Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y cymunedau ffydd ledled Cymru, sydd wedi bod yn bartneriaid arbennig o effeithiol, ac sydd wedi ymgysylltu â’r cynllun hybiau cynnes, ledled y wlad, ym mhob cwr o Gymru? Gwn, er enghraifft, fod Eglwys Festival, yn fy etholaeth i—yr eglwys yr af iddi bob dydd Sul—yn un o’r hybiau cynnes hynny sy’n estyn allan at bobl yn y gymuned leol ac yn agor ei drysau fel ei fod ar gael fel man diogel a chynnes i bobl allu ei fwynhau. Ond mae miloedd lawer o’r rhain, wrth gwrs, ledled y genedl, ac felly, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y cymunedau ffydd sydd wedi gweithio’n galed iawn i estyn allan a phartneru â Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi'r rhaglen bwysig hon ar waith?