iawn. Y rheswm dros symud i ffwrdd o gategoreiddio ysgolion oedd oherwydd bod hynny mewn gwirionedd yn pylu'r ffin rhwng y ddau mewn ffordd oedd yn creu cymhellion gwrthdro, i bob pwrpas, ar lefel ysgol, mewn perthynas â rheoli data a'r dewisiadau a wnaed yn ogystal ag mewn perthynas ag arholiadau, o bosibl, mewn rhai achosion hefyd. Gallaf sicrhau'r Aelod ei bod yn sylfaenol bwysig i'n system fod llinell atebolrwydd glir mewn perthynas ag ysgolion.

Yn bennaf, y corff llywodraethu sy’n gyfrifol am atebolrwydd ar lefel ysgol yn amlwg, ond yn amlwg, yn allanol, i Estyn fel yr arolygiaeth ysgolion. Ac fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, o 2024, bydd arolygiadau amlach o ganlyniad i raglen newydd Estyn, a fydd yn darparu, yn amlwg, wybodaeth fwy rheolaidd i'r system am berfformiad ysgolion. Fel y bydd hi hefyd yn ymwybodol o'r pwynt olaf yn ei chwestiwn, mae dull newydd o arolygu, gan gael gwared ar ddyfarniadau crynodol a darparu adroddiadau addas i rieni, pob un ohonynt, yn fy marn i, yn rhoi gwell gwybodaeth ansoddol mewn ffordd llawer mwy agored i rieni. A hefyd, yn amlwg, mae cyfleu hynny mewn ffordd y gall rhieni ei ddeall yn haws yn bwysig iawn, a dyna pam rwy'n croesawu'r gwaith sydd wedi bod yn digwydd mewn perthynas â'r adroddiadau addas ar gyfer rhieni.

Y profiad hyd yma, fel rwy'n ei ddeall gan Estyn, o gael gwared ar y dyfarniadau crynodol yw bod y trafodaethau ar lefel ysgol wedi canolbwyntio llawer yn fwy ar y mathau o bethau roedd yr Aelod yn gofyn amdanyn nhw yn ei chwestiwn hi, sef: sut y gall yr ysgolion hynny wybod ble maen nhw ar y daith i hunan-wella, gweithredu'r cwricwlwm, a chanolbwyntio mewn gwirionedd ar y camau ymarferol o ran cryfderau a gwendidau, yn hytrach na chanolbwyntio ar gwestiwn y ffin rhwng gwahanol ddyfarniadau crynodol. Felly, dyna'r profiad hyd yn hyn. Yn amlwg mi fyddaf yn cadw llygad barcud ar hynny gydag Estyn. Mae'n amlwg yn bwysig iawn ar gyfer llwyddiant ein system bod hynny wedi'i wreiddio'n iawn yn y dull o atebolrwydd. O ran y rhaglen fonitro genedlaethol, byddwn ni nawr mewn proses o nodi hynny, gan brofi rhai o'r dulliau o ymdrin â hynny—pa mor aml? Carfan o ba faint? Mae pob math o gwestiynau dylunio, os mynnwch chi, sydd angen mynd i mewn i hynny.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, rwy’n credu, ac mae'n un rwyf i wedi bod yn profi fy hun gyda swyddogion, am yr ystod o ysgolion sydd gennym ni yng Nghymru, a'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu. Sut ydyn ni'n sicrhau bod yr wybodaeth rydyn ni'n ei chael yn darparu set ddefnyddiol o negeseuon i ni? Mae hynny'n gwestiwn da. Mae'n bwynt pwysig o farnu. Felly, mae’r dewis sydd i'w wneud yn y cyd-destun hwn fel a ganlyn: naill ai rydych chi'n dewis mecanwaith mannwl iawn sy'n dweud wrthych chi, gyda llawer mwy o fanylder, yr hyn sy'n digwydd ar lefel ysgol neu awdurdod lleol—mae hynny'n dod gyda dewisiadau am y baich ar y system, ac ar ddysgwyr unigol ar draws y system—neu rydych chi'n penderfynu mai’r hyn rydych chi'n chwilio amdano yw ffordd o fonitro perfformiad y system yn gyffredinol. A bryd hynny, byddwn ni angen y data hwnnw i wybod, er mwyn i chi fy nal i gyfrif am berfformiad y cwricwlwm maes o law. Felly, dyna fydd y ffynhonnell gwybodaeth, neu ffynhonnell o wybodaeth, y gallwch ei defnyddio, a gallwch brofi p’un a yw'r dulliau yr ydym ni’n eu dilyn yn cyflawni'r gofynion llythrennedd a rhifedd, yn cyflawni'r meysydd dysgu a phrofiad. Felly, byddai hynny'n darparu sylfaen o ddata i seilio'r heriau hynny, y mae’n amlwg angen i ni ei wneud.

