Hybiau Cynnes

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:31, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Ymunaf â chi i longyfarch y cymunedau ffydd o bob enwad sydd wedi chwarae eu rhan, fel y dywedwch. Ac yn wir, ddydd Llun, yn is-bwyllgor y Cabinet ar gostau byw, clywsom gan Gyngor Mwslimiaid Cymru, ac yn wir, gan yr Eglwys yng Nghymru hefyd—bu'r Archesgob Andy John yn sôn am yr ymgyrch bwyd a lloches a thanwydd a gynhaliwyd gan yr eglwysi. Felly, ar draws pob enwad, yn wir, ein mosgiau a'n temlau, mae pawb yn chwarae rhan allweddol, a hoffwn longyfarch yn arbennig ein holl etholaethau lle mae hynny'n digwydd yn eu cymunedau.