2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2023.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyngor y mae wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ar gymwyseddau datganoledig? OQ59008
Diolch am y cwestiwn. Fel y mae'r cynllun wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, gallai'r Bil roi awdurdod dilyffethair i Weinidogion Llywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, yn groes i'r setliad datganoli sydd wedi ei sefydlu'n ddemocrataidd. Rydym wedi ailadrodd i Lywodraeth y DU, ar lefel swyddogol a gweinidogol, fod angen parchu a gwarchod ein setliad datganoli.
Diolch. Gallai deddfwriaeth bwysig, yn amrywio o hawliau gweithwyr i reoliadau diogelu'r amgylchedd, fod ar fin diflannu yn dilyn Brexit, os yw Bil cyfraith yr UE a ddargedwir yn parhau i fwrw ymlaen ar ei ffurf bresennol. Rwy'n ddiolchgar i chi, Gwnsler Cyffredinol, am dynnu sylw at oblygiadau difrifol y Bil hwn a'r goblygiadau i ni yma yng Nghymru a'r Senedd hon, oherwydd bydd llawer o'r miloedd o ddeddfau a osodwyd yn cael eu diddymu cyn diwedd y flwyddyn, ac fe fyddant yn dod o dan gymwyseddau datganoledig. Nid wyf yn credu bod pobl yn sylweddoli beth fydd goblygiadau hyn. Rwy'n gwybod eich bod yn dal i dynnu sylw at y mater, ond nid wyf yn credu bod pobl yn sylweddoli, a bydd yn rhy hwyr pan fydd yn digwydd. Gwnsler Cyffredinol, a allech chi roi diweddariad ar y sylwadau rydych wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU am y ffordd y mae'n tresmasu ar hawliau datganoledig gyda'r Bil cwbl ddiangen a pheryglus hwn? Diolch.
Wel, mae hwn yn Fil difrifol iawn, yn ddeddfwriaeth ddifrifol iawn, gyda chanlyniadau difrifol iawn. Mae'r pryderon am y canlyniadau hynny, rwy'n credu, yn cael eu rhannu ar draws pob plaid wleidyddol ar hyn o bryd. Credaf ei bod yn ddeddfwriaeth sy'n cael ei llywio'n ideolegol gan leiafrif bach yn San Steffan, ac rwy'n credu bod canlyniadau difrifol i holl Lywodraethau'r DU os yw'r Bil yn bwrw ymlaen ar ei ffurf bresennol.
Yn gyntaf, ni chawsom fawr o ymwneud ag ef, â chynnwys y Bil. Yn wir, fel yr adroddais i'r Senedd hon, rwy'n credu mai'r hysbysiad cyntaf a gawsom oedd galwad i gyfarfod ar ddydd Sadwrn gyda'r Gweinidog, Suella Braverman ar yr adeg benodol honno, ac ni chawsom lawer o wybodaeth am yr hyn a fyddai'n cael ei drafod. Gallaf ddweud fy mod wedi cael llu o gyfarfodydd ers hynny. Rwyf wedi cyfarfod ar sawl achlysur â'r Gweinidog Rees-Mogg; rydym wedi cael nifer o eitemau o ohebiaeth, gan gynnwys llythyr ar y cyd ar y dechrau oddi wrthyf fi ac oddi wrth Lywodraeth Yr Alban a amlygodd y pryderon difrifol ynglŷn â cheisio newid deddfwriaeth yn y ffordd hon. Nid pwynt gwleidyddiaeth plaid mo hwn; mae hyn yn ymwneud â chyfraith wael. Mae'n ffordd wael o newid cyfraith, ac mae'n rhoi pwerau dilyffethair i Lywodraeth y DU, gyda chanlyniadau difrifol iawn. Mae hefyd yn ffordd o osgoi'r Senedd, oherwydd nid yw'n rhoi pwerau i'r Senedd ei hun i graffu ar ddeddfwriaeth, i ddeall yr hyn y gall darnau pwysig o ddeddfwriaeth ei newid, ond yn hytrach mae'n rhoi'r pwerau hyn i gyd yn nwylo Gweinidogion Llywodraeth y DU yn unig. Dylai hynny fod yn rhywbeth a ddylai boeni pawb sy'n ymwneud â democratiaeth seneddol.
Ar ben y llythyrau, cyfarfûm â Felicity Buchan, Gweinidog Llywodraeth y DU, ddoe i ailadrodd y pryderon hynny, a byddaf yn cadeirio cyfarfod o'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yr wythnos nesaf lle bydd y mater hwn yn cael ei godi eto.
Dau bryder mawr sydd gennym, wrth gwrs, yw ei fod yn cynnwys pwerau cydamserol a fyddai'n galluogi Llywodraeth y DU i newid cyfraith Cymru heb gyfeirio at Lywodraeth Cymru o gwbl. Mae ganddo hefyd gymal machlud, lle mae holl gyfreithiau'r UE a ddargedwir yn cael eu diddymu, ni waeth beth ydyw ac ni waeth pa graffu a wnaed, neu na wnaed arno, erbyn 31 Rhagfyr 2023. Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi rhoi rhyw fath o docyn achub i'w hunain o fewn y Bil fel y gallant ei ymestyn, wedi iddynt sylweddoli beth fydd canlyniad yr hyn y maent yn ceisio ei wneud. Rydym wedi gofyn am yr un pwerau'n union ac yn anffodus nid ydym yn cael y rheini chwaith.
Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod pob pryder sydd gennym, sy'n cael eu rhannu gan yr Alban, sy'n cael eu rhannu gan lawer ar draws y pleidiau gwleidyddol yn Llywodraeth San Steffan rwy'n credu, ac sy'n cael eu rhannu gan fusnesau, a fydd yn ysgwyddo costau sylweddol o ganlyniad i'r Bil hwn os bydd yn cael ei dderbyn ar ei ffurf bresennol—. Ac nid oes ymatebion digonol wedi bod i'r pryderon a fynegwyd.