Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 25 Ionawr 2023.
Rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn falch o glywed bod y bylchau hynny'n cael eu llenwi, ond yn ddiweddar tynnwyd fy sylw at achos pryderus gan etholwr yn Wildmill a gafodd ei atal rhag hawlio'r cylch olaf o daliadau cymorth costau byw Llywodraeth y DU. Pan saethodd costau byw i fyny, bu'n rhaid i fy etholwr geisio cymorth ond oherwydd ei fod yn derbyn budd-dal anabledd anafiadau diwydiannol, sy'n golygu, er ei fod yn derbyn lwfans cymorth anabledd yn seiliedig ar incwm yn ogystal â lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, nid oedd yn gallu cael mynediad at gynllun taliadau costau byw Llywodraeth y DU o gwbl. A oes lle i Lywodraeth Cymru ystyried camu i'r adwy a llenwi bylchau fel hyn? Nid yw hwn ond yn un o lawer o achosion a ddaeth i fy sylw yn ystod cyfnod o galedi mawr i lawer.