Wythnos Pedwar Diwrnod

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:46, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, pe bai'r Aelod wedi bod o gwmpas ar yr adeg honno, rwy'n siŵr y byddech wedi bod yn gwneud yn union yr un araith pan aethom o wythnos waith saith diwrnod i wythnos waith chwe diwrnod, ac rwy'n tybio eich bod yn dal yn ddig nad ydym yn anfon plant o dan 12 oed i lawr y pyllau glo. O, fe anghofiais—fe wnaethoch chi gau'r rhan fwyaf o'r pyllau glo, felly mae'n debyg fod hynny wedi cael gwared ar y broblem honno.

Rwy'n siŵr hefyd eich bod yn dal i gefnogi safbwynt y Blaid Geidwadol pan wrthwynebodd yr isafswm cyflog a'r holl bethau a ddywedwyd am yr isafswm cyflog ar y pryd. Felly, gwrandewch, rwy'n clywed beth a ddywedwch. Mae arnaf ofn eich bod chi'n dal i fyw yn Oes Fictoria. Rydym bellach yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain ac rydym eisiau gofalu am y bobl sy'n gweithio am eu bywoliaeth, ac rydym eisiau cael economi dda ac effeithlon a chynhyrchiol.