Dydw i ddim yn cydnabod y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â sut mae ansicrwydd am gymwysterau yn effeithio ar y pontio rhwng blynyddoedd 6 a 7. Dydw i ddim yn gwybod sut all hynny fod ar hyn o bryd, os byddaf yn gwbl onest. Fel y bydd hi'n gwybod, mae Cymwysterau Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ynglŷn â diwygio cymwysterau. Bydd y cymwysterau hynny'n cael eu haddysgu yn gyntaf yn 2005, ac felly bydd y rhaglen rydw i’n ei disgrifio heddiw yn barod mewn pryd ar gyfer y garfan honno. Felly, mae'n amlwg yn bwysig bod y pethau hyn yn digwydd mewn ffordd sy'n systematig, a dyna fwriad yr hyn rydw i’n ei ddisgrifio heddiw. Gobeithio bod hynny'n cwmpasu’r rhan fwyaf o'r cwestiynau a ofynnodd yr Aelod o leiaf.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:41, 24 Ionawr 2023

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw, gan ehangu wrth gwrs ar y datganiad ysgrifenedig wythnos diwethaf. Dwi'n croesawu, yn amlwg, y pwyslais o ran sut rydyn ni'n canolbwyntio ar y dysgwyr hynny lle, ar y funud, rydyn ni'n gwybod bod tlodi yn effeithio ar eu cyrhaeddiant nhw. Does dim angen i fi ailadrodd—rydyn ni'n gwybod hynny'n barod. Ond, yn sgil yr argyfwng costau byw yn benodol, rydyn ni'n gweld mwy a mwy o ddysgwyr yn cael eu heffeithio felly.

Byddwch chi'n gwybod o'ch ymweliadau chi ag ysgolion, ac ati, bod ysgolion yn bryderus dros ben o ran disgyblion yn methu cyrraedd yr ysgol oherwydd costau bws—mae hwnna'n rhywbeth sydd wedi cael ei rannu gyda ni—y ffaith bod teuluoedd yn methu fforddio trydan, ac ati, ac yn methu fforddio bwyd, a'r ymyrraeth hefyd y mae ysgolion yn gorfod ei roi o ran y problemau sydd gennym ni o ran system CAMHS o ran efallai eu bod nhw yn defnyddio peth o'u harian i roi'r gefnogaeth ymarferol hynny mewn ysgolion ar y funud. A dwi'n meddwl bod mesur lles ein dysgwyr ni, yr amgylchedd, yr un mor bwysig â'r holl bethau eraill rydyn ni angen eu mesur. Ond dwi'n meddwl un o'r pethau y buaswn i'n hoffi ei ofyn ydy: beth fydd y cysylltiad rhwng y system yma a'r ymyrraethau y byddwch chi'n eu gwneud fel Llywodraeth o ran taclo tlodi, ac ati, gan ein bod ni'n gwybod bod hwnnw'n effeithio ar gyrhaeddiant? Ac a ydych chi'n gweld bod hyn yn mynd i roi mwy o hyblygrwydd, oherwydd os ydych chi'n mynd efo'r peth o ran sampl yn hytrach, fel rydych chi'n dweud, na rhyw system fiwrocrataidd, ydy hwnna'n golygu wedyn eich bod chi'n mynd i allu bod yn fyw ystwyth fel Llywodraeth yn eich ymateb, wrth i'r argyfwng costau byw effeithio ar fwy a mwy o fyfyrwyr? Mae jest gen i ddiddordeb i wybod o ran hynny.

