Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 25 Ionawr 2023.
Weinidog, mae gan Gwm Cynon 19 o ganolfannau croeso yn y gaeaf, sy’n cynnig amgylchedd diogel, hygyrch a chynnes i bobl leol yn ystod y dydd, ac rwy’n siŵr yr hoffech ymuno â mi i ddiolch i bawb sy’n darparu’r adnodd amhrisiadwy hwn y gaeaf hwn. Mae darparu cyngor a chymorth i'r bobl sy'n mynychu'r mannau hyn yn un o amcanion allweddol y canolfannau. Felly, hoffwn ofyn pa waith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i hwyluso'r broses o rannu arferion gorau yn hyn o beth, fel bod mynychwyr yn gallu cael mynediad at y cymorth cywir, a darparwyr yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt.