Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 24 Ionawr 2023.
Cwestiynau pwysig, os caf i ddweud. So, mae'r cwestiwn yma o samplo yn un pwysig. Dim ond un rhan yw'r broses o samplo. Felly, mae'r cynllun monitro cenedlaethol yn un rhan o'r ecosystem newydd, jest i roi rhywfaint, efallai, o gysur i'r Aelod. Ar hyn o bryd, o ran cynllunio hynny, beth dŷn ni ddim yn darogan bydd hynny'n ei roi yw'r math o specificity ar lefel ysgol o'r ymyraethau mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw. Ond beth mae e'n golygu yw bydd e'n dangos perfformiad cenedlaethol a bydd hynny'n dangos os oes angen pwysleisio approaches mewn gwahanol elfennau yn y cwricwlwm, er enghraifft. Felly, os nad ydyn ni'n gwneud y cynnydd rŷn ni'n disgwyl ei weld fel system, dyweder, o ran llythrennedd, wedyn beth fyddwn ni'n ei wneud fel Llywodraeth, beth fydd y cynghorau lleol a'r consortia yn ei wneud, yw edrych ble mae'r arfer da yn digwydd o ran llythrennedd a defnyddio hwnnw fel sail i gryfhau'r system yn gyffredinol. Mae dewisiadau yn hyn o ran ei ddylunio fe, ond dyna'r un rwyf i'n credu sydd fwyaf ymarferol.
O ran y cwestiwn arall roedd yr Aelod yn ei ofyn, sut rŷn ni'n gwybod sut mae'r approaches yn mynd i weithio ar lawr gwlad, mae hynny'n rhan o'r gwaith ecosystem ehangach. Os ydy'r Aelod wedi cael cyfle i edrych ar yr adroddiad—mae'n eithaf helaeth, felly rwy'n deall efallai os nad ydych chi wedi—mae sdwff yn hwnnw sy'n esbonio sut rŷn ni efallai yn mynd i'r afael gyda phethau, impact newidiadau polisi ac ati, ar lefel ysgol. Felly, bydd hynny'n rhan o'n hymateb ni fel Llywodraeth i hynny sydd yn yr adroddiad.
Ar y cwestiwn o lwyth gwaith, mae'r hunan asesu, wrth gwrs, yn digwydd fel rhan o'r system newydd. Mae hynny wedi cael ei gyhoeddi ers haf diwethaf. Y tîm arweinyddol, ar y cyfan, wrth gwrs, fydd yn arwain ar hynny, ond mae'r balans wedi newid yng nghyd-destun y berthynas gydag Estyn, ac mae'r approaches hynny yn lot fwy integredig ym mywyd yr ysgol.
O ran yr hyn rŷn ni'n sôn amdano heddiw, un o'r cyfleoedd sydd gyda ni, rwy'n credu, wrth edrych ar y data rŷn ni'n ei chasglu, yw'r cwestiwn, fel rôn i'n sôn amdano fe yn y datganiad, o gysoni sut mae hyn yn digwydd ar draws Cymru. Mae lefelau o wahaniaeth sylweddol iawn yn digwydd rhwng cynghorau lleol, ac efallai hefyd gwahanol rannau o'r system yn gofyn am yr un wybodaeth. Felly, beth hoffwn i weld ein bod ni'n gallu delifro fel rhan o hwn yw cysondeb a symleiddio hynny, ei fod e'n glir beth yw pwrpas y data rŷn ni'n gofyn amdano fe; os gallwn ni fod mewn sefyllfa lle mae'r data'n cael ei ofyn amdano fe unwaith, fod y system yn cyfathrebu yn well gyda'i gilydd yn y ffordd mae'r data yna'n cael ei ddefnyddio. Felly, mae wrth gwrs yn uchelgeisiol iawn i wneud hynny, ond rwy'n credu ei fod e'n deg fel quid pro quo i ysgolion os ŷn ni'n mynd i ddweud, 'Rŷn ni'n gofyn am y mathau yma o ddata, ond, ar y llaw arall, bydd cysondeb yn sut rŷn ni'n gofyn am hynny.' Felly dyna nod yr hyn rŷn ni'n sôn amdano heddiw.
Ac o ran y pwynt diwethaf, o ran yr hyn rŷn ni'n bwriadau ei wneud o ran cyhoeddi canlyniadau, mae rhai wedi dweud, 'Wel, onid yw hwn jest yn creu mwy o lwyth gwaith?' Ond y dewis oedd gennym ni oedd naill ai dylunio system newydd ar gyfer cyfnod rhwng nawr a 2025—. Wel, doedd e ddim yn gwneud lot o synnwyr i wneud hynny, ffeinidio proses hollol newydd o fewn y system jest er mwyn newid hynny mewn tair mlynedd. Roedd e'n teimlo i fi mai'r peth cyfrifol i wneud oedd defnyddio'r system data oedd gennym ni jest am yr un flwyddyn cyn COVID, gan fod pobl yn gyfarwydd â hynny, a'i fod e, fel hynny, yn creu llai o waith. Y Llywodraeth fydd yn cyhoeddi'r wybodaeth honno, gyda llaw, nid yr ysgolion fydd yn gorfod ei chasglu hi, felly mae hynny hefyd yn bwysig i gadw mewn cof.