Hefyd, un o'r pethau rydyn ni'n clywed, wrth gwrs, gan athrawon yn aml ydy o ran byrdwn llwyth gwaith. Sut ydych chi'n gweld y newidiadau hyn yn effeithio er gwell o ran y system yma, oherwydd yn amlwg, efo hunanasesu, ac ati, mae hwnna'n gallu bod yn bositif o ran ysgolion, oherwydd mae wastad yn system, os oes yna lot o bobl angen dod i mewn i ysgolion a bod y math yna o sgrwtini a chraffu, le mae'r llwyth gwaith yn aruthrol? Ydych chi'n gweld bod hyn yn mynd i fod yn rhan o leihau llwyth gwaith neu ychwanegu ato fo? A pha hyfforddiant ychwanegol bydd yn cael ei rhoi o ran yr athrawon a chefnogaeth o ran hyn?

Ac yn olaf, os caf i, mi fuasai gen i ddiddordeb, wrth ichi ddatblygu'r system ymhellach, cael mwy o wybodaeth ac ati. Ond, o ran yr ymyrraethau, a gwnes i sôn am ymyrraethau a chefnogaeth ac ati, o ran deilliant pob dysgwr, sut byddwn ni hefyd yn dysgu, os mai sampl ydy hyn, o ran yr arfer da sy'n digwydd mewn ysgolion? Oherwydd, yn aml, efallai fyddai'r ysgol yna ddim yn cael ei dewis ond yn gwneud gwaith aruthrol o dda yn y maes yma. Wedyn, sut fyddwn ni'n dal i barhau i sicrhau ein bod ni'n dysgu o'r gorau, felly? Mae yna lu o enghreifftiau da. Mi fues i ar ymweliad i Ysgol Nantgwyn yn fy rhanbarth yn ddiweddar, ac os ydych chi heb gael cyfle fe fuaswn i wir yn eich annog chi i fynd. Maen nhw'n adnabod pob un plentyn yn yr ysgol yna a'u teuluoedd ac yn gallu rhoi'r gefnogaeth a'r ymyriadau ond yn poeni'n ddirfawr oherwydd y sefyllfa ariannol, gan eu bod nhw wedi gwario pob ceiniog oedd ganddyn nhw i gefnogi dysgwyr yn ystod y pandemig ac yn parhau i wneud hynny. Felly, dydyn nhw ddim yn un o'r ysgolion lwcus yma sydd efo llwyth o arian wrth gefn, ond yn sicr, arfer da o ran y gefnogaeth honno. Felly sut ydych chi'n gweld, efo ysgolion fel yna, ein bod ni'n dal i ddysgu o'r gwaith gwych sy'n digwydd os mai sampl rydyn ni'n mynd ar ei ôl? Diolch i chi.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:45, 24 Ionawr 2023

Cwestiynau pwysig, os caf i ddweud. So, mae'r cwestiwn yma o samplo yn un pwysig. Dim ond un rhan yw'r broses o samplo. Felly, mae'r cynllun monitro cenedlaethol yn un rhan o'r ecosystem newydd, jest i roi rhywfaint, efallai, o gysur i'r Aelod. Ar hyn o bryd, o ran cynllunio hynny, beth dŷn ni ddim yn darogan bydd hynny'n ei roi yw'r math o specificity ar lefel ysgol o'r ymyraethau mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw. Ond beth mae e'n golygu yw bydd e'n dangos perfformiad cenedlaethol a bydd hynny'n dangos os oes angen pwysleisio approaches mewn gwahanol elfennau yn y cwricwlwm, er enghraifft. Felly, os nad ydyn ni'n gwneud y cynnydd rŷn ni'n disgwyl ei weld fel system, dyweder, o ran llythrennedd, wedyn beth fyddwn ni'n ei wneud fel Llywodraeth, beth fydd y cynghorau lleol a'r consortia yn ei wneud, yw edrych ble mae'r arfer da yn digwydd o ran llythrennedd a defnyddio hwnnw fel sail i gryfhau'r system yn gyffredinol. Mae dewisiadau yn hyn o ran ei ddylunio fe, ond dyna'r un rwyf i'n credu sydd fwyaf ymarferol.

O ran y cwestiwn arall roedd yr Aelod yn ei ofyn, sut rŷn ni'n gwybod sut mae'r approaches yn mynd i weithio ar lawr gwlad, mae hynny'n rhan o'r gwaith ecosystem ehangach. Os ydy'r Aelod wedi cael cyfle i edrych ar yr adroddiad—mae'n eithaf helaeth, felly rwy'n deall efallai os nad ydych chi wedi—mae sdwff yn hwnnw sy'n esbonio sut rŷn ni efallai yn mynd i'r afael gyda phethau, impact newidiadau polisi ac ati, ar lefel ysgol. Felly, bydd hynny'n rhan o'n hymateb ni fel Llywodraeth i hynny sydd yn yr adroddiad.

Ar y cwestiwn o lwyth gwaith, mae'r hunan asesu, wrth gwrs, yn digwydd fel rhan o'r system newydd. Mae hynny wedi cael ei gyhoeddi ers haf diwethaf. Y tîm arweinyddol, ar y cyfan, wrth gwrs, fydd yn arwain ar hynny, ond mae'r balans wedi newid yng nghyd-destun y berthynas gydag Estyn, ac mae'r approaches hynny yn lot fwy integredig ym mywyd yr ysgol.

O ran yr hyn rŷn ni'n sôn amdano heddiw, un o'r cyfleoedd sydd gyda ni, rwy'n credu, wrth edrych ar y data rŷn ni'n ei chasglu, yw'r cwestiwn, fel rôn i'n sôn amdano fe yn y datganiad, o gysoni sut mae hyn yn digwydd ar draws Cymru. Mae lefelau o wahaniaeth sylweddol iawn yn digwydd rhwng cynghorau lleol, ac efallai hefyd gwahanol rannau o'r system yn gofyn am yr un wybodaeth. Felly, beth hoffwn i weld ein bod ni'n gallu delifro fel rhan o hwn yw cysondeb a symleiddio hynny, ei fod e'n glir beth yw pwrpas y data rŷn ni'n gofyn amdano fe; os gallwn ni fod mewn sefyllfa lle mae'r data'n cael ei ofyn amdano fe unwaith, fod y system yn cyfathrebu yn well gyda'i gilydd yn y ffordd mae'r data yna'n cael ei ddefnyddio. Felly, mae wrth gwrs yn uchelgeisiol iawn i wneud hynny, ond rwy'n credu ei fod e'n deg fel quid pro quo i ysgolion os ŷn ni'n mynd i ddweud, 'Rŷn ni'n gofyn am y mathau yma o ddata, ond, ar y llaw arall, bydd cysondeb yn sut rŷn ni'n gofyn am hynny.' Felly dyna nod yr hyn rŷn ni'n sôn amdano heddiw.

Ac o ran y pwynt diwethaf, o ran yr hyn rŷn ni'n bwriadau ei wneud o ran cyhoeddi canlyniadau, mae rhai wedi dweud, 'Wel, onid yw hwn jest yn creu mwy o lwyth gwaith?' Ond y dewis oedd gennym ni oedd naill ai dylunio system newydd ar gyfer cyfnod rhwng nawr a 2025—. Wel, doedd e ddim yn gwneud lot o synnwyr i wneud hynny, ffeinidio proses hollol newydd o fewn y system jest er mwyn newid hynny mewn tair mlynedd. Roedd e'n teimlo i fi mai'r peth cyfrifol i wneud oedd defnyddio'r system data oedd gennym ni jest am yr un flwyddyn cyn COVID, gan fod pobl yn gyfarwydd â hynny, a'i fod e, fel hynny, yn creu llai o waith. Y Llywodraeth fydd yn cyhoeddi'r wybodaeth honno, gyda llaw, nid yr ysgolion fydd yn gorfod ei chasglu hi, felly mae hynny hefyd yn bwysig i gadw mewn cof.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:49, 24 Ionawr 2023

