1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2023.
8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu cyfiawnder data? OQ58996
Diolch, Sarah Murphy. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn defnyddio data yn dryloyw, yn ddiogel ac yn foesegol er budd holl ddinasyddion Cymru, fel y nodir yng nghenhadaeth 6 o'r 'Strategaeth Ddigidol i Gymru'.
Diolch. Mae'r Labordy Cyfiawnder Data, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, yn diffinio cyfiawnder data fel y
'berthynas rhwng creu data a chyfiawnder cymdeithasol, gan dynnu sylw at wleidyddiaeth ac effeithiau prosesau sy'n cael eu llywio gan ddata a data mawr'— yn y bôn, tynnu sylw at y niwed a'r peryglon posibl i ddinasyddion. Rydym wedi gweld hyn yn ymchwiliad ein Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i drais domestig ac anghenion menywod mudol. Dywedodd Elizabeth, o gynghrair Step Up Migrant Women, wrthym, pan wnaethant annog menyw i ddweud wrth yr heddlu am gam-drin domestig, fe wnaethant ei adrodd ar-lein, ac wyth diwrnod yn ddiweddarach, fe gyrhaeddodd llythyr rheolaeth fewnfudo ei thŷ. Ac yn 2019, adroddwyd bod heddlu yn Lloegr wedi cyfaddef bod ganddynt gytundeb ysgrifenedig gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i rannu unrhyw wybodaeth am bobl anabl sy'n cymryd rhan mewn protestiadau hinsawdd. Gwyddom hefyd, yn Hackney, fod yr awdurdod lleol wedi defnyddio cronfa ddata dadansoddi rhagfynegol i asesu pob un o'r 53,000 o blant sy'n byw yno. Fe wnaethant ddefnyddio'r gronfa ddata hon i nodi pa blant a allai fod mewn perygl o gael eu hesgeuluso, gan ddefnyddio eu nodweddion, megis oedran, ethnigrwydd ac amddifadedd, i greu'r sgôr, rhywbeth y byddwn i, yn y bôn, yn ei alw'n 'sgorio dinasyddion'. A'r peth am sgorio dinasyddion, a'r math hwn o ddata sy'n cael ei gasglu mewn sectorau cyhoeddus, yw bod pobl yn hollol anymwybodol fod y data ymddygiadol hwn yn cael ei gasglu; maent yn cael eu hasesu, maent yn cael eu categoreiddio ac nid oes ganddynt unrhyw ffordd o ymladd yn ôl ar hyn a chael unrhyw fath o dryloywder yn ei gylch. Mae ymchwilwyr wedi dadlau bod arferion data wedi cael eu normaleiddio yn ein cymdeithas cyn inni gael cyfle i gynnal trafodaeth gyhoeddus ehangach ar foeseg defnyddio data yn y ffordd hon. Felly, Weinidog, wrth i sgorio dinasyddion barhau i ddatblygu yn y sector cyhoeddus, a ydych yn cytuno bod yn rhaid i'n hawliau dynol yn y byd digidol adlewyrchu ein hawliau dynol yn y byd go iawn?
Diolch yn fawr, Sarah Murphy. Rwyf eisiau cydnabod y ffyrdd y mae Sarah Murphy, yn arbennig, yn mynd i'r afael â'r mater hwn—ac rwy'n credu ei fod o fudd i bob un ohonom—a'r ffordd y mae'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol, oherwydd rydym i gyd yn dysgu am hyn, ond mae gennym gyfrifoldebau ac mae gennym bwerau. Mae gan bawb mewn awdurdod bwerau, ac mae'n rhaid inni gydnabod y cysylltiad rhwng cyfiawnder data a chyfiawnder cymdeithasol yn y ffordd rydych wedi'i disgrifio. Diolch am gyfeirio at y ffyrdd y mae'r mater hwn bellach wedi dod yn fyw, o ran y dystiolaeth yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am fenywod mudol a'r ffordd y mae data'n gallu cael ei gam-drin yn ogystal â'i ddefnyddio. Mae hyn yn ymwneud â'r math hwnnw o gydbwysedd. Roeddwn yn falch o roi tystiolaeth i'r pwyllgor hwnnw, ond hefyd i edrych ar hyn o safbwynt dinesydd a sut y gall dinasyddion ymgysylltu. Ac felly mae'n rhaid iddo fod wrth wraidd ein meddylfryd cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb—sut mae ymgysylltu â'n dinasyddion.
Rydym yn ffodus iawn fod gennym y Labordy Cyfiawnder Data yma ym Mhrifysgol Caerdydd, a'r gwaith y maent wedi'i wneud. Ac rydych chi, yn amlwg, wedi ymgysylltu; rydym yn ymgysylltu â'r mater mewn perthynas â sgorio dinasyddion. Mae'n bwysig iawn. Ac mae gennym berthynas agos â'r Ganolfan Moeseg Data ac Arloesi, ond rydym eisiau gweld sut y gallwn gael cyrff cyhoeddus i ystyried moeseg data drwy gyhoeddi canllawiau, a byddai'r canllawiau hynny'n berthnasol iawn ar draws pob sector yn wir wrth fwrw ymlaen â hyn.
Diolch i'r Gweinidog.