2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2023.
2. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith yr ardoll prentisiaethau ar hyfforddiant cyfreithiol yng Nghymru? OQ59002
Diolch. Mae Gweinidogion Cymru wedi dweud yn glir, ers iddo gael ei gyflwyno, nad yw Llywodraeth Cymru o blaid ardoll brentisiaethau'r DU. Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r sector cyfreithiol i gyflwyno prentisiaethau a fydd yn cefnogi twf a datblygiad.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw ac yn wir mae cynnydd wedi bod, gan weithio gyda phartneriaid yn y proffesiwn cyfreithiol, gyda'r Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEx), gyda cholegau a darparwyr addysg bellach dros y blynyddoedd diwethaf i gyrraedd y pwynt lle mae gennym gymhwyster cyfnod sylfaen lefel 3 yn awr a chymhwyster uwch lefel 5 o'r cymhwyster proffesiynol CILEx newydd, y CPQ, ond mae llawer yn y proffesiwn, yn enwedig cyfreithwyr, a Chymdeithas y Cyfreithwyr yn eu plith, yn credu bod angen rhaglen brentisiaeth lefel 7 ar gyfer cyfreithwyr yng Nghymru hefyd. Mae gennym broblemau o hyd gyda'r ardoll brentisiaethau a'r ffaith ei bod yn cael ei chodi ar gwmnïau Cymreig, ond nid oes gennym gyfrifoldeb llawn i allu ei defnyddio yn y ffordd y byddem eisiau ei defnyddio yng Nghymru. Ond tybed: a wnaiff ymrwymo i weithio gyda'r sefydliadau partner hynny i ystyried sut y gellir bwrw ymlaen â hyn maes o law?
Diolch. Rydych wedi codi maes pwysig, lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried sut y gall gefnogi datblygiad y proffesiwn cyfreithiol, y rhai sy'n cael mynediad ato, ac, yn y pen draw, y rhai sy'n gallu darparu gwasanaethau cyfreithiol o fewn cymunedau. Y peth cyntaf i'w ddweud am yr ardoll brentisiaethau, wrth gwrs, yw ei bod fel treth ar gyflogwyr, nid oeddem yn ei chefnogi, ac ychydig iawn o fudd ariannol a gawn o ganlyniad iddi.
I droi'n ôl at sylwedd eich cwestiwn, sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant cyfreithiol, fel y dywedwch, fis Medi diwethaf, fe wnaethom gyflwyno prentisiaethau paragyfreithiol, sy'n caniatáu i brentisiaid ennill cymwysterau Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol, a dechreuodd y garfan gyntaf o'r rheini yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin ym mis Medi 2022. Fel y dywedwch, rydym wedi ei ymestyn i gynnwys cymwysterau lefel 3 a lefel 5, ac rydym yn edrych ar gymhwyster lefel 7; rydym yn edrych ar y mynediad at brentisiaethau cyfreithwyr hefyd. Mae hynny ychydig yn fwy cymhleth, oherwydd ei fod yn codi materion ynghylch yr hyn y mae llawer o gwmnïau eisoes yn ei wneud o ran cefnogi a thalu prentisiaid, a'r hyn rydym eisiau ei wneud mewn gwirionedd yw sicrhau bod unrhyw beth y gallem ei wneud yn arwain at well mynediad i fwy o bobl, mynediad mwy amrywiol, a hefyd fod pobl yn gallu darparu gwasanaethau cyfreithiol mewn cymunedau, yn hytrach na dim ond disodli gwariant sydd eisoes yn digwydd. Yr hyn y gallaf ei ddweud, serch hynny, yw ein bod wedi cyhoeddi manyleb ar gyfer asesiad o'r angen am brentisiaethau cyfreithwyr yng Nghymru, a gaeodd i dendrau ddoe. Y nod yw sefydlu i ba raddau y gall gradd-brentisiaeth cyfreithiwr helpu i ddiwallu anghenion hyfforddiant a datblygiad y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru.