1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2023.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Cyllid a Thollau EF, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol i sicrhau bod cymorth ariannol sydd wedi'i gynllunio i gynorthwyo gyda chostau byw uwch yn cyrraedd cymaint o bobl â phosib? OQ59006
Diolch, Luke Fletcher. Mae ein cynlluniau cymorth ariannol wedi'u llunio i gyd-fynd â chynlluniau sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth y DU. Mae ymgysylltiad cynnar â'r Adran Gwaith a Phensiynau a CThEF wedi galluogi awdurdodau lleol i fabwysiadu dull rhagweithiol, gan eu galluogi i ddefnyddio data'r Adran Gwaith a Phensiynau i gyrraedd cynifer o bobl â phosibl.
Diolch am yr ateb yna, Gweinidog.
Rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn falch o glywed bod y bylchau hynny'n cael eu llenwi, ond yn ddiweddar tynnwyd fy sylw at achos pryderus gan etholwr yn Wildmill a gafodd ei atal rhag hawlio'r cylch olaf o daliadau cymorth costau byw Llywodraeth y DU. Pan saethodd costau byw i fyny, bu'n rhaid i fy etholwr geisio cymorth ond oherwydd ei fod yn derbyn budd-dal anabledd anafiadau diwydiannol, sy'n golygu, er ei fod yn derbyn lwfans cymorth anabledd yn seiliedig ar incwm yn ogystal â lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, nid oedd yn gallu cael mynediad at gynllun taliadau costau byw Llywodraeth y DU o gwbl. A oes lle i Lywodraeth Cymru ystyried camu i'r adwy a llenwi bylchau fel hyn? Nid yw hwn ond yn un o lawer o achosion a ddaeth i fy sylw yn ystod cyfnod o galedi mawr i lawer.
Diolch yn fawr iawn am dynnu ein sylw at hynny, Luke. Hoffwn gael sgwrs ddilynol am y mater hwn gyda chi, yn dilyn eich cwestiwn heddiw. Dyma lle mae'n rhaid i ni weithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a CThEF ac mae gwaith da yn mynd rhagddo, ond mewn gwirionedd, mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'r trefniadau'n lleihau mynediad at fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd, ac rydych wedi disgrifio hynny. Mae'n rhaid inni adnabod cyfleoedd i gyrraedd cynifer o bobl ag sy'n bosibl. Mewn gwirionedd, mae gennym brofforma a luniwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a CThEF, ond byddaf yn trosglwyddo'r neges ar y mater penodol hwn. A gaf fi ddweud mai un o'r pethau siomedig, rwy'n credu, am waith y Pwyllgor Materion Cymreig yn ddiweddar oedd y ffaith eu bod yn awgrymu, roedd ganddynt argymhelliad—fe'i cadeiriwyd gan Stephen Crabb—i greu bwrdd cynghori rhyngweinidogol ar nawdd cymdeithasol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i edrych ar rinweddau datganoli gweinyddiaeth budd-daliadau lles i Gymru? Cafodd yr argymhelliad hwnnw ei wrthod gan Lywodraeth y DU, ond rwyf eisiau ailedrych ar hynny, oherwydd dyma sut y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn.
A gaf fi ddiolch i Luke Fletcher am godi'r cwestiwn hwn? Rwy'n cytuno'n llwyr â'r teimladau y dylai pob corff wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Tuag at ddiwedd y Senedd flaenorol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei chynllun gweithredu pwyslais ar incwm yn benodol mewn perthynas â thlodi plant. Roedd hwn yn cynnwys amcanion a oedd yn ymwneud â helpu teuluoedd i fod yn fwy gwydn yn ariannol. Rwy'n deall, Weinidog, fod Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r gronfa gynghori sengl sy'n rhoi cyngor ariannol i deuluoedd, rhywbeth y byddai pob un ohonom yn ei groesawu. Ond hoffwn ofyn, Weinidog, pa asesiad rydych wedi'i wneud o ganlyniadau'r cynllun gweithredu pwyslais ar incwm gwreiddiol? Sut ydych chi wedi defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i lywio'r camau sydd wedi eu cymryd gan y Llywodraeth drwy gydol yr heriau costau byw rydym bellach yn eu hwynebu? A pha ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i ddiweddaru'r strategaeth hon yng ngoleuni'r hinsawdd economaidd anodd ar hyn o bryd?