A'r siaradwr olaf ar yr eitem hon—Vikki Howells.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n cytuno â'ch sylwadau am ddiben gwerthuso, gwella ac atebolrwydd o fewn y broses addysg. Maen nhw i gyd yn weithdrefnau pwysig er mwyn i ysgolion allu gwella yr hyn y maen nhw'n ei gynnig i ddysgwyr a'u deilliannau. Rwyf eisiau canolbwyntio ar eich sylwadau ynghylch monitro a samplu cenedlaethol. Fel cyn-athro ysgol uwchradd, rwy'n gyfarwydd â sut mae hyn wedi gweithredu mewn ystafelloedd dosbarth yn y gorffennol, ac mae eich datganiad sy'n cyfeirio at asesiadau samplu a defnyddio'r rhain i fonitro cynnydd yn awgrymu, efallai, model gwahanol i'r hyn y gallai ysgolion fod yn gyfarwydd ag ef. Allwch chi ddweud ychydig mwy am sut rydych chi'n disgwyl i'r samplu hwn weithio'n ymarferol a pha drafodaethau y gallech chi fod wedi'u cael gyda'r sector cyn eich cynlluniau ar gyfer cynllun treialu yn 2025-26?

Ar gyfer fy ail gwestiwn a'r olaf, roedd gen i ddiddordeb darllen yr astudiaeth ymchwil ariannu cymdeithasol. Un o'r llinellau yno wnaeth daro tant gyda fy nghyn-yrfa yw'r sylw nad yw Llywodraeth Cymru yn casglu unrhyw ddata am lesiant dysgwyr mewn ffordd safonol. Felly, a gaf i ofyn pa waith sy'n cael ei wneud i gywiro hyn?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:50, 24 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ar yr ail bwynt, rwy'n glir iawn bod angen i ni symud i ffordd fwy safonol o wneud hynny, ac mae hynny'n sicr yn un o'r blaenoriaethau y byddaf eisiau eu gweld yn cael eu symud ymlaen yn ein hymateb i'r adroddiad cyllid cymdeithasol a gwaith Ymchwil Arad hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o hynny.

O ran y cynnig monitro cenedlaethol, mae yna—. Mae Ymchwil Arad a'r gwaith cyllid cymdeithasol wedi amlygu'r angen i ddeall, yn well nag yr ydym ni, ar draws y system, y cwestiynau o ran cyrhaeddiad a chynnydd. Wrth i ni ddileu'r asesiadau diwedd cyfnod allweddol yn raddol, mae hynny, yn amlwg, yn dod yn bwysicach fyth. Yn amlwg, dim ond rhai ysgolion a dysgwyr fydd yn rhan o'r asesiadau. Pwynt hynny yw nad ydyn nhw'n penderfynu'n ormodol ar ddulliau unigol ysgolion o gynllunio'r cwricwlwm, a'u bod yn cadw'r beichiau ar ysgolion mor isel â phosib. Felly, chwilio am ddarlun ar draws y system yr ydym ni. Bydd yn cael ei gynllunio mewn ffordd sy'n cyd-fynd yn agos iawn â'r ecosystem wybodaeth ehangach honno yr oeddwn i'n sôn amdani. Bydd hynny'n cael ei ddatblygu gan y grŵp ymarferwr yr oeddwn yn sôn amdano yn fy natganiad cynharach. Felly, bydd rôl arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr wrth ddylunio'r ecosystem hon a'r system fonitro sy'n eistedd ynddi yn gwbl hanfodol. Rwyf eisiau sicrhau y byddwn ni'n gallu deall sut mae gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn cyflawni, pa gymorth cenedlaethol arall y mae angen i ni ei ddarparu i'r system lle gallai grwpiau unigol o ddysgwyr, carfannau o ddysgwyr, dysgwyr a ddiffinnir gan nodweddion penodol, er enghraifft, fod angen cymorth ychwanegol. Ac rwy'n credu y bydd y pwynt y daeth yr Aelod i ben arno yn y fan yna, o ran llesiant a sut rydyn ni'n ymateb i gwestiynau am anfantais, yn bwysig—. Bydd hynny'n ddata pwysig iawn i ni ei gasglu fel rhan o'r rhaglen fonitro genedlaethol honno.