Diolch yn fawr, Peter Fox. Gwneud y gorau o incwm yw un o'r prif ffyrdd o fynd i'r afael â thlodi. Pan wnaethom gomisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i'n cynghori ar ein llwybr i fynd i'r afael â thlodi, cafodd gwneud y gorau o incwm—rhoi arian ym mhocedi'r bobl dlotaf—ei gynnig fel blaenoriaeth allweddol. Mae ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', ac i ddilyn hynny, rydym newydd lansio ein hymgyrch 'Yma i helpu' yn ddiweddar, sy'n ymgyrch i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau, yn hanfodol i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y budd-daliadau hynny. Wrth gwrs, mae gwaith Cyngor ar Bopeth yn gallu cynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt hefyd. Rydym yn eu hariannu drwy'r gronfa gynghori sengl.
I roi ateb i chi ar y pwynt am y trydydd—. Dyma ein trydedd ymgyrch i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau, 'Yma i helpu'. Llwyddodd y ddwy ymgyrch flaenorol i gynorthwyo dros 8,000 o bobl i ymateb i'r alwad i gysylltu ag Advicelink Cymru a'u helpu i hawlio £2.7 miliwn ychwanegol o gymorth.
6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i roi cefnogaeth ariannol i awdurdodau tân ac achub? OQ58992
Mae'r awdurdodau tân ac achub yn pennu eu cyllid eu hunain i gyd bron drwy godi cyfraniadau gan eu hawdurdodau lleol cyfansoddol. Nid yw'r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru yn cael cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru.
Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb. Cefais wybod gan aelodau awdurdod tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru eich bod wedi rhoi gwybod i'r gwasanaeth yno y bydd y grant Airwave FireLink, a ddefnyddir i gefnogi eu platfform radio hanfodol, yn dod i ben yn gyfan gwbl ym mis Ebrill eleni. Mewn cymhariaeth, mae'r Swyddfa Gartref yn araf leihau ei chyllid grant FireLink i awdurdodau tân ac achub Lloegr 20 y cant bob blwyddyn am bum mlynedd. Er bod hwn yn cael ei leihau'n raddol, mae'n dal i roi cyfle i awdurdodau tân ac achub yno gynllunio ar gyfer pan fydd y grant yn dod i ben a gwasgaru'r effaith ariannol, yn hytrach na chael pedwar mis yn unig i ddod o hyd i £0.5 miliwn yn eu cyllidebau. O ystyried bod Airwave yn achubiaeth hanfodol i wasanaethau golau glas, gan gynnwys gwylwyr y glannau, a fyddech yn ailystyried eich penderfyniad a lleihau'r grant hwn yn raddol yn lle hynny?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Ac mae hyn yn rhywbeth sydd wedi cael ei godi gyda fi o'r blaen hefyd. Byddwn yn dweud fy mod yn deall sefyllfa'r awdurdodau tân ac achub, ond fel hwy ac fel awdurdodau lleol cyfansoddol, rydym i gyd yn wynebu llawer o heriau ariannu yn yr hinsawdd bresennol. Nid ydym yn arfer darparu cyllid ar gyfer cyfarpar neu systemau gweithredol, fel FireLink, felly bydd yn rhaid iddynt godi'r cyllid hwnnw o'u hadnoddau craidd eu hunain.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol, o ddatganiad yr hydref y Canghellor ar 17 Tachwedd, ei fod wedi cynrychioli toriad sylweddol mewn termau real i gyllideb Llywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, sydd wedi ei ddwysáu gan rymoedd allanol, megis yr argyfwng costau byw a biliau ynni uwch. Mae'n anodd iawn, wrth osod cyllideb heriol iawn, i Lywodraeth Cymru barhau i ariannu cyfarpar cyfathrebu gweithredol. Fel y dywedwch, mae wedi golygu y bydd yn rhaid torri cyllid ar gyfer FireLink, system gyfathrebu weithredol y gwasanaeth, o 2023-24 ymlaen. Mae'r cyllid hwn yn llai na 1 y cant o'r cyllid cyffredinol y mae'r gwasanaeth wedi bod yn ei gael gan eu hawdurdodau cyfansoddol. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod yr heriau. Er bod setliadau cyllideb blaenorol wedi caniatáu inni ddarparu'r cyllid ar gyfer y ffioedd hyn ers 2010, bu'n anodd cyfiawnhau hynny yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Ac os hoffai'r Aelod ein cefnogi yn ein hymdrechion, mae croeso iddo gael gair yng nghlust ei gymheiriaid yn Llywodraeth y DU a'r Swyddfa Gartref, i helpu gyda chyllid pellach i ni yng Nghymru.
Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Hoffwn fynd ar drywydd y sefyllfa yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a gynrychiolir gennyf fi ac eraill, a thynnodd y prif swyddog tân yno sylw at ansefydlogrwydd ein gwasanaethau tân mewn ardaloedd gwledig os yw pethau'n parhau fel y maent. Ac rwy'n siŵr y byddem i gyd yn pryderu am hynny. Mae'r rhan fwyaf o staff y gwasanaeth yn y canolbarth a'r gorllewin yn ddiffoddwyr tân wrth gefn ac maent yn cael eu cefnogi gan staff amser llawn. Ond mae'r gwasanaeth yn ei chael yn fwyfwy anodd recriwtio a chadw'r diffoddwyr tân hynny. Mae'n amlwg nad yw'r cynnig cyflog yn gymesur â nifer yr oriau y maent yn eu gweithio—mae rhai ohonynt yn gweithio tua 120 awr. Felly, tybed a allwn gael adolygiad o grant Llywodraeth Cymru, fel y gall ein gwasanaethau tân wneud y cynnydd angenrheidiol i'n gwasanaeth diffoddwyr tân wrth gefn. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddiolch i Jane Dodds am eich cwestiwn a'ch diddordeb yn y maes hwn? Oherwydd, fel chi, rwy'n cydnabod mai gwasanaethau tân wrth gefn, i nifer o gymunedau ledled Cymru, sy'n darparu'r diogelwch sydd ei angen ac sy'n cael ei werthfawrogi, ac mae'r un peth yn wir i mi fy hun yn ardal gogledd Cymru hefyd. Er hynny, rwyf eisiau nodi ar y cychwyn nad ydym yn ariannu awdurdodau tân ac achub yn uniongyrchol yng Nghymru, felly ni fyddem yn eu hariannu'n uniongyrchol ar gyfer gwasanaethau craidd.
Rwy'n rhannu'r pryderon ynghylch dyfodol y system ar ddyletswydd yn ôl galw, ac rydym wedi gweld newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn gweithio ac yn byw, sydd wedi creu sawl her. Ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r penaethiaid a chadeiryddion yr awdurdodau tân ac achub, gan gynnwys y tro diwethaf imi siarad â phennaeth gwasanaeth y canolbarth a'r gorllewin—rydym yn rhannu pryderon ynghylch yr heriau i'r system ar ddyletswydd yn ôl galw a chynaliadwyedd i'r dyfodol. Ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda hwy a'r awdurdodau eraill i weld, mewn gwirionedd, sut y gallwn fynd i'r afael â'r heriau hynny. Ond rydym yn gwybod y bydd hyn yn galw am ymdrech sylweddol, ac mae angen bod yn arloesol ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny yn y dyfodol, a gweithio i gefnogi cynaliadwyedd gwasanaethau, yn enwedig mewn cymunedau mwy gwledig ledled Cymru. Ac mewn gwirionedd rwyf i fod i gyfarfod â'r awdurdodau tân ac achub a chynrychiolwyr eraill yfory, fel rhan o'n fforwm partneriaeth gymdeithasol newydd ar gyfer gwasanaethau tân ac achub, ac rwy'n deall y bydd y mater hwn ar yr agenda ar gyfer hynny hefyd.